Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Cofrestru neu newid cofnod o farwenedigaeth

Gall cofrestru marwenedigaeth fod yn brofiad brawychus. Mae'r canllaw hwn ar gael i'ch helpu drwy'r broses, neu os byddai'n well gennych siarad â rhywun yn bersonol, cysylltwch â'ch swyddfa gofrestru leol.

Pam fod angen cofrestru?

Fel arfer mae'n rhaid cofrestru achosion o farwenedigaethau yng Nghymru a Lloegr o fewn 42 diwrnod ers y farwenedigaeth ond ni ellir eu cofrestru fwy na 3 mis ar ôl iddynt ddigwydd. Yn aml iawn, gellir gwneud hyn yn yr ysbyty, neu yn eich swyddfa gofrestru leol.

Dechreuwyd cofrestru achosion o farwenedigaethau ar 1 Gorffennaf 1927 er mwyn diogelu bywydau babanod. Mae'n rhoi'r cyfle i rieni gael cydnabyddiaeth swyddogol o'u plentyn a rhoi enwau iddo/iddi os byddant yn dymuno gwneud hynny. Mae hefyd yn ffynhonnell bwysig o wybodaeth hanesyddol ac ystadegol.

Pwy gaiff gofrestru'r farwenedigaeth?

Os yw'r rheini wedi priodi ei gilydd, gall unrhyw riant gofrestru'r farwenedigaeth. Os nad yw'r rhieni wedi priodi ei gilydd, yna:

  • os ydych am gael manylion y tad ar y gofrestr, gall y ddau riant fynd i lofnodi'r gofrestr o farwenedigaethau gyda'i gilydd
  • os na all y tad fod yn bresennol yn y swyddfa gofrestru, ond eich bod am gynnwys ei fanylion beth bynnag, bydd angen iddo wneud datganiad statudol yn cydnabod mai ef yw'r tad - bydd angen i chi roi hwn i'r cofrestrydd
  • os na all y fam fynd i'r swyddfa gofrestru gyda'r tad, bydd angen iddi wneud datganiad statudol yn cydnabod mai ef yw'r tad - bydd angen i chi roi hwn i'r cofrestrydd

Gallwch ychwanegu manylion y tad yn ddiweddarach drwy ail-gofrestru'r farwenedigaeth.

Os nad yw'r fam na'r tad yn gallu bod yn bresennol, gall y bobl ganlynol gofrestru:

  • deiliad yr ysbyty neu'r tŷ lle digwyddodd y farwenedigaeth
  • rhywun a oedd yn bresennol adeg y farwenedigaeth
  • rhywun sy'n gyfrifol am y plentyn marw-anedig
  • yr unigolyn ddaeth o hyd i'r plentyn marw-anedig, lle nad yw dyddiad a lleoliad y farwenedigaeth yn hysbys

Sut mae cofrestru'r farwenedigaeth

Os nad yw'r farwenedigaeth wedi'i chofrestru yn yr ysbyty, gallwch fynd i'ch swyddfa gofrestru leol neu swyddfa arall os yw'n fwy cyfleus. Nodwch fod y broses yn cymryd mwy o amser os byddwch yn mynd i swyddfa y tu allan i'r rhanbarth lle digwyddodd y farwenedigaeth.

Fe gewch hyd i'ch swyddfa gofrestru leol drwy ddilyn y ddolen isod.

Pa wybodaeth fydd ei hangen arnoch

Y cyfan y mae ei angen arnoch er mwyn cofrestru marwenedigaeth yw tystysgrif feddygol y farwenedigaeth gan y meddyg neu'r fydwraig.

Bydd y cofrestrydd yn gofyn am y manylion canlynol:

Plentyn

  • dyddiad a lleoliad y farwenedigaeth
  • enw(au) cyntaf a chyfenw, os bydd y rheini'n dymuno enwi'r plentyn marw-anedig
  • rhyw y plentyn

Tad (os caiff yr wybodaeth hon ei rhoi yn y gofrestr)

  • enw(au) cyntaf a chyfenw
  • dyddiad a man geni
  • galwedigaeth adeg y farwenedigaeth neu, os nad oedd mewn cyflogaeth bryd hynny, yr alwedigaeth ddiwethaf

Mam

  • enw(au) cyntaf a chyfenw
  • cyfenw cyn priodi os yw'r fam yn briod, neu wedi bod yn briod
  • dyddiad a man geni
  • galwedigaeth adeg y farwenedigaeth neu, os nad oedd mewn cyflogaeth bryd hynny, yr alwedigaeth ddiwethaf
  • cyfeiriad arferol ar ddyddiad y farwenedigaeth
  • dyddiad y briodas, os yw wedi priodi tad y babi marw-anedig ar adeg y farwenedigaeth
  • nifer y plant blaenorol gan y gŵr presennol a chan unrhyw gyn ŵr

Dylai pwy bynnag sy'n cofrestru'r farwenedigaeth ddarllen yr wybodaeth yn ofalus iawn cyn llofnodi'r gofrestr.

Newid cofnod o farwenedigaeth yn nes ymlaen

Er bod cofrestru bob achos o farwenedigaeth yn gofnod hanesyddol o'r ffeithiau, os canfyddir camgymeriadau, gallwch newid neu ychwanegu manylion. Dylech gysylltu â'r swyddfa gofrestru lle cofrestrwyd y farwenedigaeth er mwyn cynnal y broses hon.

Fe gewch hyd i'ch swyddfa gofrestru leol drwy ddilyn y ddolen isod.

Dylai pwy bynnag a wnaeth ddarparu'r manylion gwreiddiol, neu'r rhiant arall, wneud cais i'w cywiro drwy'r swyddfa gofrestru wreiddiol.

Ni chodir tâl am gywiro nac am ailgofrestru marwenedigaeth, ond os hoffech dystysgrif newydd yn dangos y newidiadau, bydd angen i chi brynu un.

I archebu tystysgrif, defnyddiwch y dolenni isod.

Ar gyfer digwyddiadau yn yr Alban neu yng Ngogledd Iwerddon

Gallwch gysylltu â'r Swyddfa Gofrestru Gyffredinol berthnasol gan ddefnyddio'r dolenni isod.

Additional links

Cofrestrwch - cadwch yn iach

Ymunwch â Newid am Oes - yn helpu pob teulu i fwyta'n iach, i symud mwy ac i fyw'n hwy

Allweddumynediad llywodraeth y DU