Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Newid neu ychwanegu manylion rhiant ar gofnod geni

Bydd angen i chi ail-gofrestru genedigaeth eich plentyn os ydych am gynnwys manylion y tad naturiol neu os yw'r rheini wedi priodi ei gilydd ers yr enedigaeth.

Ychwanegu manylion y tad naturiol

Os nad yw'r rheini wedi priodi ac yr hoffech ychwanegu manylion y tad naturiol at y cofnod geni, bydd angen iddynt ail-gofrestru'r enedigaeth fel y gellir creu cofnod geni newydd er mwyn disodli'r un gwreiddiol.

Yn yr amgylchiadau hyn, bydd angen i chi lenwi ffurflen 'gwneud cais i ail-gofrestru genedigaeth plentyn'.

Dylai'r ddau riant fod yn bresennol yn y swyddfa gofrestru er mwyn darparu'r wybodaeth angenrheidiol er mwyn ail-gofrestru. Os nad yw hyn yn bosib, bydd angen iddynt hefyd lenwi'r ffurflen 'Datganiad Statudol o gydnabyddiad rhieni'.

Mae'r rhieni naturiol wedi priodi ei gilydd ers yr enedigaeth

Os yw'r rhieni naturiol wedi priodi ei gilydd ers yr enedigaeth, bydd angen iddynt ail-gofrestru'r enedigaeth fel y gellir creu cofnod geni newydd yn dangos bod y plentyn yn blentyn i briodas y rhieni.

Yn yr amgylchiadau hyn, bydd angen i chi lenwi ffurflen 'Gwneud cais i ail-gofrestru ar ôl i'r rhieni briodi ei gilydd'.

Ar ôl i Lys gyflwyno 'Datganiad Rhiant'

Pan fydd llys yng Nghymru neu yn Lloegr yn cyflwyno Datganiad Rhiant, gellir ail-gofrestru genedigaeth er mwyn dangos canfyddiadau'r llys.

Anfonir copi o'r datganiad yn uniongyrchol i'r Swyddfa Gofrestru Gyffredinol er mwyn ail-gofrestru'r enedigaeth. Does dim rhaid i chi wneud dim.

I gael gwybod sut mae gwneud cais am Ddatganiad Rhiant, cysylltwch â chyfreithiwr neu'r Prif Glerc yn eich Llys Ynadon neu Lys Sirol lleol.

Cael tystysgrif geni newydd

Ni chodir tâl am gywiro nac am ail-gofrestru tystysgrifau geni, ond os hoffech gael tystysgrif geni newydd yn dangos y newidiadau, bydd angen i chi brynu un.

Gallwch archebu tystysgrifau yn y swyddfa gofrestru yr ydych yn delio â hi, neu ar-lein.

Cysylltwch â'r Swyddfa Gofrestru Gyffredinol ar +44 (0)151 471 4806 neu anfonwch e-bost at:

corrections.re-reg@ips.gov.uk

Ar gyfer digwyddiadau yn yr Alban neu yng Ngogledd Iwerddon

Gallwch gysylltu â'r Swyddfa Gofrestru Gyffredinol berthnasol gan ddefnyddio'r dolenni isod.

Additional links

Cofrestrwch - cadwch yn iach

Ymunwch â Newid am Oes - yn helpu pob teulu i fwyta'n iach, i symud mwy ac i fyw'n hwy

Allweddumynediad llywodraeth y DU