Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Newid manylion plentyn ar gofnod geni

Er bod pob genedigaeth a gaiff ei chofrestru'n gofnod hanesyddol o'r ffeithiau adeg y geni, mewn rhai amgylchiadau, fe all fod yn bosib newid y manylion neu ychwanegu at yr wybodaeth a gofnodwyd yn wreiddiol.

Cywiro camgymeriad

Os gwnaethpwyd camgymeriad wrth gofrestru'r enedigaeth, gallwch newid neu ychwanegu manylion. I wneud hyn, dylech gysylltu â'r swyddfa gofrestru lle cofrestrwyd yr enedigaeth.

Yn ddelfrydol, yr unigolyn a gofrestrodd y plentyn ddylai wneud y cais i gywiro'r manylion, gyda'r swyddfa gofrestru wreiddiol. Bydd angen darparu dogfennau fel tystiolaeth i brofi y gwnaethpwyd camgymeriad wrth gofrestru. Gallai tystiolaeth o'r fath gynnwys pasbort y plentyn neu dystysgrif bedydd, er enghraifft.

Newid enw cyntaf plentyn

Gallwch newid enw cyntaf plentyn yn yr amgylchiadau canlynol:

  • os rhoddwyd enwau cyntaf newydd i'r plentyn adeg y bedydd neu drwy ddefnydd rheolaidd o fewn 12 mis i gofrestru'r enedigaeth
  • os yw'ch plentyn wedi cael ei fedyddio, dim ond yr enwau bedydd y gellir eu hychwanegu at y gofrestr - bydd angen i'r gweinidog sy'n dal y gofrestr enwau bedydd gadarnhau hyn gyda'r ffurflen y ceir dolen ati isod - 'Tystysgrif enw a roddwyd yn y Bedydd'

Cofiwch hefyd:

  • i wneud y newid, mae'n ofynnol mai chi yw mam, tad neu warcheidwad y plentyn
  • dim ond unwaith y gellir newid enw cyntaf - ni ellir cofnodi unrhyw newid arall i enwau cyntaf
  • rhaid i chi gydymffurfio ag unrhyw orchmynion llys sydd mewn grym yng nghyswllt enwi eich plentyn

Newid cyfenw plentyn

Dim ond i gywiro camgymeriad sillafu y cewch newid cyfenw plentyn yn y cofnod geni gwreiddiol.

Fodd bynnag, gellir ailgofrestru plentyn yn yr amgylchiadau canlynol:

  • i gofnodi manylion y tad naturiol ar y cofnod geni
  • yn dilyn priodas y rhieni naturiol, os nad oeddent yn briod pan aned y plentyn

Yn yr amgylchiadau hyn, gallwch newid cyfenw'r plentyn i gyfenw'r fam neu'r tad - neu gyfuniad o'r ddau - ar yr amod bod y ddau riant yn cytuno i'r newid. Os yw'r plentyn yn 16 neu hŷn, rhaid cael eu datganiad ysgrifenedig cyn y gellir newid y cyfenw.

Beth y mae angen i chi ei wneud

Os bedyddiwyd eich plentyn mewn eglwys Gristnogol, bydd angen i ficer neu weinidog yr eglwys lenwi ffurflen 'Tystysgrif enw a roddwyd yn y Bedydd'. Efallai y codir tâl arnoch am hyn.

Os na, bydd angen i chi lenwi ffurflen 'Tystysgrif enw na roddwyd yn y Bedydd'.

Anfonwch y ffurflen berthnasol i'r swyddfa gofrestru wreiddiol. Os nad ydych yn byw yn yr un ardal erbyn hyn, postiwch y gwaith papur i'r swyddfa gofrestru berthnasol.

Gallwch lwytho'r ffurflen oddi ar y we isod, neu:

  • cysylltwch â'ch swyddfa gofrestru leol
  • cysylltwch â'r Swyddfa Gofrestru Gyffredinol ar +44 (0)151 471 4806

neu anfonwch neges e-bost i:

corrections.re-reg@ips.gsi.gov.uk

Cael tystysgrif geni newydd

Ni chodir tâl am gywiro nac am ailgofrestru, ond os hoffech dystysgrif geni newydd yn dangos y newidiadau, bydd angen i chi brynu un.

Dim ond yr enw newydd a dyddiad a lleoliad y geni fydd i'w gweld ar y tystysgrifau byr. Bydd tystysgrifau llawn yn dangos manylion yr enw blaenorol yn ogystal â'r enw newydd, oni bai fod yr enedigaeth yn cael ei hail-gofrestru.

Gallwch archebu tystysgrifau yn y swyddfa gofrestru yr ydych yn delio â hi, neu drwy ddefnyddio'r gwasanaeth archebu ar-lein.

Ar gyfer digwyddiadau yn yr Alban neu yng Ngogledd Iwerddon

Gallwch gysylltu â'r Swyddfa Gofrestru Gyffredinol berthnasol gan ddefnyddio'r dolenni isod.

Additional links

Cofrestrwch - cadwch yn iach

Ymunwch â Newid am Oes - yn helpu pob teulu i fwyta'n iach, i symud mwy ac i fyw'n hwy

Allweddumynediad llywodraeth y DU