Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Yng Nghymru a Lloegr, rhaid i'ch babi gael ei gofrestru yn y rhanbarth lle cafodd ei eni o fewn 42 diwrnod i'r enedigaeth. Yn aml iawn, gellir gwneud hyn yn yr ysbyty cyn i'r fam fynd adref, neu yn eich swyddfa gofrestru leol.
Yng Nghymru a Lloegr, rhaid i chi gofrestru genedigaeth eich babi o fewn 42 diwrnod i'r enedigaeth. Os na allwch fynd i'r rhanbarth lle ganed eich babi, gallwch fynd i swyddfa arall (eto o fewn 42 diwrnod) a bydd y cofrestrydd yn anfon eich manylion i'r swyddfa yn yr ardal briodol. Fodd bynnag, os ganed y babi yng Nghymru rhaid ei gofrestru yng Nghymru ac os ganed y babi yn Lloegr rhaid ei gofrestru yn Lloegr.
Dim ond yn Saesneg y gellir cofrestru genedigaethau yn Lloegr, ond yng Nghymru, gellir cofrestru genedigaeth yn ddwyieithog yn Gymraeg a Saesneg. I wneud hyn, rhaid rhoi'r manylion yn Gymraeg, a rhaid i'r cofrestrydd allu deall ac ysgrifennu Welsh.
Bydd oriau agor swyddfeydd cofrestru yn amrywio o un rhanbarth i'r llall, ac mae'r mwyafrif yn defnyddio system trefnu apwyntiad.
Os yw'r rhieni'n briod adeg y geni neu'r cenhedlu, caiff y fam neu'r tad gofrestru'r enedigaeth ar eu pennau eu hunain.
Os nad ydynt yn briod, i sicrhau bod manylion y ddau riant ar y dystysgrif geni, ceir sawl opsiwn:
Os nad yw manylion y tad ar y gofrestr geni, mae'n bosib y bydd modd ail-gofrestru yn ddiweddarach.
Os nad yw'r fam na'r tad yn gallu bod yn bresennol, gall y bobl ganlynol gofrestru'r enedigaeth:
Gallwch fynd i unrhyw swyddfa gofrestru i gofrestru genedigaeth eich babi. Os byddwch yn mynd i'r swyddfa gofrestru yn y rhanbarth lle ganed eich babi, fe gewch y dystysgrif geni yn syth ar ôl cofrestru.
Bydd oriau agor swyddfeydd cofrestru yn amrywio o ranbarth i ranbarth, ac mae'r mwyafrif yn defnyddio system trefnu apwyntiadau. Pan fyddwch gyda'r cofrestrydd, dylech ganiatáu tua hanner awr i gwblhau'r broses gofrestru.
I ddod o hyd i'ch swyddfa leol, defnyddiwch ein gwasanaeth Dod o hyd i Swyddfa Gofrestru isod.
Os byddwch yn mynd i wahanol swyddfa gofrestru, nad yw'n cynnwys y rhanbarth lle ganed eich babi, gallwch gyflwyno'r manylion i gofrestru'r enedigaeth, ond ni fydd y swyddfa'n gallu rhoi tystysgrif geni i chi. Yn yr amgylchiadau hyn, bydd yn cymryd ychydig mwy o ddyddiau i chi gael y dystysgrif geni.
Mewn rhai achosion, byddwch yn gallu cofrestru'r enedigaeth pan fyddwch yn yr ysbyty. Bydd yr ysbyty yn eich rhoi ar ben ffordd os yw hyn yn bosib.
Bydd y ddolen isod yn gofyn i chi roi manylion eich cyfeiriad ac yna'n mynd â chi at wefan eich awdurdod lleol lle gallwch gael mwy o wybodaeth.
Mae cael cyfrifoldeb rhiant am blentyn yn golygu eich bod yn gyfreithiol gyfrifol am fywyd eich plentyn. Bydd gan rieni priod gyfrifoldeb rhiant ar y cyd yn awtomatig, ond nid yw hyn yn wir am rieni di-briod.
Cewch dystysgrif geni fer. Bydd angen y dystysgrif geni arnoch am nifer o resymau, gan gynnwys i wneud cais am fudd-dal plant.
I gael manylion am y gwahanol ffyrdd yr ymdrinnir â hyn ar draws y DU, ewch i'n tudalennau gwybodaeth ar gyfer Gogledd Iwerddon a'r Alban.
Bellach, gall rhieni ddewis cynnal seremoni enwi ar gyfer eu plentyn. Nid seremoni grefyddol yw hi fel y cyfryw, ond cyfle i ddathlu genedigaeth plentyn a/neu groesawu plant newydd i'r teulu (megis plant sydd wedi'u mabwysiadu).
Gall y rhieni hefyd enwi oedolion eraill i fod yn gefn i'w plentyn - sy'n debyg i enwi tad bedydd neu fam fedydd pan gaiff plentyn ei fedyddio. Fodd bynnag, nid oes sail gyfreithiol i seremonïau enwi.
Rhaid cyflwyno tystysgrif geni adeg trefnu'r seremoni gyda'r cyngor lleol.
Bydd y ddolen isod yn gofyn i chi roi manylion lle'r ydych yn byw ac yna'n mynd â chi at wefan eich cyngor lleol lle gallwch gael mwy o wybodaeth.
Gallwch gysylltu â'r Swyddfa Gofrestru Gyffredinol berthnasol gan ddefnyddio'r dolenni isod.