Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Gallwch archebu tystysgrifau ar gyfer genedigaethau, priodasau a marwolaethau a gofrestrwyd yng Nghymru a Lloegr drwy'r Swyddfa Gofrestru Gyffredinol, neu drwy'r swyddfa gofrestru leol yn ardal y digwyddiad. Gall y Swyddfa Gofrestru Gyffredinol hefyd ddarparu tystysgrifau ar gyfer rhai genedigaethau, marwolaethau a phriodasau a gofrestrwyd dramor.
Mae pob tystysgrif yn gopi union o'r cofnod llawn a wnaethpwyd adeg yr enedigaeth, y briodas neu'r farwolaeth. Yr eithriad i hyn yw'r 'dystysgrif geni fer', sy'n ddetholiad o'r cofnod llawn, ac yn cynnwys yr enw, y dyddiad geni a'r rhyw.
Gallwch ddefnyddio'r taflenni cymorth isod fel canllaw i'r wybodaeth y gallech ei gweld ar dystysgrif.
Gallwch archebu tystysgrif ar-lein gan y Swyddfa Gofrestru Gyffredinol, neu dros y ffôn neu drwy'r post gan y swyddfa gofrestru leol yn ardal y digwyddiad.
Gellir darparu copïau ychwanegol o'r un dystysgrif yr un pryd ar gyfer pob cais, am dâl o £7.00.
Gallwch archebu tystysgrifau geni (tystysgrifau llawn yn un unig), tystysgrifau priodas a thystysgrifau marwolaeth o 1837 ymlaen ar-lein os oes gennych gyfeirnod mynegai'r Swyddfa Gofrestru Gyffredinol. Os nad yw'r cyfeirnod gennych, gallwch archebu tystysgrifau ar gyfer digwyddiadau o 1900 ymlaen os gwyddoch union ddyddiad y digwyddiad.
Gallwch gael mwy o wybodaeth am ddefnyddio cyfeirnod mynegai'r Swyddfa Gofrestru Gyffredinol yn yr erthygl isod.
Gellir darparu copïau ychwanegol o'r un dystysgrif yr un pryd ar gyfer pob cais, am dâl o £7.00.
Gwasanaeth Safonol
Os byddwch yn darparu cyfeirnod mynegai'r dystysgrif, caiff y dystysgrif ei hanfon atoch o fewn pedwar diwrnod gwaith. Heb y cyfeirnod, caiff ei hanfon atoch o fewn 15 diwrnod gwaith.
Gwasanaeth Blaenoriaethol
Os archebwch erbyn 4.00 pm ar ddiwrnod gwaith, caiff eich tystysgrif ei hanfon atoch y diwrnod gwaith nesaf drwy’r post Dosbarth Cyntaf. Os hoffech ddefnyddio dewisiadau drefn Cludiant Arbennig, rhaid archebu dros y ffôn ar 0845 603 7788.
Gallwch archebu tystysgrifau geni, priodas neu farwolaeth dros y ffôn o'r Swyddfa Gofrestru Gyffredinol neu gallwch gysylltu â'r swyddfa gofrestru leol yn ardal y digwyddiad.
Ffoniwch +44 (0) 845 603 7788, o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 8.00 am ac 8.00 pm, neu ddydd Sadwrn rhwng 9.00 am a 4.00 pm. Mae'r Swyddfa Gofrestru Gyffredinol yn derbyn Visa, Visa Electron, Mastercard, Solo, Visa Debit neu Maestro.
Post
Gallwch archebu tystysgrifau geni, priodas a marwolaeth drwy'r post, ond bydd angen ffurflen gais arnoch yn gyntaf.
I ofyn am y ffurflen gallwch anfon e-bost i:
certificate.services@ips.gsi.gov.uk
Bydd angen i chi roi GQ yn llinell pwnc eich e-bost i sicrhau eich bod yn cael ateb personol i'ch ymholiad.
Neu, gallwch ffonio:
+44 (0) 845 603 7788, o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 8.00 am ac 8.00 pm, neu ddydd Sadwrn rhwng 9.00 am a 4.00 pm
Nodwch pa ffurflen y mae ei hangen arnoch - geni, marwolaeth neu briodas - a faint o gopïau, a chofiwch gynnwys eich enw a'ch cyfeiriad.
Anfonwch y ffurflen wedi'i llenwi, gyda'r taliad cywir drwy siec, archeb bost neu gerdyn credyd, i'r Swyddfa Gofrestru Gyffredinol / General Register Office, PO Box 2, Southport, Merseyside, PR8 2JD.
Dylech wneud sieciau neu archebion post yn daladwy i 'IPS' (Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau).
Peidiwch ag anfon eich cais drwy ffacs nac anfon llungopi ohono.
Gwasanaeth Safonol
Os byddwch yn darparu cyfeirnod mynegai'r dystysgrif, caiff y dystysgrif ei hanfon atoch o fewn pedwar diwrnod gwaith. Heb y cyfeirnod, caiff ei hanfon atoch o fewn 15 diwrnod gwaith.
Gwasanaeth Blaenoriaethol
Os archebwch erbyn 4.00 pm ar ddiwrnod gwaith, caiff eich tystysgrif ei hanfon atoch y diwrnod gwaith nesaf drwy’r post Dosbarth Cyntaf. Dim ond am archebion dros y ffôn y mae dewisiadau drefn Cludiant Arbennig ar gael.
Gallwch gysylltu â'r Swyddfa Gofrestru Gyffredinol berthnasol gan ddefnyddio'r dolenni isod.
Gweld pa fudd-daliadau mae'n bosib bydd gennych hawl iddo
I weld ffeiliau PDF, mae angen Adobe Reader arnoch. Mae'r rhaglen ar gael am ddim os nad yw gennych chi eisoes.