Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Gwybodaeth y mae ei hangen arnoch i archebu tystysgrifau geni, marwolaeth neu briodas

Bydd angen manylion penodol arnoch i archebu tystysgrif geni, priodas, mabwysiadu, marwenedigaeth, neu farwolaeth. Byddant yn eich helpu i sicrhau bod y cyfeirnod mynegai cywir ar y dystysgrif, a gallwch hefyd ofyn i'r Swyddfa Gofrestru Gyffredinol wneud yn siŵr bod hwn yn gywir cyn rhoi tystysgrif i chi.

Gwybodaeth y dylech ei darparu

Genedigaethau

  • enw llawn
  • dyddiad geni
  • man geni
  • enwau'r rhieni, gan gynnwys cyfenw'r fam cyn iddi briodi - mae hyn yn ofynnol ar gyfer unrhyw enedigaethau a gofrestrwyd yn y 50 mlynedd diwethaf

Priodasau

  • enwau llawn y briodferch a'r priodfab
  • dyddiad y briodas
  • lleoliad y briodas
  • enw a galwedigaeth tad y briodferch a thad y priodfab

Marwolaethau

  • enw llawn
  • dyddiad y farwolaeth
  • lleoliad y farwolaeth
  • cyfenw'r briodferch cyn iddi briodi os yw hynny'n berthnasol

Marwenedigaethau

Mae amodau penodol yn gysylltiedig â thystysgrifau marwenedigaeth - darllenwch 'Archebu tystysgrif marwenedigaeth'.

Mabwysiadau

  • enw llawn yr unigolyn ar ôl mabwysiadu*
  • dyddiad geni’r unigolyn a fabwysiadwyd*
  • enw(au) llawn y rhiant/rhieni a fabwysiadodd yr unigolyn*
  • dyddiad geni (os ydych yn ei wybod)
  • y llys a ganiataodd y gorchymyn mabwysiadu (os ydych yn ei wybod)

* Rhaid i chi gynnwys yr wybodaeth hon os ydych yn gwneud cais am dystysgrifau'r rheini sy'n iau na 18 oed, ni ellir rhoi tystysgrif fel arall.

Partneriaethau sifil

  • enwau llawn y ddau bartner sifil
  • dyddiad ffurfio'r bartneriaeth
  • man cofrestru'r bartneriaeth
  • cyfeiriadau llawn y ddau bartner adeg y cofrestru - rhaid i chi ddarparu'r manylion hyn os ydych yn gwneud cais am y dystysgrif lawn sy'n cynnwys cyfeiriadau

Os nad ydych yn gallu darparu'r ddau gyfeiriad llawn, ond eich bod dal yn gallu adnabod y cofnod, gellir darparu tystysgrif i chi nad yw'n cynnwys cyfeiriadau'r partneriaid.

Awgrymiadau i wneud yn siŵr eich bod yn archebu'r dystysgrif gywir

Os oes gennych un darn o wybodaeth yr ydych yn sicr ohoni, ynghyd â chyfeirnod mynegai'r Swyddfa Gofrestru Gyffredinol, gallwch ofyn i'r Swyddfa edrych ar y manylion gan ddefnyddio'u gwasanaeth gwirio cyfeirnodau. Gallwch ofyn i'r Swyddfa wirio hyd at bedwar cyfeirnod, ac ni chewch dystysgrif oni bai fod yr wybodaeth yn cyfateb. Dylech fod yn ymwybodol y codir £3 arnoch i wirio pob cyfeirnod os na cheir tystysgrif o ganlyniad i'r gwiriad hwnnw.

Os ydych wedi dod o hyd i gyfeirnod mynegai tystysgrif na allwch ei ddarllen yn glir, gellir defnyddio gwasanaeth micro-lun y Swyddfa Gofrestru Gyffredinol ar gyfer mynegeion aneglur. Gallwch ddarllen mwy am hyn drwy ddefnyddio'r dolenni isod.

Os yw'r cyfenw yn un cyffredin, bydd gwybodaeth fanylach yn helpu i sicrhau eich bod yn cael y dystysgrif gywir.

Ar gyfer digwyddiadau yn yr Alban neu yng Ngogledd Iwerddon

Gallwch gysylltu â'r Swyddfa Gofrestru Gyffredinol berthnasol gan ddefnyddio'r dolenni isod.

Additional links

Cynghorwr budd-daliadau ar-lein

Gweld pa fudd-daliadau mae'n bosib bydd gennych hawl iddo

Ffeiliau PDF

I weld ffeiliau PDF, mae angen Adobe Reader arnoch. Mae'r rhaglen ar gael am ddim os nad yw gennych chi eisoes.

Allweddumynediad llywodraeth y DU