Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Y camau cyntaf wrth ymchwilio i hanes eich teulu

Dyma ganllaw defnyddiol ar gyfer dechrau ymchwilio i hanes eich teulu. Gallwch hefyd ofyn am y pecyn 'Dechrau Arni' gan y Swyddfa Gofrestru Gyffredinol, sy'n rhoi cyflwyniad llawn i ymchwilio i hanes y teulu ac i ddefnyddio tystysgrifau geni, priodas a marwolaeth i adeiladu eich coeden deulu.

Archebu pecyn 'Dechrau Arni' - cyflwyniad i ymchwilio i hanes eich teulu

Os hoffech archebu copi o becyn 'Dechrau Arni' y Swyddfa Gofrestru Gyffredinol, sy'n rhad ac am ddim, anfonwch eich enw, eich cyfeiriad a'ch manylion cyswllt dros e-bost i:

certificate.services@ips.gsi.gov.uk

Dylech roi "GQ Starter Pack" yn llinell pwnc eich e-bost i wneud yn siŵr nad oes ymateb testun awtomatig yn cael ei greu.

Defnyddio cofnodion swyddogol y llywodraeth i ymchwilio i hanes eich teulu

  • gan ddechrau gyda chi eich hun, gwnewch nodyn o'r holl ddyddiadau a'r digwyddiadau yr ydych yn sicr ohonynt mewn perthynas â'ch teulu agos, a gweithiwch yn ôl yn drefnus o un genhedlaeth i'r llall. Casglwch dystysgrifau o'r digwyddiadau hyn - byddant yn cynnwys gwybodaeth hanfodol a fydd yn eich helpu i fwrw ymlaen â'ch ymchwil, e.e. cyfenw eich mam cyn iddi briodi
  • ym mis Gorffennaf 1837 y dechreuodd y drefn cofrestru sifil. I ymchwilio i gofnodion cyn hyn bydd angen i edrych ar gofnodion y plwyf
  • gwnewch gofnod ffurfiol o wybodaeth wrth i chi ddod o hyd iddi a chadwch ffeiliau o'r dogfennau yr ydych wedi cael gafael arnynt. Llwythwch y Siart Coeden Deulu isod gan y Swyddfa Gofrestru Gyffredinol i'ch helpu i gofnodi gwybodaeth am eich teulu

Siarad â pherthnasau

  • holwch aelodau o'ch teulu am eu hatgofion a gwnewch nodyn o beth mae pawb yn ei ddweud er mwyn i chi allu cymharu'r ffeithiau. Gofynnwch i'r perthnasau sydd â'r mwyaf o wybodaeth sôn am eu hatgofion fwy nag unwaith. Ni fydd neb yn cofio popeth a all fod yn ddefnyddiol mewn un sesiwn
  • chwiliwch am gymaint o gofnodion y teulu a chymaint o femorabilia â phosib. Chwiliwch yn eich atig a gofynnwch i'ch perthnasau hŷn am gael edrych yn eu rhai hwythau
  • gofynnwch i berthnasau hŷn enwi pobl mewn hen luniau o'r teulu - ac ysgrifennu eu henwau ar y cefn
  • ewch drwy'r cofnodion i chwilio am gliwiau a gwnewch nodyn o unrhyw wybodaeth bendant a ganfyddwch ynghyd â lle daethoch o hyd iddi
  • dangoswch yr hyn yr ydych wedi'i ganfod i berthnasau hŷn - efallai y bydd hyn yn eu hatgoffa am bethau eraill
  • lluniwch restr o gwestiynau sy'n codi o'r ymchwil hyd yma - hwn fydd eich man cychwyn

Cael help a chyngor

  • efallai yr hoffech ymuno â chymdeithas achau teuluoedd lleol, lle gallwch rannu eich profiadau a chael cymorth gydag unrhyw broblemau y byddwch yn dod ar eu traws. Defnyddiwch y ddolen isod i ddod o hyd i'ch grŵp lleol
  • gallech gofrestru ar gwrs achau teuluoedd. Mae nifer o ganolfannau addysg oedolion yn cynnal y cyrsiau hyn, nid ydynt yn ddrud ac maent yn ddefnyddiol iawn
  • peidiwch â digalonni os nad ydych yn gallu dod o hyd i ryw lawer - yr unig wybodaeth y mae arnoch ei hangen i ddechrau arni yw eich man geni a'ch dyddiad geni chi

Allweddumynediad llywodraeth y DU