Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Defnyddio'r Swyddfa Gofrestru Gyffredinol i ymchwilio i hanes eich teulu

Mae'r Swyddfa Gofrestru Gyffredinol yn cadw cofnodion geni, mabwysiadu, priodas, partneriaeth sifil a marwolaeth, gyda rhai ohonynt yn dyddio'n ôl i 1837. Gallwch archebu tystysgrifau o'r digwyddiadau hyn, a chanddynt gliwiau i hanes eich teulu.

Archebu tystysgrifau gan ddefnyddio 'cyfeirnodau mynegai' y Swyddfa Gofrestru Gyffredinol

Mae defnyddio cyfeirnod mynegai'r dystysgrif yn lleihau'r amser y mae'n ei gymryd a faint y bydd yn rhaid i chi ei dalu

Mae gan bob genedigaeth, achos o fabwysiadu, partneriaeth sifil neu farwolaeth a gofrestrir yng Nghymru neu yn Lloegr gyfeirnod mynegai'r Swyddfa Gofrestru Gyffredinol. Fel arfer bydd yn cynnwys blwyddyn, rhifyn, rhif y dudalen a'r rhanbarth y cofrestrwyd y digwyddiad.

Wrth archebu tystysgrif geni, mabwysiadu, priodi, partneriaeth sifil neu farwolaeth, mae nodi cyfeirnod mynegai'r dystysgrif yn lleihau'r amser y mae'n ei gymryd i ddod o hyd i'r cofnod a'r ffi y byddwch yn ei thalu.

Deall cyfeirnod mynegai'r Swyddfa Gofrestru Gyffredinol

O 1837 i 1984, caiff yr wybodaeth am fynegai bob blwyddyn ei rhannu i chwarteri. Caiff y chwarteri eu rhannu fel a ganlyn:

  • Chwarter mis Mawrth - digwyddiadau a gofrestrwyd ym mis Ionawr, Chwefror a Mawrth
  • Chwarter mis Mehefin - Ebrill, Mai a Mehefin
  • Chwarter mis Medi - Gorffennaf, Awst a Medi
  • Chwarter mis Rhagfyr - Hydref, Tachwedd a Rhagfyr

Y mynegai cynharaf yw chwarter mis Medi 1837. Ar ôl 1984, caiff y mynegeion eu trefnu yn ôl blwyddyn yn unig.

Caiff y mynegeion eu trefnu yn nhrefn y flwyddyn, ac ym mhob chwarter neu flwyddyn caiff y cofnodion eu rhestru yn nhrefn yr wyddor yn ôl cyfenw, ac yna yn ôl enw cyntaf.

I chwilio drwy gofnodion priodas, gallwch ddefnyddio naill ai cyfenw'r dyn priod, neu gyfenw cyn priodi'r fenyw briod.

Mae cofnodion achosion o fabwysiadu yn dechrau o 1927, a chânt eu rhestru yn nhrefn yr wyddor yn ôl cyfenw ac yna yn ôl enw cyntaf.

Bydd cofnodion partneriaeth sifil yn dechrau o fis Rhagfyr 2005 a chânt eu rhestru yn ôl cyfenw, ynghyd â chyfenw'r partner, y flwyddyn y ffurfiwyd y bartneriaeth, yr awdurdod cofrestru a rhif cofrestru'r cofnod.

Pa wybodaeth mae'r mynegai yn ei chynnwys?

Mae gwybodaeth mynegai'n amrywio gan ddibynnu ar y math o ddigwyddiad a'r flwyddyn y cafodd ei gofrestru. I gael mwy o fanylion defnyddiwch y ddolen isod i'r tabl 'Gwybodaeth am fynegai'. Mae'r tabl yn rhestru'r wybodaeth a gofnodir yn y mynegai ar gyfer y flwyddyn rydych yn chwilio amdani.

Gweld mynegeion y Swyddfa Gofrestru Gyffredinol

Gallwch weld mynegeion y Swyddfa Gofrestru Gyffredinol ar-lein drwy amrywiol fudiadau a gwefannau arbenigol, neu gallwch weld y mynegeion mewn llyfrgell neu swyddfa yn eich ardal chi.

Gweld copïau llawn o'r mynegeion

Ni ellir prynu copïau o'r mynegeion bellach ond gellir cael cyfres gyflawn, gan gynnwys ‘Births, Deaths and Marriages from 1837 – 2007’, ‘Overseas from 1761 – 2007’, ‘Civil Partnerships from 2005 – 2007’, ‘Adoptions from 1927 – 2007’, a'r mynegeion dros dro ar gyfer ‘Births and Deaths for 2008’, yn y lleoedd canlynol:

  • Yr Archifau Cenedlaethol yn Kew
  • Archifdy Sirol Manceinion Fwyaf
  • Llyfrgell Ganolog Birmingham
  • Llyfrgell Cyfeirnod a Gwybodaeth Pen-y-bont ar Ogwr
  • Llyfrgell Ganolog Plymouth
  • Canolfan Archifau Dinas Westminster

Mae'r lleoliadau hyn yn cael gafael ar yr wybodaeth ddiweddaraf i chi gael ei gweld yn bersonol. Disgwylir i hyn barhau nes y bydd modd cael gafael arnynt am ddim ar-lein.

Gweld y mynegeion ar-lein

I weld y mynegeion ar-lein, ewch ar un o'r gwefannau canlynol:

Gwefan Nid yw'r gwasanaeth ar gael
FreeBMD Prosiect gwirfoddolwyr - mae'r mynegeion yn dechrau o 1837
findmypast.com Mynegeion geni, priodas a marwolaeth o 1837
BMD Index Fersiwn y gellir chwilio am fynegai cofnodion genedigaeth, priodas a marwolaeth sifil ar-lein ar gyfer Cymru a Lloegr
Familyrelatives.com Gellir gweld amrywiaeth o gofnodion, gan gynnwys cofnodion geni, priodas, marwolaeth, ewyllys a chofnodion milwrol
The Geneologist Gellir gweld mynegeion genedigaethau, priodasau, marwolaethau a phlwyfi, yn ogystal â mynegeion Cyfrifon a thrawsgrifiadau rhwng 1841-1901
UKBMD Canolfan ar gyfer llawer o wefannau sy'n cynnig trawsgrifiadau ar-lein o enedigaethau, priodasau, marwolaethau a chyfrifiadau y DU.
Ancestry Cofnodion archifol o Gymru, Lloegr, Iwerddon a'r Alban gan gynnwys Mynegeion y Swyddfa Gofrestru Gyffredinol

Nodwch efallai y bydd rhai o'r gwefannau hyn yn codi tâl arnoch am ddefnyddio eu gwasanaethau

Gweld y mynegeion yn eich ardal chi

Gellir cael rhai mynegeion hefyd, er nad ydynt yn gyflawn, mewn lleoliadau eraill gan gynnwys llyfrgelloedd, cymdeithasau achau teuluoedd, neu gan swyddogion cofnodion lleol.

I gael yr wybodaeth ddiweddaraf am yr wybodaeth sydd ar gael yn eich ardal chi, cysylltwch â'r llyfrgell neu'r swyddfa dan sylw drwy edrych ar y PDF isod.

Mae'r Swyddfa Gofrestru Gyffredinol yn gwneud popeth o fewn ei gallu i sicrhau bod ei gwybodaeth am fynegai yn gywir ac yn gyfreithiol, ond ni all warantu hyn ym mhob achos – caiff rhai cofnodion eu cymryd o ddeunydd archifol ac mae ansawdd y gwaith atgynhyrchu'n amrywio.

A oes angen cymorth arnoch wrth ddehongli eich cyfeirnod mynegai?

Caiff holl fynegeion y Swyddfa Gofrestru Gyffredinol eu cadw ar ficro-lun. Os bydd angen cymorth arnoch i ddarllen y cofnod neu'r micro-lun, cysylltwch â'r Swyddfa Gofrestru Gyffredinol yn un o'r ffyrdd canlynol:

  • Drwy'r post: Contact Centre, GRO, PO Box 2, Southport, Merseyside PR8 2JD
  • Dros y ffôn: +44 (0)845 603 7788 - o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 8am a 8pm a dydd Sadwrn rhwng 9am a 4pm
  • unclearfiche@ips.gsi.gov.uk

Cysylltir â chi o fewn un diwrnod gwaith i gael eich cais. Nodwch fod y Swyddfa Gofrestru Gyffredinol yn darllen yr wybodaeth sydd ar gael yn y mynegeion, ond ni all gadarnhau ai dyma'r cofnod cywir.

Mathau eraill o gymorth sydd ar gael

Efallai y bydd y dogfennau canlynol o gymorth ichi er mwyn deall eich cyfeirnod. Maent yn rhoi manylion am y rhanbarth cofrestru ac am rifyn yr wybodaeth. Ni chodir tâl am ddefnyddio'r cyfeirnodau hyn.

Ar gyfer digwyddiadau yn yr Alban neu yng Ngogledd Iwerddon

Gallwch gysylltu â'r Swyddfa Gofrestru Gyffredinol berthnasol gan ddefnyddio'r dolenni isod.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU