Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Archebu tystysgrif marwenedigaeth

O ganlyniad i natur sensitif cofrestru marwenedigaethau, dim ond mam neu dad y plentyn all wneud cais am dystysgrif. Mae'n rhaid i enw'r rhiant fod ar y dystysgrif er mwyn gwneud hyn. Os bydd y rhieni wedi marw, gall brawd neu chwaer wneud cais os gallant ddarparu dyddiadau marwolaeth y rhieni.

Faint o amser fydd yn ei gymryd?

Anfonir y dystysgrif atoch o fewn 15 diwrnod i dderbyn eich cais.

Sut mae archebu'r dystysgrif

I gael ffurflen gais am dystysgrif marwenedigaeth, gallwch ffonio'r Swyddfa Gofrestru Gyffredinol neu ysgrifennu ati.

Rhif Ffôn

Ffoniwch +44 (0) 845 603 7788, o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 8.00 am ac 8.00 pm, neu ddydd Sadwrn rhwng 9.00 am a 4.00 pm.

Mae llinell gymorth Gymraeg ar gael ar +44 (0) 151 471 4575.

Post

Ysgrifennwch at:

General Register Office
PO Box 2
Southport
Merseyside
PR8 2JD

Ar gyfer ymholiadau Welsh ysgrifenedig:
Y Swyddfa Gofrestru Gyffredinol, Blwch Post 118, Smedley Hydro, Trafalgar Road, Southport, PR8 2GQ

Faint fydd hyn yn ei gostio?

Mae’r dystysgrif yn costio £7.

Ar gyfer digwyddiadau yn yr Alban neu yng Ngogledd Iwerddon

Gallwch gysylltu â'r Swyddfa Gofrestru Gyffredinol berthnasol drwy ddefnyddio'r dolenni isod.

Additional links

Cynghorwr budd-daliadau ar-lein

Gweld pa fudd-daliadau mae'n bosib bydd gennych hawl iddo

Ffeiliau PDF

I weld ffeiliau PDF, mae angen Adobe Reader arnoch. Mae'r rhaglen ar gael am ddim os nad yw gennych chi eisoes.

Allweddumynediad llywodraeth y DU