Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Gallwch archebu tystysgrifau mabwysiadu a gofrestrwyd yng Nghymru a Lloegr, a digwyddiadau a gofrestrwyd dramor, drwy'r Swyddfa Gofrestru Gyffredinol.
Tystysgrif geni newydd yn enw newydd yr unigolyn sydd wedi'i fabwysiadu yw tystysgrif mabwysiadu. Gellir ei defnyddio ar gyfer dibenion cyfreithiol yn lle'r dystysgrif geni wreiddiol. Bydd y dystysgrif mabwysiadu hefyd yn cynnwys gwybodaeth gyfreithiol sy'n ymwneud â'r achos mabwysiadu.
Mae tystysgrif mabwysiadu lawn yn dangos y canlynol: dyddiad geni, man geni a gwlad enedigol, enw cyntaf a chyfenw ar ôl mabwysiadu, enw a chyfenw, cyfeiriad a swyddi'r rhiant/rhieni sy'n mabwysiadu, dyddiad y gorchymyn mabwysiadu, dyddiad caniatáu'r mabwysiadu, ac enw'r llys.
Dim ond y canlynol y mae tystysgrif mabwysiadu fer yn ei ddangos: dyddiad geni, man geni a gwlad enedigol, enw cyntaf a chyfenw ar ôl mabwysiadu, a rhyw. Nid yw'n cyfeirio at fabwysiadu.
Gellir darparu copïau ychwanegol o'r un dystysgrif yr un pryd ar gyfer pob cais ar-lein, drwy'r post neu dros y ffôn, am dâl o £7.00. Bydd tystysgrif mabwysiadu fer ychwanegol yn costio £5.50.
Ar-lein
Gallwch archebu tystysgrifau mabwysiadu ar-lein, os mabwysiadwyd yr unigolyn ar ôl 1927. Bydd angen i chi gynnwys manylion llawn y digwyddiad neu ddarparu cyfeirnod mynegai'r dystysgrif. Gallwch dalu ar-lein hefyd.
Gwasanaeth Safonol
Caiff eich tystysgrif ei hanfon atoch o fewn 5 diwrnod gwaith.
Gwasanaeth Blaenoriaethol
Os archebwch erbyn 4.00 pm, caiff eich tystysgrif ei hanfon atoch y diwrnod gwaith nesaf.
Ffôn
Ffoniwch +44 (0) 845 603 7788, o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 8.00 am ac 8.00 pm, neu ddydd Sadwrn rhwng 9.00 am a 4.00 pm.
Mae'r Swyddfa Gofrestru Gyffredinol yn derbyn Visa, Visa Electron, Mastercard, Solo, Visa Debit neu Maestro.
Post
Gallwch archebu tystysgrif mabwysiadu drwy'r post, ond bydd angen ffurflen gais arnoch yn gyntaf.
I ofyn am ffurflen gallwch naill ai:
Anfon e-bost i:
Bydd angen i chi roi GQ yn llinell pwnc eich e-bost i sicrhau y cewch ateb personol i'ch ymholiad
Ffonio:
+44 (0) 845 603 7788, o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 8.00 am ac 8.00 pm, neu ddydd Sadwrn rhwng 9.00 am a 4.00 pm
Nodwch sawl copi yr hoffech ei gael, a chofiwch nodi eich enw a'ch cyfeiriad.
Anfonwch y ffurflen wedi'i llenwi, gyda'r taliad cywir naill ai gyda siec, archeb bost neu gerdyn credyd, i'r cyfeiriad canlynol: Adoptions section, Room C202, General Register Office, Trafalgar Rd, Southport PR8 2HH.
Dylech wneud sieciau neu archebion post yn daladwy i 'IPS' (Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau).
Peidiwch ag anfon eich cais dros ffacs nac anfon llungopi ohono.
Gwasanaeth Safonol
Os byddwch yn darparu cyfeirnod mynegai'r dystysgrif, caiff y dystysgrif ei hanfon atoch o fewn 4 diwrnod gwaith. Heb y cyfeirnod, caiff ei hanfon atoch o fewn 15 diwrnod gwaith.
Gwasanaeth Blaenoriaethol
Os archebwch erbyn 4.00 pm, caiff eich tystysgrif ei hanfon atoch y diwrnod gwaith nesaf.
Gallwch gysylltu â'r Swyddfa Gofrestru Gyffredinol berthnasol gan ddefnyddio'r dolenni isod.
Gweld pa fudd-daliadau mae'n bosib bydd gennych hawl iddo
I weld ffeiliau PDF, mae angen Adobe Reader arnoch. Mae'r rhaglen ar gael am ddim os nad yw gennych chi eisoes.