Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Archebu tystysgrif partneriaeth sifil

Gallwch archebu tystysgrif o'r Swyddfa Gofrestru Gyffredinol neu'r swyddfa gofrestru leol yn ardal y digwyddiad lle cofrestrwyd y bartneriaeth.

Pa fanylion personol a gaiff eu cynnwys ar dystysgrif partneriaeth sifil?

Ceir dau fath o dystysgrif ar ôl ffurfio partneriaeth sifil. Mae un fersiwn yn cynnwys cyfeiriadau partneriaid pan fyddwch yn cofrestru ac nid yw'r fersiwn arall yn eu cynnwys.

Mae'r ddau fath o dystysgrif yn cynnwys:

  • dyddiad a lleoliad y bartneriaeth sifil
  • enw, dyddiad geni a statws bob partner e.e. sengl, partneriaeth sifil wedi'i diddymu
  • galwedigaeth bob partner
  • enw a galwedigaeth rhieni bob partner
  • enwau'r tystion

Os ydych am wneud cais am dystysgrif gyda chyfeiriadau, mae'n rhaid i chi ddarparu cyfeiriadau'r ddau bartner sifil fel y cawsant eu cofnodi pan gofrestrwyd y bartneriaeth.

Sut mae archebu tystysgrif partneriaeth sifil

Gallwch archebu tystysgrif o'r Swyddfa Gofrestru Gyffredinol neu'r swyddfa gofrestru leol lle cynhaliwyd y digwyddiad.

Gellir darparu copïau ychwanegol o'r un dystysgrif yr un pryd ar gyfer pob cais, am dâl o £7.00.

Archebu ar-lein
Gallwch archebu tystysgrif partneriaeth sifil ar-lein. Bydd angen manylion llawn am y digwyddiad arnoch neu dylech ddarparu cyfeirnod mynegai'r dystysgrif. Gallwch dalu ar-lein hefyd.

Gallwch gael mwy o wybodaeth am ddefnyddio'r cyfeirnod mynegai yn yr erthygl isod.

Archebu ar-lein - beth yw'r gost?

Gwasanaeth Safonol

Os byddwch yn darparu cyfeirnod mynegai'r dystysgrif, caiff ei hanfon atoch o fewn 4 diwrnod gwaith. Heb y cyfeirnod, caiff ei hanfon atoch o fewn 15 diwrnod gwaith.

  • tystysgrif lawn, gyda'r cyfeirnod mynegai - £7.00
  • tystysgrif lawn, heb y cyfeirnod mynegai - £10.00

Gwasanaeth Blaenoriaethol

Os archebwch erbyn 4.00 pm, caiff eich tystysgrif ei hanfon atoch y diwrnod gwaith nesaf.

  • tystysgrif lawn, gyda'r cyfeirnod mynegai - £23.00
  • tystysgrif lawn, heb y cyfeirnod mynegai - £26.00

Archebu tystysgrif dros y ffôn neu drwy'r post

Gallwch archebu tystysgrif dros y ffôn neu drwy'r post o'r Swyddfa Gofrestru Gyffredinol ar gyfer yr holl ddigwyddiadau a gofrestrwyd yng Nghymru neu yn Lloegr, neu o'r swyddfa gofrestru leol yn ardal y digwyddiad.

Rhif Ffôn

Ffoniwch +44 (0) 845 603 7788, o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 8.00 am ac 8.00 pm, neu ddydd Sadwrn rhwng 9.00 am a 4.00 pm. Gallwch dalu gyda Visa, Visa Electron, Visa Debit, Mastercard, Solo, neu Maestro.

Post

Mae angen i chi lwytho ffurflen gais oddi ar y we a'i llenwi isod.

Anfonwch y ffurflen a'r taliad cywir naill ai gyda siec, archeb bost neu gerdyn credyd, i'r cyfeiriad canlynol: Y Swyddfa Gofrestru Gyffredinol/General Register Office, PO Box2, Southport, Merseyside, PR8 2JD.

Dylech wneud sieciau, archebion post neu dyniadau rhyngwladol yn daladwy i 'IPS' (Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau). Peidiwch ag anfon arian parod.

Peidiwch ag anfon eich cais dros ffacs nac anfon llungopi ohono.

Archebu drwy'r post neu dros y ffôn - beth yw'r gost?

Gwasanaeth Safonol

Os byddwch yn darparu cyfeirnod mynegai'r dystysgrif, caiff ei hanfon atoch o fewn 4 diwrnod gwaith. Heb y cyfeirnod, caiff ei hanfon atoch o fewn 15 diwrnod gwaith.

  • tystysgrif lawn, gyda chyfeiriad neu hebddo - £8.50

Gwasanaeth Blaenoriaethol

Os archebwch erbyn 4.00 pm, caiff eich tystysgrif ei hanfon atoch y diwrnod gwaith nesaf.

  • tystysgrif lawn, gyda chyfeiriad neu hebddo - £24.50

Ar gyfer digwyddiadau yn yr Alban neu yng Ngogledd Iwerddon

Gallwch gysylltu â'r Swyddfa Gofrestru Gyffredinol berthnasol gan ddefnyddio'r dolenni isod.

Additional links

Cynghorwr budd-daliadau ar-lein

Gweld pa fudd-daliadau mae'n bosib bydd gennych hawl iddo

Ffeiliau PDF

I weld ffeiliau PDF, mae angen Adobe Reader arnoch. Mae'r rhaglen ar gael am ddim os nad yw gennych chi eisoes.

Allweddumynediad llywodraeth y DU