Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Cofrestru babanod sy'n cael eu geni dramor

Yn y rhan fwyaf o wledydd, gall yr awdurdodau Prydeinig priodol gofrestru babanod sy'n cael eu geni'n ddinasyddion Prydeinig neu sy'n cael eu geni i aelodau sy'n gwasanaethu yn Lluoedd Arfog Prydain. Fodd bynnag, mae angen i chi ofyn am y cyfleuster hwn gan na fydd awdurdodau'r DU yn cael gwybod am yr enedigaeth fel mater o drefn.

Babanod sy'n cael eu geni'n ddinasyddion Prydeinig dramor

Gallwch naill ai fynd at Uwch Gomisiwn Prydain neu at Is-gennad Prydain yn y rhan fwyaf o wledydd i gofrestru genedigaeth. Rhoddir tystysgrifau geni gan yr awdurdodau hyn a gellir eu defnyddio fel tystiolaeth o ddinasyddiaeth Brydeinig, dinasyddiaeth Tiriogaethau Dibynnol Prydain neu ddinasyddiaeth Prydeinig Tramor.

Bydd eich cofrestriadau tramor yn cael eu prosesu yn y DU o fewn 12 mis, ac ar ôl hynny gellir archebu tystysgrifau ychwanegol.

Babanod a enir i aelodau sy'n gwasanaethu yn Lluoedd Arfog Prydain

Os ydych chi'n gwasanaethu yn Lluoedd Arfog Prydain dramor pan gaiff eich plentyn ei eni, gallwch gofrestru'r enedigaeth gyda Gwasanaethau Teuluoedd y Lluoedd neu gyda'r Swyddfa Gofrestru berthnasol. Dylech wneud hyn cyn pen 12 mis.

Dyma rai cysylltiadau defnyddiol:

Gwlad Cyfeiriad
Awstralia British Defence Liaison Staff, British High Commission, Commonwealth Avenue, Canberra, ACT 2600
Yr Almaen G1 Compassionate (BMD) Headquarters UKSC, Germany, BFPO 140
Gibraltar HQBF Registry, The Tower, British Forces Gibraltar, BFPO 52
Cyprus Personnel Branch Headquarters, British Forces Cyprus, BFPO 53
Washington British Defence Staff, British Embassy, 3100 Massachusetts Avenue NW, Washington DC 20008-3688 USA
Canada British Defence Liaison Staff, British High Commission, 80 Elgin Street, Ottawa, Ontario, K1P 5K7
Canada (BATU) Headquarters, British Army Training Unit Suffield, BFPO 14
Kenya British Army Training Liaison Staff, Kenya, BFPO 10
Ynysoedd y Falkland Headquarters, British Forces Falkland Islands, Mount Pleasant Airfield, BFPO 655


Gwledydd lle na allwch gofrestru genedigaeth gyda'r awdurdodau Prydeinig

  • Ynysoedd Ascension
  • Awstralia
  • Bermuda
  • Canada
  • Ynysoedd y Cayman
  • Ynysoedd y Nadolig
  • Ynysoedd y Falkland
  • Gibraltar
  • Gweriniaeth Iwerddon
  • Nevis
  • Seland Newydd
  • San Helena
  • De Affrica
  • Ynysoedd Turks a Cacos
  • Ynysoedd y Wyryf (DU)

Yn yr achosion hyn, cysylltwch â'r Swyddfa Dramor a Chymanwlad.

Additional links

Cofrestrwch - cadwch yn iach

Ymunwch â Newid am Oes - yn helpu pob teulu i fwyta'n iach, i symud mwy ac i fyw'n hwy

Allweddumynediad llywodraeth y DU