Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Cofrestru neu newid cofnod geni yn dilyn triniaeth ffrwythlondeb neu ar ôl benthyg croth

Os caiff eich plentyn ei genhedlu drwy driniaeth ffrwythlondeb neu gytundeb benthyg croth, yma cewch wybod sut mae cofrestru'r enedigaeth a pha newidiadau y gellir eu gwneud wedyn.

Cofrestru babi a genhedlir yn dilyn triniaeth ffrwythlondeb neu ar ôl benthyg croth

Cofnodir mai'r fenyw sy'n rhoi genedigaeth, gan gynnwys y fam fenthyg, yw mam y plentyn. Fel arfer, ystyrir mai'r gŵr neu'r partner a gafodd driniaeth gyda'r fam yw'r tad.

Gyda chytundeb benthyg croth, gall y 'rhieni comisiynu' - y cwpwl a drefnodd i'r fam fenthyg gario plentyn iddynt - wneud cais i'r llysoedd am Orchymyn Rhiant sy'n caniatáu iddynt ail-gofrestru'r enedigaeth a chael eu henwi fel rhieni'r plentyn. Dylech geisio cyngor cyfreithiol os ydych am wneud cais am Orchymyn Rhiant.

Pan fydd llys yn cyflwyno Gorchymyn Rhiant, bydd yn rhoi gwybod i'r Swyddfa Gofrestru Gyffredinol fel mater o drefn, a bydd y swyddfa'n ail-gofrestru'r enedigaeth. Bydd y cofnod geni newydd yn disodli'r gwreiddiol.

Ni fydd angen i chi wneud dim arall, oni bai yr hoffech dystysgrif geni newydd sy'n dangos manylion y 'rhieni comisiynu' fel rhieni'r plentyn.

Darperir manylion ynghylch sut mae cael tystysgrifau o'r cofnod newydd pan fydd cofnod newydd wedi'i wneud.

Rhieni cyfreithiol yn dilyn triniaeth ffrwythlondeb - newidiadau yn y gyfraith

Mae Deddf Ffrwythloni Dynol ac Embryoleg 2008, a ddaw i rym ar 6 Ebrill 2009, yn effeithio ar y rheini a all gael eu cofrestru fel rhieni cyfreithiol plentyn pan fydd plentyn wedi'i genhedlu drwy driniaeth ffrwythlondeb.

Dim ond pan fydd menyw sy'n cael triniaeth yn beichiogi ar y dyddiad hwn neu wedyn y bydd y darpariaethau newydd hyn yn berthnasol.

Os yw'r tad yn marw cyn i'r plentyn gael ei genhedlu

Os caiff plentyn ei genhedlu drwy driniaeth ffrwythlondeb ar ôl marwolaeth y dyn sy'n cael triniaeth gyda'r fam, mae'n bosib cofrestru'r dyn fel tad y plentyn naill ai pan gofrestrir yr enedigaeth, neu ar ddyddiad diweddarach os nad oedd wedi'i enwi yn y lle cyntaf.

Os yw'r enedigaeth wedi'i chofrestru heb fanylion y tad, gellir ei hail-gofrestru er mwyn cynnwys y manylion hynny, ond bydd angen y canlynol arnoch:

  • cydsyniad ysgrifenedig y dyn i'r driniaeth ffrwythlondeb ac i gael ei enwi'n dad y babi pan gofrestrir yr enedigaeth - dim ond os bu farw'r dyn cyn 18 Medi 2003 y mae hyn yn berthnasol
  • cadarnhad ysgrifenedig gan y clinig nad oedd cydsyniad y dyn wedi'i dynnu'n ôl - dim ond os bu farw'r dyn cyn 18 Medi 2003 y mae hyn yn berthnasol
  • cadarnhad ysgrifenedig o'r driniaeth ffrwythlondeb o ffynhonnell feddygol, megis y clinig a oedd yn darparu'r driniaeth, meddyg y fam neu feddyg yn yr ysbyty
  • cais ysgrifenedig y fam i enwi'r dyn fel tad y plentyn pan gofrestrir genedigaeth y babi
  • tystysgrif marwolaeth wreiddiol y dyn, (nid yw llungopi'n dderbyniol) - os bu farw yng Nghymru neu yn Lloegr, bydd manylion lleoliad ac amser y farwolaeth yn ddigonol
  • tystysgrif priodas wreiddiol pan fydd hynny'n briodol, nid yw llungopi'n dderbyniol - os cynhaliwyd seremoni'r briodas yng Nghymru neu yn Lloegr, bydd manylion y lleoliad a'r amser yn ddigonol

Cofiwch na fydd cofnodi'r dyn fel tad y plentyn yn yr amgylchiadau hyn yn golygu y caiff ei drin fel tad y plentyn yng ngolwg y gyfraith at unrhyw ddiben arall heblaw'r cofrestru. Er enghraifft, nid yw'n rhoi unrhyw statws cyfreithiol na hawliau'n ymwneud ag etifeddu na chenedligrwydd i'r plentyn. Os hoffech ragor o wybodaeth dylech geisio cyngor cyfreithiol.

Bydd angen i chi lenwi sawl ffurflen. I'w cael:

  • cysylltwch â'ch swyddfa gofrestru leol
  • cysylltwch â'r Swyddfa Gofrestru Gyffredinol ar +44 (0)151 471 4806

neu anfonwch neges e-bost i:

corrections.re-reg@ips.gsi.gov.uk

I gael mwy o wybodaeth am wasanaethau triniaeth a thadau sydd wedi marw, ewch i wefan yr Awdurdod Ffrwythloni Dynol ac Embryoleg.

Ar gyfer digwyddiadau yn yr Alban neu yng Ngogledd Iwerddon

Gallwch gysylltu â'r Swyddfa Gofrestru Gyffredinol berthnasol gan ddefnyddio'r dolenni isod.

Additional links

Cofrestrwch - cadwch yn iach

Ymunwch â Newid am Oes - yn helpu pob teulu i fwyta'n iach, i symud mwy ac i fyw'n hwy

Allweddumynediad llywodraeth y DU