Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Newid cofnod geni ar ôl newid rhyw

Os ydych wedi cael Tystysgrif Cydnabod Rhyw, efallai y byddwch yn dymuno cael tystysgrif geni newydd yn nodi eich rhyw a'ch manylion personol newydd. Gallwch wneud hyn os cafodd eich genedigaeth ei chofrestru yn y DU.

Gwneud cais am Dystysgrif Cydnabod Rhyw

I wneud cais am Dystysgrif Cydnabod Rhyw, ewch i wefan y Panel Cydnabod Rhyw, sy'n cynnwys manylion sut a phryd y gallwch wneud cais, a ffurflenni cais.

Beth sy’n digwydd nesaf?

Unwaith y byddwch wedi gwneud cais ac wedi cael eich Tystysgrif Cydnabod Rhyw, caiff eich rhyw newydd ei gydnabod yn gyfreithiol, a fydd yn eich galluogi i fwynhau'r holl hawliau sy'n briodol i'ch rhyw, gan gynnwys cael tystysgrif geni newydd.

Mae'r Panel Cydnabod Rhyw yn rhoi gwybod am eich tystysgrif newydd i'r Swyddfa Gofrestru Gyffredinol ar gyfer Cymru a Lloegr:

  • gofynnir i chi ddarllen a chadarnhau'r holl fanylion personol cyn y caiff eich cofnod geni ei gofrestru yn nodi eich enw newydd a'ch rhyw cydnabyddedig
  • bydd y Swyddfa Gofrestru Gyffredinol yn cadw cyswllt cyfrinachol rhwng y manylion gwreiddiol a'r manylion newydd - ni fyddant ar gael i'r cyhoedd eu harchwilio
  • bydd y cofnod newydd yn dangos a gawsoch eich mabwysiadu neu a gofrestrwyd eich genedigaeth dramor

Gwneud cais am dystysgrif geni newydd

Unwaith y caiff cofnod newydd ei greu, bydd tystysgrifau geni llawn a byr ar gael. Ni fydd dim ar y dystysgrif geni yn nodi ei bod wedi'i chreu yn deillio o wybodaeth yn y Gofrestr Cydnabod Rhyw.

Cyhoeddir tystysgrif fer, yn nodi dim ond enw, rhyw, dyddiad geni, rhanbarth ac is-ranbarth yr enedigaeth, am ddim.

Byddwch yn cael manylion sut mae gwneud cais am dystysgrifau geni a faint mae'n ei gostio gyda'r drafft o'r wybodaeth a gofnodwyd yn y Gofrestr Cydnabod Rhyw.

Rhagor o wybodaeth

Os bydd gennych unrhyw gwestiynau am sut y mae'r broses gofrestru yn gweithio yng Nghymru a Lloegr cysylltwch â'r:

Gender Recognition Team
General Register Office
Room C202
Smedley Hydro
Trafalgar Road
Southport
PR8 2HH

Ar gyfer digwyddiadau sydd wedi'u cofrestru yn yr Alban neu yng Ngogledd Iwerddon

Gallwch gysylltu â'r Swyddfa Gofrestru Gyffredinol berthnasol drwy ddefnyddio'r dolenni isod.

Additional links

Cofrestrwch - cadwch yn iach

Ymunwch â Newid am Oes - yn helpu pob teulu i fwyta'n iach, i symud mwy ac i fyw'n hwy

Allweddumynediad llywodraeth y DU