Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Gellir cynnal angladd naill ai drwy gladdu neu drwy amlosgi. Gallwch ei drefnu gyda chymorth trefnydd angladdau neu heb gymorth trefnydd angladdau, a gall fod mor bersonol ag y dymunwch. Mewn rhai achosion, mae'n bosibl bydd yr unigolyn sydd wedi marw wedi trefnu ei angladd ei hun ymlaen llaw.
Cofiwch na allwch drefnu dyddiad pendant ar gyfer yr angladd hyd nes y bydd y farwolaeth wedi'i chofrestru. Os bydd yn rhaid rhoi gwybod i'r crwner am y farwolaeth, caiff hyn effaith ar y dyddiad y gellir cynnal yr angladd.
Cofiwch edrych ar ewyllys yr unigolyn sydd wedi marw neu gyfarwyddiadau ysgrifenedig eraill i weld a oes dymuniadau arbennig o ran ei angladd neu'r hyn a ddylai ddigwydd i'r corff. (Fodd bynnag, nid oes yn rhaid i'r ysgutor ddilyn y cyfarwyddiadau am yr angladd a adawyd yn yr ewyllys.)
Os nad oes unrhyw ddymuniadau clir, fel arfer yr ysgutor/gweinyddydd neu'r perthynas agosaf fydd yn penderfynu a gaiff y corff ei amlosgi neu ei gladdu.
Yr unig ofyniad cyfreithiol yn y DU o ran angladdau yw bod yn rhaid i'r farwolaeth fod wedi'i hardystio a'i chofrestru a bod yn rhaid i'r corff gael ei gladdu neu ei amlosgi.
Bydd angen caniatâd gennych gan grwner yn yr ardal leol cyn y gellir symud corff y tu allan i Gymru a Lloegr. Gallwch ddod o hyd i grwner lleol drwy ddefnyddio gwefan Cymdeithas Crwneriaid Cymru a Lloegr drwy ddilyn y ddolen isod.
Mae'r rheolau yn gymhleth ond bydd swyddfa'r crwner yn gallu rhoi gwybodaeth i chi am yr hyn sydd angen i chi ei wneud. Mae trefnwyr angladdau arbenigol hefyd a ddylai allu helpu. Gallwch ddarllen mwy am drefnwyr angladdau yn yr adran 'Defnyddio trefnydd angladdau' ar y dudalen hon.
Bydd y crwner yn rhoi gwybod i chi pryd y gellir symud y corff. Fel arfer, gellir symud y corff ar ôl pedwar diwrnod, ond o dan amgylchiadau arbennig, gall y crwner gytuno i'r corff gael ei symud yn gynt.
Bydd y crwner yn cyhoeddi hysbysiad symud (ffurflen 104). Wedyn caiff rhan o'r hysbysiad hwn ei hanfon at y cofrestrydd genedigaethau, marwolaethau a phriodasau.
Mae llawer o bobl yn dewis defnyddio trefnydd angladdau proffesiynol ond yn gyfreithiol, nid oes yn rhaid i chi wneud hynny. Os nad ydych am ddefnyddio trefnydd angladdau, gwelwch 'Trefnu angladd heb drefnydd angladdau' isod.
Dylai trefnwyr angladdau sicrhau yr ymdrinnir â'r unigolyn sydd wedi marw mewn ffordd urddasol. Efallai y bydd ffrindiau, teulu, clerigwyr neu eich meddyg yn gallu argymell trefnwyr angladdau lleol. Mae'r rhan fwyaf o gwmnïau lleol hefyd wedi'u rhestru yn y llyfr ffôn.
Efallai yr hoffech ofyn i'r trefnydd angladdau:
Gall gwahanol drefnwyr angladdau godi gwahanol symiau am yr un gwasanaeth felly ceisiwch gael mwy nag un dyfynbris er mwyn cymharu costau. Gofynnwch am restr prisiau fanwl er mwyn gweld beth maent yn ei godi am eu gwasanaethau cyn gwneud penderfyniad.
Unwaith y byddwch wedi dewis trefnydd angladdau, sicrhewch eich bod yn gwneud y canlynol:
Mae'n bosibl y bydd angen i chi lofnodi contract gyda'r trefnydd angladdau. Gwnewch yn siŵr eich bod yn ei ddarllen yn ofalus ac yn holi'r trefnydd angladdau am unrhyw beth nad ydych yn ei ddeall.
Ni chaiff trefnwyr angladdau eu rheoleiddio na'u trwyddedu ond mae'r rhan fwyaf ohonynt yn aelodau o un o ddwy gymdeithas fasnach, sef:
Rhaid i aelodau o'r cymdeithasau masnach hyn roi rhestr prisiau i chi ar gais. Ni allant godi mwy arnoch na'u hamcangyfrif ysgrifenedig oni fyddwch yn rhoi caniatâd iddynt wneud hynny. Nid yw bob amser yn glir o'u hysbysebion pa un a yw trefnydd angladdau yn annibynnol neu'n rhan o grŵp, felly gofynnwch i'r trefnydd angladdau cyn i chi fynd yn eich blaen.
Cysylltwch â'ch Canolfan Cyngor ar Bopeth leol neu Cyswllt Defnyddwyr os ydych yn anfodlon ar y gwasanaethau rydych wedi'u cael gan drefnydd angladdau. Os yw'r trefnydd angladdau yn aelod o gymdeithas fasnach, gallwch hefyd gysylltu â'r gymdeithas honno a defnyddio ei wasanaethau i ddatrys unrhyw anghydfodau.
Dylai gwasanaethau rydych wedi talu amdanynt gael eu darparu gyda gofal a sgil resymol a dylent fod o safon dda.
I gael gwybod am hawliau defnyddwyr a sut i gwyno am wasanaethau angladd, dilynwch y dolenni isod.
Gallwch drefnu angladd heb gymorth trefnydd angladdau. Os byddwch yn dewis gwneud hyn, cysylltwch ag Adran Mynwentydd ac Amlosgfeydd eich awdurdod lleol i gael cyngor ac arweiniad. Gallwch hefyd gael cymorth a gwybodaeth gan y Ganolfan Marwolaethau Naturiol.