Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Prynu gwasanaeth - hawliau defnyddwyr

Pan fyddwch yn prynu gwasanaeth, mae gennych hawliau penodol o dan y gyfraith sy'n eich diogelu os bydd pethau'n mynd o chwith. Mae gwasanaethau yn cynnwys penodi cyfreithiwr neu grefftwr a llofnodi contract am ffôn symudol. Mynnwch wybod beth yw eich hawliau a beth i'w wneud pan aiff pethau o chwith.

Prynu gwasanaeth - y lleiaf y gallwch ei ddisgwyl

Pan fyddwch yn prynu gwasanaeth, rhaid iddo gael ei ddarparu:

  • gyda gofal a sgil resymol - dylai'r gwasanaeth gael ei ddarparu yn unol â safon dda heb unrhyw namau neu ddiffygion
  • am gost resymol - dylai'r pris a godir gyfateb i sgiliau darparwr y gwasanaeth, e.e. byddai adeiladwr yn codi mwy na dyn da ei law
  • o fewn amser rhesymol, e.e. byddai'n afresymol pe bai trydanwr yn codi am ddiwrnod o waith am newid bylb golau

Mae gwasanaethau yn cynnwys penodi cyfreithiwr neu grefftwr a llofnodi contract ar gyfer aelodaeth o gampfa neu ffôn symudol.

Pan gaiff nwyddau eu darparu fel rhan o wasanaeth, ni ddylent fod yn ddiffygiol. Er enghraifft, dylai popty a gaiff ei osod fel rhan o gegin newydd weithio.

Cyfnod ailystyried - eich hawl i newid eich meddwl

Fel arfer bydd gennych saith diwrnod gwaith i ganslo eich archeb a gofyn am ad-daliad llawn os byddwch yn prynu gwasanaeth:

  • ar-lein
  • dros y ffôn
  • drwy'r post
  • ar garreg eich drws (e.e. pan fydd gwerthwr yn ymweld â'ch cartref)

Os bydd gwasanaeth newydd yn dechrau ar unwaith, ni fyddwch fel arfer yn gallu ei ganslo oni fydd y masnachwr wedi methu â rhoi gwybodaeth i chi sy'n ofynnol yn ôl y gyfraith (gweler y ddolen isod).

Cyn i chi dalu am wasanaeth

Pan fyddwch yn talu am wasanaeth, ceisiwch osgoi talu'r holl arian ar unwaith. Mae risg y gallai darparwr y gwasanaeth gymryd eich arian heb wneud yr hyn y cytunwyd arno. Os oes yn rhaid i chi wneud hynny (e.e. am ystafell mewn gwesty), gofynnwch am dderbynneb.

Cyn i fasnachwr ddechrau darn o waith, dylech ofyn am gofnod ysgrifenedig o'r canlynol:

  • y gwaith y byddant yn ei wneud
  • y gost
  • faint o amser y bydd yn ei gymryd

Os bydd angen gwaith ychwanegol na ddarparwyd dyfynbris ar ei gyfer yn wreiddiol, gofynnwch am ddyfynbris ar wahân wedi'i lofnodi ar gyfer y gwaith hwn.

Telerau annheg mewn contractau

Mae'n bosibl y gofynnir i chi lofnodi contract am y gwasanaeth y byddwch yn ei brynu. Mae'n anghyfreithiol i unrhyw delerau yn y contract ffafrio'r masnachwr yn annheg (e.e. dim rhybudd am gynnydd mewn prisiau).

Hyd yn oed os bydd telerau contract yn annheg, dylech gael cyngor cyfreithiol cyn i chi fynd yn groes i delerau contract.

Canslo gwasanaeth

Os hoffech ganslo gwasanaeth, darllenwch delerau ac amodau eich contract i weld beth sydd angen i chi ei wneud. Efallai y bydd angen i chi roi rhybudd, e.e. parhau â'r contract am 28 diwrnod neu dalu ffi canslo.

Efallai y byddwch yn colli unrhyw flaendal rydych wedi'i dalu ymlaen llaw, e.e. i gadarnhau eich archeb neu i dalu am gost deunyddiau i wneud y gwaith.

Os bydd problem gyda gwasanaeth

Os na fydd y masnachwr yn darparu'r gwasanaeth rydych wedi cytuno arno, dylech yn gyntaf roi cyfle iddo ddatrys y broblem am ddim. Dywedwch wrtho am y nam a defnyddiwch ddyfynbrisiau neu gontractau fel tystiolaeth o'r hyn y cytunodd i'w ddarparu.

Os mai mân broblem ydyw, gallech ofyn am ostyngiad, e.e. os na fu gwasanaeth ar eich ffôn symudol am ychydig ddiwrnodau.

Os na all y masnachwr ddatrys y nam neu os bydd yn gwrthod ei ddatrys, dylech ei dalu am werth y gwaith y mae wedi'i wneud a phenodi rhywun arall.

Gallwch ofyn i'r masnachwr:

  • ad-dalu cost rhywun arall yn datrys y nam
  • talu costau ychwanegol o ganlyniad i'r nam, e.e. os bydd plymwaith gwael yn difrodi carpedi

Efallai y bydd yn rhaid i chi fynd i'r llys i gael yr arian hwn gan y masnachwr (gweler y ddolen isod).

Os oes problemau difrifol, er enghraifft gyda gwaith gwael neu beryglus, gallech wrthod talu'r masnachwr. Bydd angen i chi gael cyngor cyfreithiol er mwyn sicrhau bod gennych yr hawl i wneud hyn.

Sut y byddwch yn talu a'ch hawliau

Os gwnaethoch dalu gan ddefnyddio cerdyn credyd a bod y gwasanaeth yn costio mwy na £100, mae'n bosibl y bydd gennych hawliau ychwanegol i gael ad-daliad (gweler y ddolen isod).

Os gwnaethoch dalu gan ddefnyddio Visa, Mastercard neu Maestro, mae'n bosibl y byddwch yn gallu hawlio eich arian yn ôl drwy eu cynllun 'chargeback'. Bydd hyn yn eich diogelu os bydd problem gyda'r gwasanaeth neu os bydd y busnes wedi rhoi'r gorau i fasnachu. Bydd angen i chi gysylltu â chwmni'r cerdyn i hawlio.

Os bydd angen i chi gwyno

Os bydd angen i chi gwyno am wasanaeth, dylech bob amser ddychwelyd at ddarparwr y gwasanaeth. Dylech hefyd edrych ar unrhyw warant sydd gennych i weld pa ddiogelwch sy'n gysylltiedig, e.e. efallai y bydd gennych warant 10 mlynedd am waith adeiladu.

Os na fyddwch yn cael ateb gan ddarparwr y gwasanaeth neu os na fyddwch yn cytuno â'i ymateb, dylech wneud cwyn ysgrifenedig.

Os byddwch wedi talu gan ddefnyddio credyd (e.e. cerdyn credyd), gallwch hefyd gwyno i'r cwmni cyllid.

Mwy o ddolenni defnyddiol

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU