Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Gwener, 5 Hydref 2012

Tocynnau i ddigwyddiadau - hawliau defnyddwyr

Pan fyddwch yn prynu tocyn i ddigwyddiad chwaraeon, cerddoriaeth neu theatr, mae gennych hawliau penodol, e.e. os caiff y digwyddiad ei ganslo. Mynnwch wybod beth yw eich hawliau, sut i brynu tocynnau o ffynonellau dibynadwy ac wrth bwy y dylid cwyno os aiff pethau o chwith.

Prynu tocyn - eich hawliau

Pan fyddwch yn prynu tocyn i ddigwyddiad fel cyngerdd, mae'n rhaid i werthwr y tocyn (asiantau tocynnau neu'r lleoliad):

  • ddarparu gwybodaeth glir am brisiau yn y lleoliad lle y byddwch yn prynu eich tocyn - er enghraifft drwy osod arwyddion prisiau yn y swyddfa docynnau
  • cadarnhau eich lleoliad o ran eistedd neu sefyll
  • sicrhau eich bod yn cael y tocyn cyn y digwyddiad - naill ai drwy'r post neu drwy gasglu'r tocyn o'r swyddfa docynnau
  • eich hysbysu am bris y tocyn heb unrhyw daliadau ychwanegol fel ffioedd archebu

Os na fydd y gwerthwr yn gwneud unrhyw rai o'r pethau hyn, bydd hawl gennych fel arfer i ad-daliad. Dim ond os byddwch yn prynu eich tocyn gan asiant tocynnau, lleoliad y digwyddiad neu fusnes arall sy'n gwerthu tocynnau y bydd yr hawliau hyn yn berthnasol.

Ni fydd yr hawliau hyn yn berthnasol i chi os byddwch yn prynu eich tocynnau gan werthwr preifat, er enghraifft ffrindiau neu werthwyr ar arwerthiannau ar-lein.

Hawliau canslo pan fyddwch yn prynu tocynnau

Bydd yr hawl gennych i gael ad-daliad os caiff y digwyddiad ei ganslo gan y trefnwyr, gan y byddant wedi methu â darparu'r hyn y gwnaethant ei werthu i chi.

Ond os byddwch yn penderfynu nad ydych am fynd i'r digwyddiad mwyach, ni fydd yr hawl gennych i gael ad-daliad, gan nad oes gennych unrhyw hawliau canslo unwaith y byddwch yn prynu tocyn.

Prynu tocyn i ddigwyddiad

Cyn i chi brynu tocyn i ddigwyddiad, dylech bob amser gadarnhau'r canlynol:

  • a yw'r pris yn deg - drwy ei gymharu â'r prisiau y mae cwmnïau tocynnau eraill yn ei godi
  • a fydd unrhyw daliad arall fel ffi archebu - gallwch gadarnhau hyn drwy ofyn am werth gwirioneddol y tocyn
  • y math o docyn rydych yn ei brynu, e.e. seddi gwaelod neu 'olygfa gyfyngedig' (efallai na fyddwch yn gallu gweld popeth ar y llwyfan)
  • sut y byddwch yn cael eich tocynnau - gofynnwch a allant gael eu hanfon drwy wasanaeth 'recorded delivery' neu a oes yn rhaid i chi eu casglu

Os bydd y tocynnau yn cael eu hanfon atoch, sicrhewch y canlynol:

  • bod digon o amser iddynt gyrraedd
  • beth yw polisi'r gwerthwr os na fyddant yn cyrraedd, e.e. a fyddwch yn cael tocynnau newydd yn eu lle neu ad-daliad os bydd yn rhy hwyr

Gwefannau tocynnau anghyfreithlon

Mynnwch wybod beth y gallwch ddisgwyl ei weld ar wefan tocynnau anghyfreithlon

Mae gwefannau sgamiau anghyfreithlon sy'n esgus gwarantu tocynnau ar gyfer digwyddiadau poblogaidd. Bydd y gwefannau hyn yn cymryd eich arian ond ni fyddant yn rhoi tocyn i chi.

Gall y pethau canlynol eich helpu i benderfynu a yw gwefan yn ddilys ai peidio:

  • y math o docynnau a gaiff eu gwerthu - ni ddylent fod ar gyfer digwyddiadau sydd wedi gwerthu allan neu nad ydynt wedi mynd ar werth yn swyddogol
  • adborth am y wefan neu'r cwmni - rhowch ei enw i mewn i beiriant chwilio er mwyn gweld a oes unrhyw sylwadau gan brynwyr
  • manylion cyswllt ar gyfer y wefan - dylai fod rhif ffôn llinell daear a chyfeiriad post llawn

Os nad oes gan y wefan linell daear na chyfeiriad post, bydd yn anodd i chi gysylltu ar ôl i chi brynu. Mae gwefannau, cyfeiriadau e-bost, rhifau blwch Swyddfa'r Post a rhifau ffonau symudol yn hawdd eu newid ac yn anodd eu holrhain.

Os byddwch wedi prynu tocyn o wefan tocynnau anghyfreithlon

Os credwch eich bod wedi prynu tocyn o wefan sgam, dylech roi gwybod i'r heddlu. Os gwnaethoch dalu gan ddefnyddio cerdyn credyd a bod y tocyn wedi costio mwy na £100, mae'n bosibl y byddwch yn gallu cael ad-daliad (gweler y ddolen isod).

Os gwnaethoch dalu gan ddefnyddio cerdyn debyd Visa neu Mastercard, mae'n bosibl y byddwch yn gallu gofyn am ad-daliad o dan eu cynllun 'chargeback'. Bydd angen i chi gysylltu â chwmni'r cerdyn i hawlio.

Cwyno am docyn neu ddigwyddiad

Os ydych am wneud cwyn am docyn neu ddigwyddiad, mae angen i chi wneud yn siŵr eich bod yn cysylltu â'r cwmni priodol.

Os bydd y wybodaeth ar eich tocyn yn anghywir, dylech gwyno i werthwr y tocyn. Er enghraifft, os oedd golygfa gyfyngedig o'ch seddi ond nad oedd eich tocynnau yn nodi hynny.

Cysylltwch â hyrwyddwr y digwyddiad os bydd eich cwyn yn ymwneud â'r canlynol:

  • y digwyddiad, er enghraifft ansawdd sain gwael
  • hysbysebu camarweiniol ar gyfer y digwyddiad, er enghraifft, roedd hysbysebion yn nodi bod y digwyddiad ar agor tan 2.00 am ond caeodd am 10.00 pm

Mae'n bosibl y bydd manylion cyswllt hyrwyddwr y digwyddiad ar eich tocyn. Os na fyddant, gofynnwch i werthwr y tocyn am ei fanylion.

Os na chaiff eich cwyn ei datrys, gallwch:

  • gysylltu â Cyswllt Defnyddwyr, gwasanaeth cyngor i ddefnyddwyr a ariennir gan y llywodraeth
  • cysylltu ag un o'r cymdeithasau masnach os yw gwerthwr eich tocyn yn aelod

Mae dwy gymdeithas fasnach ar gyfer gwerthwyr tocynnau: y Gymdeithas Asiantau a Manwerthwyr Tocynnau (STAR) a'r Gymdeithas Asiantau Tocynnau Eilaidd (ASTA).

Mwy o ddolenni defnyddiol

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU