Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Taliadau gwasanaeth, cildyrnau, rhoddion a thaliadau ychwanegol

Mae'n arfer da i fusnesau roi gwybodaeth i'w cwsmeriaid am eu polisi o ran cildyrnau. Mynnwch wybod am daliadau gwasanaeth a thaliadau ychwanegol, cildyrnau a rhoddion mewn bwytai, casinos, gwestai a busnesau eraill.

Beth yw'r gwahanol daliadau?

Ceir sawl math o 'gildwrn' ac mae gan bob tâl ystyr ychydig yn wahanol a ffordd ychydig yn wahanol o'i drin.

Tâl gwasanaeth

Mae'r tâl gwasanaeth yn swm y mae busnes yn ei ychwanegu at fil. Mae'n seiliedig ar ganran o'r bil hwnnw. Os yw'n dâl 'disgresiwn' neu 'awgrymedig', chi fydd yn penderfynu pa un a ydych am ei dalu ai peidio.

Cildyrnau a rhoddion

Mae cildyrnau a rhoddion yn daliadau gwirfoddol a roddwch, sy'n ychwanegol at swm y bil ac unrhyw dâl gwasanaeth. Maent yn wobr bersonol i'r gweithiwr gan y cwsmer. Fel arfer, caiff cildyrnau eu rhoi mewn arian parod, lle y caiff rhoddion (neu gildyrnau cerdyn) eu rhoi'n electronig drwy derfynell cerdyn. Penderfyniad pob busnes unigol yw pa un a gaiff cildyrnau a rhoddion eu trin yn wahanol i'w gilydd.

Tâl ychwanegol

Mae tâl ychwanegol yn dâl sefydlog fesul cwsmer sydd fel arfer yn orfodol. Mae hynny'n golygu bod yn rhaid i chi ei dalu. Rhaid i dariffau (fel rhestrau prisiau) neu, yn achos bwytai, bwydlenni nodi unrhyw daliadau gorfodol.

Gwybodaeth y gallai bwytai ei rhoi i chi

Mae'r Cod Arfer Gorau ar Daliadau Gwasanaeth, Cildyrnau, Rhoddion a Thaliadau Ychwanegol (y Cod) yn argymell y dylai busnesau arddangos eu polisi ar gildyrnau yn glir a sicrhau ei fod ar gael cyn i chi brynu unrhyw beth.

Dylai'r wybodaeth gynnwys:

  • pa un a yw tâl yn orfodol neu'n dâl disgresiwn (gan olygu pa un a oes yn rhaid i chi ei dalu ai peidio)
  • pa un a yw'r busnes yn cymryd arian i dalu unrhyw gostau sy'n gysylltiedig ag ymdrin â'r taliadau hyn (megis taliadau credyd neu fancio, costau prosesu'r gyflogres)
  • pa un a gaiff cildyrnau arian parod a childyrnau cerdyn eu rhoi mewn ffordd wahanol i weithwyr
  • sut y caiff yr arian ei rannu rhwng y busnes a'r gweithwyr

Dylai fod gan y busnes broses i ymdrin â cheisiadau gan gwsmeriaid am:

  • sut y caiff cildyrnau eu dyrannu
  • pwy sy'n cael cildyrnau
  • unrhyw ddidyniadau o'r cildyrnau, gan gynnwys faint a gaiff ei ddidynnu a pham

Ble y gallwch gael y wybodaeth hon?

Mae nifer o ffyrdd y gall busnes sicrhau bod gwybodaeth am gildyrnau ar gael yn hawdd i chi. Er enghraifft:

  • ar sticeri drws neu hysbysiadau wal neu ar fwydlenni sydd wedi'u harddangos y tu allan i'r lleoliad
  • ar fwydlen mewn bwytai a chaffis
  • mewn casinos, yn ardal y dderbynfa a/neu wrth y bwrdd gamblo
  • ar y bil
  • mewn plygell biliau neu ar lestr 'cildyrnau'

Yn ogystal, dylai busnesau sicrhau y gall gweithwyr eich cyfeirio at fwy o wybodaeth, er enghraifft, datganiad ysgrifenedig yn nodi eu polisi. Gallai busnesau hefyd sicrhau bod mwy o wybodaeth ar gael drwy eu gwefannau neu ar ddeunydd hyrwyddo.

Mae hawliau diogelu defnyddwyr yn golygu na ddylai'r wybodaeth y bydd busnes yn ei rhoi i chi fod yn gamarweiniol.

Cildyrnau a chyflogau staff

Ni all cyflogwr gyfrif cildyrnau tuag at gyfradd Isafswm Cyflog Cenedlaethol aelod o staff mwyach. Ac eithrio'r gofyniad o ran yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol, gall cyflogwr ymdrin â childyrnau yn unol â'i bolisi ei hun.

Os ydych yn weithiwr sy'n cael cildyrnau fel rhan o'ch cyflog, gallwch gael gwybod am eich hawliau yn yr adran cyflogaeth.

Ble i gael help

Nid oes yn rhaid i fusnesau gydymffurfio â'r Cod, ond mae'n nodi arfer da wrth ymdrin â childyrnau.

Os byddwch o'r farn bod busnes wedi rhoi gwybodaeth gamarweiniol i chi am gildyrnau, gallwch gysylltu â Cyswllt Defnyddwyr.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU