Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Sut i ddod o hyd i fusnes dibynadwy

Os ydych am ddod o hyd i fusnes y gallwch ymddiried ynddo, mae cynlluniau lleol a chenedlaethol a all helpu. Mae busnesau sy'n rhan o'r cynlluniau hyn yn cytuno i safonau fel taliadau clir a phroses gwyno os aiff pethau o chwith. Mynnwch wybod am y gwahanol gynlluniau yn y DU.

Busnesau dibynadwy - beth i'w ystyried

Mae gennych hawliau penodol yn ôl y gyfraith pan fyddwch yn prynu nwyddau a gwasanaethau sy'n eich diogelu os aiff pethau o chwith (gweler y dolenni isod). Yn ogystal â'r hawliau hyn, mae rhai busnesau yn cynnig safonau gofal cwsmeriaid uwch, e.e. er mwyn diogelu blaendaliadau a delir iddynt.

Er mwyn dod o hyd i fusnes sy'n cynnig safonau gofal cwsmeriaid uwch, ystyriwch y canlynol:

  • a yw wedi ymrwymo i god ymarfer sy'n pennu safonau gofynnol y mae busnesau yn cytuno i'w cyrraedd, e.e. cynllun TrustMark i fasnachwyr
  • a yw'n aelod o gymdeithas fasnach - mae cymdeithasau masnach yn pennu safonau gwasanaeth ym mhob rhan o ddiwydiant

Er enghraifft, cymdeithas fasnach i gwmnïau symud yw Cymdeithas Symudwyr Prydain.

Os na fydd busnes yn dilyn y safonau a bennwyd gan god ymarfer neu'r gymdeithas fasnach, gallai gael ei ddileu o'r cynllun a gallai golli cwsmeriaid.

Os bydd busnes wedi ymrwymo i god ymarfer, dylai arddangos logo'r cynllun ar ei wefan, llythyrau a thaflenni.

Codau a Gymeradwywyd gan y Swyddfa Masnachu Teg (OFT)

Edrychwch am logo'r Swyddfa Masnachu Teg

Edrychwch am logo Cod a Gymeradwywyd gan y Swyddfa Masnachu Teg (OFT) pan fyddwch yn dewis masnachwr

Caiff y cynllun Codau a Gymeradwywyd ei redeg gan y Swyddfa Masnachu Teg (OFT). Mae'r OFT yn un o adrannau'r llywodraeth sy'n sicrhau bod masnachwyr yn gweithredu'n deg pan fydd pobl yn prynu nwyddau a gwasanaethau.

Mae gan yr OFT godau a gymeradwywyd ar gyfer diwydiannau fel:

  • asiantau gwerthu tai
  • symud tŷ
  • atgyweirio ceir a rhoi gwasanaeth iddynt
  • gwerthiannau uniongyrchol
  • rheoli dyledion pan fydd cwmnïau yn codi tâl am eu cyngor

Mae busnesau â Chod a Gymeradwywyd gan y Swyddfa Masnachu Teg yn:

  • rhoi gwybodaeth glir am y nwyddau neu'r gwasanaethau y maent yn eu gwerthu
  • defnyddio contractau clir a theg - dylai contractau fod yn hawdd eu deall
  • diogelu blaendaliadau
  • darparu safonau gwasanaeth cwsmeriaid da
  • meddu ar weithdrefnau syml ar gyfer ymdrin ag unrhyw gwynion gan gwsmeriaid
  • cynnig gwasanaeth annibynnol cost isel i ddatrys unrhyw broblemau os na allwch chi a'r busnes gytuno (gwasanaeth datrys anghydfodau)

Nid yw busnesau yn ymrwymo i'r cynllun yn unigol. Yn hytrach, mae'r gymdeithas fasnach ar gyfer eu diwydiant yn cyflwyno cod ymarfer i'r OFT. Wedyn mae'r OFT yn penderfynu pa un a ddylai gymeradwyo'r cod ai peidio.

Gallwch ddefnyddio'r ddolen isod i chwilio am fusnesau yn eich ardal sy'n gallu defnyddio logo cod yr OFT.

Cynllun TrustMark i grefftwyr

Mae TrustMark yn eich helpu i ddod o hyd i grefftwyr dibynadwy i wneud gwelliannau ac atgyweiriadau yn eich cartref.

Mae cynllun TrustMark yn cwmpasu pob un o'r prif grefftau, e.e. gwaith saer a phlymwaith.

Caiff y cynllun ei redeg gan 'weithredwyr cynlluniau cymeradwy', e.e. cymdeithasau masnach a thimau Safonau Masnach lleol. Byddant yn archwilio busnes pan fydd yn gwneud cais i ymuno â'r cynllun ac yn cadarnhau bod y busnes yn parhau i gyrraedd safon TrustMark bob blwyddyn.

Gall busnesau sy'n cyrraedd safonau TrustMark arddangos logo TrustMark. Os bydd busnesau yn defnyddio logo TrustMark:

  • bydd arolygiadau rheolaidd wedi'u cynnal ar y safle i archwilio eu sgiliau technegol yn annibynnol
  • bydd archwiliadau wedi cael eu cynnal o'u cofnodion masnachu a'u statws ariannol
  • byddant yn rhoi gwybodaeth glir mewn amcangyfrifon am waith a chontractau
  • byddant yn gallu dweud wrthych am unrhyw reoliadau adeiladu y mae'n rhaid i chi eu bodloni
  • bydd ganddynt broses gwyno glir i helpu i ddatrys unrhyw broblemau

Gallwch ddefnyddio'r ddolen isod i weld logo TrustMark ac i chwilio am fusnesau TrustMark yn eich ardal.

Cynlluniau masnachwyr dibynadwy lleol

Mae llawer o gynghorau yn rhedeg cynlluniau masnachwyr lleol ar gyfer masnachwyr a busnesau bach annibynnol. Gelwir y cynlluniau hyn yn gynlluniau masnachwyr sicr awdurdodau lleol.

Rhaid i fusnesau sy'n ymrwymo i'r cynlluniau gytuno i drin eu cwsmeriaid yn deg a chyrraedd safonau pob cynllun.

Gall eich cyngor lleol neu'ch swyddfa Safonau Masnach leol ddweud wrthych:

  • pa un a yw'n rhedeg cynllun masnachwyr lleol
  • pa safonau y mae'n rhaid i fusnesau eu cyrraedd er mwyn ymuno â'r cynllun
  • pa fusnesau lleol sydd wedi ymuno â'r cynllun

Rhwydwaith Cynlluniau Masnachwyr Sicr Awdurdodau Lleol

Mae rhai cynlluniau masnachwyr lleol yn rhan o'r Rhwydwaith Cynlluniau Masnachwyr Sicr Awdurdodau Lleol (LAATSN). Mae'n rhaid i gynghorau sy'n rhedeg cynlluniau masnachwyr lleol wneud cais i ddod yn rhan o LAATSN.

Mae'r rhwydwaith yn pennu canllawiau er mwyn sicrhau bod y gwahanol gynlluniau yn cyrraedd yr un safonau gofynnol. Mae pob cynllun sy'n rhan o'r rhwydwaith yn:

  • helpu pobl i ddod o hyd i fusnesau y gallant ymddiried ynddynt
  • cynnig help a chyngor os aiff pethau o chwith
  • meddu ar broses gwyno glir

Gall eich cyngor lleol roi gwybod i chi a yw'n aelod o'r rhwydwaith a rhoi manylion am ei gynllun.

Mwy o ddolenni defnyddiol

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU