Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Pan fyddwch yn prynu rhywbeth, mae gennych hawliau penodol o dan y gyfraith sy'n eich diogelu os bydd yn ddiffygiol. Mae'n bosibl y bydd gennych hawliau ychwanegol hefyd gan ddibynnu ble y byddwch yn prynu'r eitem a sut y byddwch yn talu amdani. Mynnwch wybod beth yw eich hawliau a phwy all helpu os aiff pethau o chwith.
Pan fyddwch yn prynu eitem gan fasnachwr (e.e. siop neu siop ar-lein) mae'r gyfraith yn datgan bod yn rhaid i'r eitem fod:
Os na fydd eitem yn bodloni unrhyw un o'r hawliau hyn, mae'n ddiffygiol ac fel arfer bydd gennych yr hawl i gael:
Mae'r hawliau hyn yn berthnasol i'r rhan fwyaf o eitemau y byddwch yn eu prynu o siop, gan gynnwys eitemau sêl. Mae'n bosibl y bydd gennych hawliau ychwanegol os bydd gennych warant (gweler y ddolen isod).
Os bydd y masnachwr yn eich hysbysu o ddiffyg a'ch bod yn prynu'r eitem, ni allwch ei dychwelyd oni fyddwch yn darganfod diffyg gwahanol.
Bydd gennych lai o hawliau os byddwch yn prynu eich eitem gan werthwr preifat, e.e. mewn arwerthiant ar-lein neu o hysbyseb papur newydd. Yr unig ofyniad yw bod yr eitemau yn cyfateb i'r disgrifiad a roddwyd gan y gwerthwr a bod hawl gan y gwerthwr i'w gwerthu.
Bydd gennych hawliau hefyd os byddwch yn prynu gwasanaeth neu'n ymrwymo i gontract, e.e. os byddwch yn cyflogi adeiladwr neu'n ymuno â champfa (gweler y ddolen isod).
Bydd angen 'prawf prynu' arnoch er mwyn dychwelyd eitemau diffygiol i siop
Bydd angen rhyw fath o 'brawf prynu' arnoch er mwyn dychwelyd eitemau diffygiol i siop, megis:
Os nad oes unrhyw beth o'i le ar yr eitem, nid oes gennych yr hawl gyfreithiol i'w dychwelyd. Mae'n bosibl y bydd rhai siopau yn caniatáu i chi ddychwelyd yr eitem os byddwch yn darparu'r prawf prynu y mae'r siop am ei weld, e.e. derbynneb. Edrychwch ar bolisi dychwelyd y siop cyn prynu.
Fel arfer bydd gennych saith diwrnod gwaith i ganslo eich archeb a gofyn am ad-daliad os byddwch yn prynu rhywbeth:
Ni fydd gennych yr hawl hon os bydd eich eitem:
Os byddwch yn prynu rhywbeth ar-lein, dros y ffôn neu drwy'r post, bydd gennych yr hawl i ganslo'r archeb a chael ad-daliad:
Dim ond os byddwch yn prynu gan fasnachwr yn yr Undeb Ewropeaidd (UE) y mae'r hawliau hyn yn berthnasol. Os bydd y masnachwr y tu allan i'r UE, bydd angen i chi ofyn i'r masnachwr nodi cyfraith pa wlad sy'n berthnasol.
Os byddwch yn talu am rywbeth gan ddefnyddio cytundeb credyd, cerdyn credyd neu gerdyn debyd Visa neu Maestro, mae'n bosibl y bydd gennych hawliau ychwanegol o dan yr amgylchiadau canlynol:
Os gwnaethoch dalu am rywbeth yn costio rhwng £100 a £30,000 gan ddefnyddio cerdyn credyd neu gytundeb credyd, gallwch hawlio gan eich cwmni cyllid.
Os gwnaethoch dalu gan ddefnyddio Visa, Mastercard neu Maestro, mae'n bosibl y byddwch yn gallu hawlio eich arian yn ôl drwy eu cynllun 'chargeback'. Bydd angen i chi gysylltu â chwmni'r cerdyn i hawlio.
Dylai pris unrhyw eitem a brynwch fod yn eglur. Os bydd y pris anghywir wedi'i osod ar eitem mewn camgymeriad, nid oes gennych yr hawl i'w phrynu am y pris hwnnw. Er enghraifft, os bydd pris o £29 wedi'i nodi ar got, ond mai'r pris gwirioneddol yw £299 pan fyddwch yn cyrraedd y til.
Os byddwch yn anfodlon ar y pris cywir, nid oes yn rhaid i chi brynu'r eitem.
Os bydd angen i chi gwyno am rywbeth rydych wedi'i brynu, dylech bob amser ddychwelyd at y masnachwr. Dylech hefyd edrych ar unrhyw warant sydd gennych i weld pa ddiogelwch sy'n gysylltiedig, e.e. o ran difrod damweiniol.
Os na fyddwch yn cael ateb gan y masnachwr neu os na fyddwch yn cytuno â'i ymateb, dylech wneud cwyn ysgrifenedig (gweler y ddolen isod).
Gallwch hefyd gael cyngor ar anghydfodau gan Cyswllt Defnyddwyr, y gwasanaeth cyngor i ddefnyddwyr a ariennir gan y llywodraeth.