Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Gwneud cwyn - beth i'w wneud yn gyntaf

Os ydych wedi prynu eitem ddiffygiol neu wedi talu am wasanaeth gwael, gallwch wneud cwyn yn erbyn y masnachwr. Mynnwch wybod sut i gwyno, beth i'w gynnwys mewn llythyr cwyno a beth i'w wneud os nad ydych yn cytuno ag ymateb y masnachwr.

Os oes problem gydag eitem neu wasanaeth

Os oes problem gyda rhywbeth rydych chi wedi'i brynu, dylech ddweud wrth y masnachwr cyn gynted â phosibl. Gallwch gwyno wyneb yn wyneb, dros y ffôn neu yn ysgrifenedig.

Cyn i chi gwyno:

  • gwnewch yn siŵr y gallwch brofi eich bod wedi prynu'r eitem neu'r gwasanaeth gan y masnachwr, e.e. gyda derbynneb, anfoneb neu gyfriflen banc
  • mynnwch wybod a oes gan y masnachwr weithdrefn gwyno y mae angen i chi ei dilyn, ee ffurflen y mae angen i chi ei llenwi ar-lein
  • casglwch yr holl ddogfennau a fydd yn ategu eich cwyn megis dyfynbrisiau, lluniau o'r diffyg a negeseuon e-bost rhyngoch chi a'r masnachwr

Sut i gwyno

Byddwch yn ymwybodol o'ch hawliau

Gweler beth mae angen i'r masnachwr ei wneud ar eich cyfer chi

Pan fyddwch yn cwyno, dylech wneud y canlynol:

  • dyfynnu rhif cyfeirnod, cyfrif neu archeb
  • disgrifio'r eitemau neu'r gwasanaeth a brynwyd gennych
  • nodi'r broblem - beth ddigwyddodd a phryd y digwyddodd
  • nodi sut rydych am i'r masnachwr unioni'r broblem - gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod eich hawliau i weld beth sydd angen i'r masnachwr ei wneud
  • egluro unrhyw gamau rydych eisoes wedi'u cymryd - gan gynnwys pwy y gwnaethoch siarad ag ef a beth ddigwyddodd
  • rhoi terfyn amser i'r masnachwr ymateb, ee 14 diwrnod
  • cadw cofnod o unrhyw lythyrau, negeseuon e-bost ac ati ar gyfer eich cofnodion

Cwyno wyneb yn wyneb

Fel cam cyntaf, efallai y byddech yn cael mwy o lwyddiant drwy gwyno wyneb yn wyneb. Gofynnwch am gael siarad â'r sawl sy'n gyfrifol - nid oes gan bob aelod o staff yr awdurdod i gytuno i roi eitem arall neu ad-daliad.

Ewch â dogfennau sy'n ymwneud â'r eitem neu'r gwasanaeth gyda chi, ee cadarnhad o'r archeb sy'n nodi dyddiad dosbarthu.

Cwyno dros y ffôn

Os byddwch yn cwyno dros y ffôn:

  • ysgrifennwch ddyddiad yr alwad a gyda phwy y gwnaethoch siarad
  • nodwch beth a gaiff ei ddweud yn ystod yr alwad - er enghraifft os bydd y masnachwr yn cynnig atgyweirio'r eitem
  • ysgrifennwch lythyr dilynol mewn perthynas â'ch cwyn

Cwyno'n ysgrifenedig

Os byddwch yn cwyno drwy lythyr neu neges e-bost, bydd tystiolaeth ysgrifenedig gennych y gallwch ei ddefnyddio'n ddiweddarach os bydd y masnachwr yn herio'ch cwyn.

Dylech gynnwys copïau o ddogfennau ategol fel contractau neu dderbynebau pan fyddwch yn anfon y llythyr.

Os byddwch yn anfon y llythyr drwy'r post, dylech ei anfon gyda 'recorded delivery' a chadw'r dderbynneb postio.

Dilynwch y ddolen isod i gael templed sy'n nodi'r telerau cyfreithiol y dylech eu cynnwys.

Os na fyddwch yn cytuno ag ymateb y masnachwr

Os gwnaethoch gwyno wyneb yn wyneb neu dros y ffôn ac na fyddwch yn cytuno ag ymateb y masnachwr, dylech anfon llythyr dilynol mewn perthynas â'r gŵyn.

Os na chewch ymateb i'ch llythyr ar ôl cyfnod rhesymol o amser, ee 14 diwrnod, ysgrifennwch at y masnachwr eto.

Os na fyddwch yn cytuno ag ymateb y masnachwr i'ch cwyn ysgrifenedig, gallwch wneud y canlynol:

  • cwyno i'ch cwmni cyllid os gwnaethoch dalu â cherdyn credyd neu gytundeb credyd
  • cwyno i ombwdsmon annibynnol - gwasanaeth am ddim a all benderfynu cwynion penodol, ee bydd yr Ombwdsmon Cyfreithiol yn delio â'ch cyfreithwyr
  • cwyno i gymdeithas fasnach os yw'r masnachwr yn aelod
  • rhoi cynnig ar gyfryngu – byddwch chi a'r masnachwr yn trafod y materion gyda thrydydd parti niwtral i weld a allwch ddod i gytundeb heb fynd i'r llys

Os na fydd yr opsiynau hyn yn gweithio, efallai y bydd angen i chi ystyried cael ail farn gan arbenigwr annibynnol i weld a yw'r masnachwr ar fai. Er enghraifft, gallech gael ail farn gan yr AA os ydych mewn anghydfod yn ymwneud â char.

Yna efallai y byddwch am ddechrau achos cyfreithiol drwy wneud hawliad mewn llys. Gall hyn fod yn anodd a drud a dylai fod yn ddewis olaf.

Mynnwch wybod mwy am ail farn, cyfryngu ac achosion cyfreithiol drwy ddilyn y ddolen isod.

Ble i gael help

Cael cyngor gan Cyswllt Defnyddwyr

I gael cyngor defnyddwyr ymarferol, ffoniwch 08454 04 05 06

Gallwch gael cyngor ar anghydfodau gan Cyswllt Defnyddwyr, y gwasanaeth cyngor i ddefnyddwyr a ariennir gan y llywodraeth.

Mae rhai masnachwyr hefyd yn perthyn i gynlluniau sy'n nodi safonau ar gyfer delio â chwynion. Er enghraifft, os yw'r masnachwr:

  • yn perthyn i gymdeithas fasnach
  • yn rhan o'r Trustmark neu gynllun masnach awdurdod lleol
  • yn arddangos logo codau cymeradwy'r Swyddfa Masnachu Teg (OFT) - mae hyn yn golygu bod y masnachwr yn cynnig safonau uwch o ran diogelu cwsmeriaid na'r hyn sy'n ofynnol yn ôl y gyfraith

Os na fydd y masnachwr yn datrys eich cwyn, gallwch godi'r mater gyda'r sefydliad sy'n rhedeg y cynllun.

I weld a yw'r masnachwr yn aelod o gynllun masnachu neu gymdeithas fasnach:

  • edrychwch ar-lein (gweler y dolenni isod)
  • gofynnwch i'r masnachwr
  • edrychwch ar wefan neu lyfryn cwmni'r masnachwr

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU