Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Gwener, 5 Hydref 2012

Hysbysebu camarweiniol neu dramgwyddus

Mae cwyno am hysbyseb sy'n dramgwyddus neu'n anwir, yn eich barn chi, yn hawdd. Ceir gwybodaeth yma am ba sefydliadau sy'n delio â phob math o hysbysebu. Hefyd beth y gallwch ei wneud os ydych yn credu bod angen cael gwared ar hysbyseb ar unwaith.

Sut i gwyno am hysbyseb

Mae'r Awdurdod Safonau Hysbysebu (ASA) yn sicrhau bod pob hysbyseb yn dilyn cod ymarfer. Gallwch gwyno i'r ASA:

  • os ydych yn credu bod rhywbeth o'i le ar hysbyseb rydych wedi'i gweld neu ei chlywed
  • os credwch fod hysbyseb yn dramgwyddus, er enghraifft ar sail hil, crefydd, rhyw, tueddfryd rhywiol neu anabledd

Bydd yr ASA yn ymchwilio i gwynion am bob hysbyseb, ac eithrio'r canlynol:

  • rhai sy'n ymwneud â gwasanaethau ariannol
  • rhai rydych yn eu cael dros y ffôn

Cynhyrchion a gwasanaethau ariannol

Yr Awdurdod Safonau Ariannol (FSA) sy'n gyfrifol am hysbysebion ar gyfer bancio, buddsoddi ac yswiriant. Gallwch ddefnyddio ei ffurflen gwyno am hysbyseb ar-lein.

Hysbysebion dros y ffôn

PhonepayPlus sy'n delio â chwynion am wasanaethau a delir drwy'r ffôn yn y DU. Er enghraifft, galwad ffôn sy'n dweud eich bod wedi ennill gwyliau ac yna'n gofyn i chi ffonio llinell ddrud i'w hawlio.

Sut i gwyno i'r Awdurdod Safonau Hysbysebu

Bydd angen copi ysgrifenedig o'ch cwyn ar yr ASA. Mae ffurflen gwyno ar-lein ar gael ar wefan yr ASA. Os yw'n bosibl, dylech gynnwys y canlynol:

  • copi o'r hysbyseb
  • manylion ble a phryd yr ymddangosodd
  • y rheswm eich bod yn credu bod yr hysbyseb yn gamarweiniol

Beth fydd yn digwydd i'ch cwyn

Bydd yr ASA yn ymchwilio i'ch cwyn ac yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am hynt eich achos. Yna bydd yn rhoi gwybod i chi am ei benderfyniad terfynol.

Gall yr ASA gyhoeddi dyfarniad yn erbyn yr hysbysebwr. Mae hyn yn golygu y gall fynnu:

  • bod yr hysbyseb yn cael ei thynnu
  • na chaiff y wybodaeth gamarweiniol ei hailadrodd yn y dyfodol

Beth i'w wneud os byddwch o'r farn bod angen delio â hysbyseb ar unwaith

Cysylltwch â Chyswllt Defnyddwyr os ydych o'r farn bod angen cael gwared ar hysbyseb ar unwaith. Er enghraifft, rydych wedi gweld hysbyseb ar gyfer nwyddau rydych yn gwybod eu bod yn beryglus neu'n anghyfreithlon.

Beth os yw hysbyseb mor dramgwyddus neu anllad fel y gall fod yn anghyfreithlon?

Cysylltwch ag Uned Cyhoeddiadau Anllad y Swyddfa Gartref a fydd yn gallu rhoi cyngor. Yna byddai unrhyw gwynion am anlladrwydd yn cael eu trosglwyddo i'r heddlu i ymchwilio iddynt.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU