Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Gwener, 5 Hydref 2012

Osgoi cynlluniau masnachu anghyfreithlon

Gallwch gael eich temtio i roi arian i rywun sy'n addo llawer mwy i chi yn gyfnewid am yr arian hwnnw. Ond os bydd rhywbeth yn edrych yn rhy dda i fod yn wir, yn aml felly y mae hi. Mynnwch wybod sut i adnabod beth yw cynllun cyfreithlon a beth yw scam anghyfreithlon.

Beth yw cynllun masnachu?

Gall cynlluniau masnachu fod yn gyfle i bobl redeg busnes o'u cartref ac nid ydynt yn anghyfreithlon yn y DU. Dyma rai enwau ar gynlluniau masnachu:

  • gwerthu uniongyrchol
  • marchnata rhwydwaith
  • gwerthu pyramid
  • marchnata ar sawl lefel

Mae'r bobl sy'n ymuno â'r cynlluniau hyn yn hunangyflogedig ac maent yn ennill arian drwy werthu nwyddau neu wasanaethau'r cynlluniau. Gyda rhai cynlluniau, gallwch ennill mwy o arian drwy annog pobl i ymuno â'r cynllun a chael cyfran o'u gwerthiannau hwy. Efallai y cewch gomisiwn am gyflwyno pobl eraill i'r cynllun hefyd. Gelir y bobl hyn yn recriwtiaid.

Os ydych am gael mwy o wybodaeth am gynlluniau masnachu, cysylltwch â Business Link, sef gwasanaeth cyngor busnes y llywodraeth.

Beth yw cynllun masnachu anghyfreithlon?

Mae cynlluniau masnachu yn erbyn y gyfraith os mai'r brif ffordd o wneud arian yw drwy recriwtio aelodau eraill, yn hytrach na gwerthu nwyddau neu wasanaethau. Ond mae angen bod yn ofalus oherwydd bydd rhai cynlluniau anghyfreithlon yn edrych fel pe baent yn cyflenwi nwyddau.

Yn aml, gelwir y cynlluniau hyn yn 'gynlluniau pyramid' a gallant fod yn llythyrau cadwyn, neu ar ffurf clybiau neu gemau. Gall y bobl sy'n rhedeg y cynlluniau hyn ddwyn perswâd arnoch yn hawdd iawn, ond dylech ofyn i chi'ch hun:

  • beth mae'n gofyn i mi dalu amdano?
  • alla i fforddio colli'r arian?
  • a yw'n edrych yn rhy dda i fod yn wir?

Er mwyn i bawb yn y cynlluniau hyn wneud arian, mae angen cyflenwad diddiwedd o bobl newydd. Bydd y cyflenwad bob amser yn dod i ben rywbryd, felly bydd y pyramid yn dymchwel a bydd y rhan fwyaf o bobl yn colli eu harian.

Enghraifft o gynllun pyramid syml

Mae'r cynllun yn gofyn i wyth unigolyn dalu £1,000. Maent yn cael gwybod y byddant yn cael £8,000 pan fyddant yn cyrraedd 'brig' y pyramid.

Ond er mwyn i bob un o'r wyth unigolyn gael y swm hwnnw, mae angen i 64 o bobl ymuno â'r cynllun. Mae angen i bob un ohonynt dalu £1,000 a bydd pob un yn disgwyl cael £8,000. Ond byddai hynny'n golygu bod angen i 512 o bobl eraill ymuno â'r cynllun. Byddai angen 4,096 yn fwy o bobl, ac wedyn 32,768 o bobl ac yn y blaen.

Yn syml, ar gyfer pob unigolyn, mae angen i wyth unigolyn ychwanegol ymuno â'r cynllun er mwyn iddo gael ei arian yn ôl a gwneud elw. Yn y pen draw, mae'n rhaid i'r cyflenwad o bobl sydd â £1,000 ddod i ben, sy'n golygu y bydd y rhan fwyaf o'r bobl yn y cynllun yn colli eu harian i gyd.

Beth i'w wneud os ydych yn credu bod cynllun yn anghyfreithlon

Mae cynlluniau pyramid sy'n dibynnu ar recriwtio pobl yn gyfnewid am arian yn debygol o fod yn anghyfreithlon. Cysylltwch ag Action Fraud i roi gwybod am gynllun pyramid.

Dilynwch y ddolen isod i gael gwybod sut i ddiogelu eich hun rhag sgamiau.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU