Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Twyll ariannol - sut i warchod eich hun

Bydd troseddwyr yn dyfeisio mathau newydd o dwyll yn rheolaidd er mwyn ceisio dwyn eich arian oddi arnoch; bob blwyddyn bydd oddeutu 28 miliwn o ddefnyddwyr yn cael eu targedu yn y DU, ac fe gollir £1 biliwn. Er bod y dulliau'n newid o bryd i'w gilydd, yr un peth mae'n rhaid i chi ei wneud i'ch gwarchod eich hun - bod yn effro a chymryd ychydig o gamau syml.

Beth yw twyll?

Cynllun anghyfreithlon i ddwyn eich arian yw sgam. Fe allan nhw fod ar sawl ffurf, gan gynnwys llythyrau, negeseuon e-bost, galwadau ffôn a negeseuon testun.

Bydd llawer o sgamiau'n dibynnu arnoch chi'n rhoi gwybodaeth neu'n cael eich perswadio i roi gwybodaeth y byddwch fel arfer yn ei chadw'n gyfrinachol. Er mwyn gwarchod eich hun, byddwch wastad yn ofalus wrth roi gwybodaeth bersonol i unrhyw un nad ydych chi'n eu 'nabod (neu unrhyw un nad ydych wedi cael sicrwydd pwy ydyn nhw) nac i unrhyw gwmni neu unigolyn rydych chi'n amheus ohonynt.

Y wybodaeth ddiweddaraf am sgamiau

Mae sawl sefydliad yn darparu gwybodaeth am y sgamiau sydd ar led ar hyn o bryd ac yn cynnig cyngor o bryd am yr hyn y dylech ei wneud os ydych chi'n amau bod rhywun wedi'ch targedu. Dyma nhw:

Yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol

Mae gwefan yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol yn cynnig gwybodaeth am y sgamiau ariannol a beth i ochel rhagddo.

  • 'bachu dros yr e-bost ('phishing') - byddwch yn derbyn e-bost sy'n edrych fel petai wedi dod gan fanc neu gwmni cerdyn credyd yn gofyn i chi roi manylion personol eich cyfrif; defnyddir y rhain i ddwyn arian o'ch cyfrif neu i ddwyn eich manylion personol
  • 'sgamiau cyfranddaliadau' - bydd dieithryn yn eich ffonio'n annisgwyl ac yn ceisio gwerthu cyfranddaliadau i chi mewn cwmnïau na chlywsoch chi amdanyn nhw
  • 'sgamiau trosglwyddo cronfa' - bydd hysbyseb neu e-bost yn gofyn i chi dderbyn taliad i'ch cyfrif banc neu'ch cyfrif cymdeithas adeiladu, ei godi fel arian parod, a'i anfon dramor a hynny'n gyfnewid am dderbyn comisiwn
  • 'sgamiau ffi ymlaen llaw' - byddwch chi'n cael llythyr, neges e-bost neu alwad ffôn yn cynnig swm mawr o arian i chi os gallwch chi helpu rhywun i drosglwyddo miliynau o bunnoedd allan o'u gwlad; gofynnir i chi anfon manylion eich cyfrif banc a ffi weinyddu i roi cychwyn ar y trafodiad
  • 'twyll manylion' - bydd rhywun yn esgus mai chi ydyn nhw heb i chi wybod a heb i chi roi eich caniatâd, neu'n defnyddio'ch manylion personol er mwyn cael arian, nwyddau neu wasanaethau
  • gwefannau ffug - ee esgus bod yn wefan banc neu'n wefan arwerthu ar y we

Y Swyddfa Masnachu Teg (OFT)

Mae'r Swyddfa Masnachu Teg yn cynnig rhestr gynhwysfawr o wahanol fathau o sgamiau (buddsoddi a chyffredinol) a chyngor am sut i 'nabod sgam.

Gwasanaeth defnyddwyr Cyngor ar Bopeth

Mae gwasanaeth defnyddwyr Cyngor ar Bopeth yn cynnig cyngor cyfrinachol, diduedd ac am ddim i ddefnyddwyr. Mae'n cynnig amrywiaeth o wybodaeth am sut i ganfod sgam neu dwyll a'u hosgoi.

Card Watch

Corff sy'n gweithio gyda'r heddlu, siopwyr a sefydliadau, megis Crimestoppers, yw Card Warch, a'i nod yw helpu i frwydro yn erbyn twyll gyda chardiau plastig. Mae eu gwefan yn cynnwys gwybodaeth am sgamiau sy'n targedu pobl sy'n defnyddio cardiau.

Sut i riportio sgam

Os ydych chi'n meddwl eich bod yn darged i sgam neu i chi gael eich dal, gallwch gysylltu â gwasanaeth defnyddwyr Cyngor Ar Bopeth i gael cyngor ar 08454 04 05 06 (rhwng 9.00 am a 6.30 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener).

Os ydych chi'n darged i sgam buddsoddi neu wedi cael eich dal, cysylltwch â llinell gymorth i ddefnyddwyr yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol ar 0845 606 1234 (typetalk 18001 0845 606 1234). Mae'r llinellau ar agor rhwng 8.00 a 6.00 pm.

Additional links

Diogelu eich manylion personol

Sut i warchod eich hun rhag i rywun ddwyn eich manylion personol, a beth i'w wneud os bydd hyn yn digwydd i chi

Allweddumynediad llywodraeth y DU