Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Gwarchod eich arian a'ch manylion personol

Mae dwyn manylion personol, twyll ar-lein a thwyll gyda chardiau credyd wedi cynyddu'n ddramatig yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae nifer o gamau syml y gallwch eu cymryd i atal troseddwyr neu dwyllwyr rhag cael y wybodaeth sydd ei hangen arnyn nhw i ddwyn arian oddi wrthych neu i ddefnyddio'ch manylion. Y peth pwysig yw bod yn effro.

Cadw gwybodaeth yn ddiogel - cyngor call

Mae’r Gwasanaeth Cyngor am Arian yn nodi sut y gallwch warchod eich gwybodaeth bersonol, er enghraifft:

  • bod yn gall gyda'ch 'plastig' - defnyddio'ch cardiau, eich derbynebau a'ch rhifau PIN yn ddoeth, er mwyn atal lladron rhag copïo ac ailddefnyddio'r manylion, neu ddwyn eich cerdyn
  • bod yn 'gall gyda'r post' - sylwi os bydd post yn mynd ar goll, gwybod pa bryd a sut mae riportio post sydd ar goll, trefnu i ailgyfeirio'ch post pan fyddwch yn symud
  • bod yn 'gall gyda chyfrineiriau' - dewis a defnyddio'ch cyfrineiriau a chyflwyno'ch hun yn ddoeth, ac os oes rhaid i chi eu hysgrifennu, sicrhau na all neb eu 'nabod
  • cau pob cyfrif segur, y gallai rhywun eu defnyddio heb i chi wybod
  • bod yn ofalus wrth fynd at wybodaeth bersonol mewn man cyhoeddus
  • holi eich darparwr gwasanaeth gwreiddiol os bydd gwasanaeth arall yn gofyn am eich cyfrinair

Gwybod gyda phwy rydych chi'n delio

Cofiwch bob amser gael gwybod gyda phwy rydych chi'n delio. Bydd unigolion penderfynol diegwyddor yn sefydlu cwmnïau, gwefannau, elusennau neu sefydliadau ffug eraill er mwyn eich perswadio i roi gwybodaeth bersonol neu arian iddyn nhw.

Gwarchod eich cyfrifiadur rhag dieithriaid

Gall rhaglenni meddalwedd gan gynnwys 'firysau' 'trojans' 'mwydod' a 'sbiwyr' roi i hacwyr a throseddwyr y wybodaeth sydd ei hangen arnyn nhw i fynd at eich cyfrifon ariannol ar-lein. Gallant wneud hyn drwy:

  • atal eich Cyfrifiadur rhag gweithio'n iawn
  • cofnodi pa safleoedd y byddwch chi'n ymweld â nhw
  • cofnodi beth fyddwch chi'n ei deipio tra'ch bod yno

Mae'n bosib anfon y rhaglenni hyn fel atodiadau e-bost neu drwy osod meddalwedd yn awtomatig a lwythir oddi ar y we.

Gallwch leihau'r risg o gael hyn yn digwydd drwy:

  • ddileu negeseuon e-bost annisgwyl sydd ag atodiadau heb eu darllen; yr atodiad fydd wedi'i heintio â'r firws fel arfer
  • gosod meddalwedd gwrth-firws a 'mur cadarn' da (bydd mur cadarn yn help i chi reoli sut y bydd eich cyfrifiadur yn cyfathrebu â'r rhyngrwyd)

lleihau faint o e-bost 'sothach' y byddwch chi'n ei dderbyn dryw osod hidlydd 'gwrth-sbam' os nad oes gennych chi un eisoes.

Additional links

Diogelu eich manylion personol

Sut i warchod eich hun rhag i rywun ddwyn eich manylion personol, a beth i'w wneud os bydd hyn yn digwydd i chi

Allweddumynediad llywodraeth y DU