Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Mae'r Ddeddf Rheoli Data yn rheoli sut y defnyddir eich gwybodaeth bersonol gan gorfforaethau neu'r llywodraeth. Mae rheolau'r Ddeddf yn gofyn i bawb sy'n casglu data i ddilyn canllawiau pendant, ac i gadw'ch gwybodaeth yn ddiogel. Mae'r dudalen hon yn egluro sut mae'n gweithio.
Mae manylion y Ddeddf Diogelu Data yn eithaf cymhleth, ond wrth galon y Ddeddf mae wyth o reolau synnwyr cyffredin sef yr 'egwyddorion diogelu data'.
Mae'r egwyddorion hyn yn gofyn i unrhyw sefydliad, corfforaeth neu gorff llywodraethol sy'n casglu gwybodaeth bersonol ddelio â'r wybodaeth honno'n ofalus. Mae'n rhaid i unrhyw un sy'n casglu gwybodaeth bersonol wneud y canlynol:
Mae'n ofynnol dan y gyfraith i bob sefydliad sy'n casglu ac yn defnyddio gwybodaeth bersonol gydymffurfio gyda'r egwyddorion hyn.
Mae'r gyfraith yn rhoi gwarchodaeth gadarnach dros wybodaeth mwy sensitif - er enghraifft eich tarddiad ethnig, eich barn wleidyddol, eich credoau crefyddol, eich iechyd, eich bywyd rhywiol neu unrhyw hanes troseddol. Caiff ei gorfodi gan gomisiynydd gwybodaeth annibynnol a all weithredu yn erbyn unrhyw gwmni neu gorff llywodraethol a fydd yn methu diogelu'ch gwybodaeth, neu'n camddefnyddio'r hawl i grynhoi a chadw'r wybodaeth honno.
Rhydd y Ddeddf Diogelu Data yr hawl i chi wybod pa wybodaeth mae'r llywodraeth a sefydliadau eraill yn ei chadw amdanoch chi. Gelwir hyn yn 'hawl i weld gwybodaeth'. Os byddwch yn cyflwyno'ch cais yn ysgrifenedig, mae'n ofynnol o dan y gyfraith iddynt ddarparu copi i chi o'r holl wybodaeth sydd ganddynt amdanoch chi.
Mae'n bosib y bydd rhai asiantaethau neu gorfforaethau yn codi ffi am ddarparu'r wybodaeth, ond cânt godi ffi o hyd at £10 yn unig ar gyfer gwybodaeth ddigidol, neu hyd at £50 ar gyfer cofnodion meddygol papur (h.y. y rhai nad ydynt ar gael ar ffurf electronig). Mae cael gwybod pa wybodaeth sydd gan asiantaethau archwilio credyd amdanoch chi yn costio £2.
Mae rhai pobl yn casáu'r ffordd y mae cwmnïau ac asiantaethau'r llywodraeth yn cysylltu â nhw'n uniongyrchol dros y ffôn, drwy'r post neu hyd yn oed dros y ffacs. Mae gennych yr hawl i stopio'r ymgyrchoedd marchnata uniongyrchol hyn rhag defnyddio'ch gwybodaeth bersonol i gysylltu â chi.
Y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw cofrestru'ch manylion gydag un o'r 'gwasanaethau dewis', sy'n caniatáu i chi ddewis peidio â bod yn rhan o farchnata uniongyrchol yn gyfan gwbl.
Mae'r dolenni isod yn cynnig mwy o wybodaeth ynghylch sut y gallwch ddewis peidio â bod yn rhan o farchnata uniongyrchol