Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Priodas, cyd-fyw a phartneriaethau sifil

Mae llawer o wybodaeth a chyngor ar gael am y materion ymarferol a chyfreithiol sy'n gysylltiedig â phriodi, cyd-fyw a phartneriaethau sifil (ar gyfer cyplau o'r un rhyw).

Priodi

Mae Swyddfa'r Cofrestrydd Cyffredinol wedi cyhoeddi canllaw ar-lein ar briodi. Mae'r wefan yn edrych ar ble gallwch briodi yng Nghymru a Lloegr a sut mae priodi dramor. Mae hefyd yn rhoi manylion am y gofynion cyfreithiol a'r gofynion preswylio sy'n gysylltiedig â phriodi, a beth y mae angen i chi ei wneud os gwelwch fod camgymeriad ar eich tystysgrif priodas.

Mae Swyddfa'r Cofrestrydd Cyffredinol yn gyfrifol am Gymru a Lloegr, a cheir swyddfeydd cyfatebol ar gyfer yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Os ydych chi'n chwilio am gopi o'ch tystysgrif priodas, gellir archebu un ar y we neu drwy'r swyddfa gofrestru neu'r adeilad crefyddol lle cynhaliwyd y briodas. Mae Swyddfa'r Cofrestrydd Cyffredinol yn cadw copi canolog o bob cofrestriad yng Nghymru a Lloegr. Mae Swyddfeydd Cofrestru Lleol hefyd yn cadw'u cofnodion eu hunain o'r holl ddigwyddiadau a gofrestrwyd yn eu hardal hwy.

Seremonïau Priodas Sifil

Cewch fwy o fanylion am seremonïau priodas sifil drwy ddilyn y ddolen isod. Rhowch fanylion lle'r ydych yn byw ac eir â chi i wefan eich awdurdod lleol lle gallwch weld y canolfannau sydd ar gael yn eich ardal chi. Mae English Heritage hefyd yn cyhoeddi rhestr o'r adeiladau hanesyddol sydd ganddo i'w llogi ar gyfer priodasau sifil.

Partneriaeth sifil

Daeth Deddf Partneriaeth Sifil 2004 i rym ar 5 Rhagfyr 2005 ac mae'n galluogi cyplau o'r un rhyw i gael cydnabyddiaeth gyfreithiol o'u perthynas. Mae gan gyplau sy'n ffurfio partneriaeth sifil statws cyfreithiol newydd, sef 'partner sifil'.

Mae partneriaid sifil yn cael eu trin yr un fath â chyplau priod mewn ystod eang o faterion cyfreithiol, gan gynnwys:

  • treth, gan gynnwys treth etifeddu
  • buddiannau cyflogaeth
  • y rhan fwyaf o fuddiannau pensiwn y wladwriaeth a phensiwn galwedigaethol
  • budd-daliadau ar sail incwm, credydau treth a chynnal plant
  • dyletswydd i ddarparu cynhaliaeth resymol i'ch partner sifil ac i unrhyw blant y teulu
  • gallu gwneud cais am gyfrifoldeb rhiant ar gyfer plentyn eich partner sifil
  • etifeddu cytundeb tenantiaeth
  • cydnabyddiaeth dan reolau diffyg ewyllys pan nad oes ewyllys
  • gallu cael iawndal pe bai yna ddamwain angheuol
  • gwarchod rhag trais yn y cartref
  • cydnabyddiaeth at ddibenion mewnfudo a chenedligrwydd

Sut mae cofrestru partneriaeth sifil

Cyn ffurfio partneriaeth sifil, rhaid i chi 'roi rhybudd'. Mae hyn yn golygu datgan eich bwriad o gofrestru partneriaeth sifil i'ch awdurdod cofrestru. Ar ôl rhoi rhybudd, cânt eu cyhoeddi gan yr awdurdod cofrestru am 15 diwrnod. Gellir ffurfio perthynas sifil yng Nghymru a Lloegr mewn swyddfa gofrestru neu mewn adeilad sydd wedi'i gymeradwyo.

Ceir gwybodaeth fanwl am y broses o ffurfio partneriaeth sifil a'r costau cysylltiedig gan Swyddfa'r Cofrestrydd Cyffredinol.

Cyd-fyw - byw gyda'ch gilydd

Mae dros bedair miliwn o gyplau yn byw gyda'i gilydd yng Nghymru a Lloegr. Er bod gan barau sy'n cyd-fyw erbyn hyn warchodaeth gyfreithiol mewn amryw o feysydd, mae ganddynt hwy a'u teuluoedd gryn dipyn yn llai o hawliau a chyfrifoldebau na pharau sydd wedi priodi neu sydd wedi ffurfio partneriaeth sifil.

Ar ôl iddynt fyw gyda'u partneriaid am ychydig flynyddoedd, mae'r rhan fwyaf o bobl yn meddwl eu bod yn dod yn 'ŵr a gwraig drwy gyd-fyw', gyda'r un hawliau â chyplau priod. Nid yw hyn yn wir. Mewn gwirionedd, nid yw'r mwyafrif helaeth o'r hawliau sy'n berthnasol i gyplau priod neu bartneriaid sifil yn berthnasol i gyplau sy'n cyd-fyw.

Nid oes y fath beth â 'phriodas drwy gyd-fyw'.

Os ydych yn cyd-fyw fel cwpwl, gallwch gymryd camau i ddiogelu eich hun a'ch partner. Ceir hefyd ffyrdd o leihau'r problemau ariannol a chyfreithiol a allai godi os penderfynwch wahanu, fel y gall ddigwydd, neu os oes un ohonoch yn marw.

Gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth am hawliau cyfredol cyplau sy'n cyd-fyw gan Advicenow - gwefan annibynnol sy'n cynnig gwybodaeth am hawliau a materion cyfreithiol. Bwriad eu hymgyrch 'Cyd-fyw', yw gwneud cyplau sy'n cyd-fyw (cyplau o'r un rhyw neu gyplau o ryw gwahanol) yn fwy ymwybodol o'u statws cyfreithiol. Mae'r ymgyrch hefyd yn rhoi cyngor ynghylch sut mae diogelu eich hun a'ch teulu, petaech am wneud hynny.

Os hoffech gael mwy o wybodaeth am y gwahaniaethau yn sefyllfaoedd cyfreithiol cyplau priod a chyplau di-briod, mae adran 'Yn Briod neu Beidio' gwefan One Plus One yn edrych yn gyffredinol ar hyn.

Trefnu partneriaeth sifil

Bydd y ddolen isod yn gadael i chi roi manylion lle'r ydych yn byw ac yna'n mynd â chi at wefan eich awdurdod lleol lle gallwch gael mwy o wybodaeth am drefnu seremoni partneriaeth sifil yn eich ardal chi.

Ysgaru a gwahanu

Ceir gwybodaeth a chyngor am ysgaru a gwahanu yn adran rhieni Cross & Stitch.

Additional links

Hawliau gweithwyr asiantaeth

Ydych chi'n gwybod beth mae gennych hawl iddo? Ydy eich asiantaeth yn cadw at y rheolau?

Cysylltiadau defnyddiol

Allweddumynediad llywodraeth y DU