Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Yma, gallwch ddod o hyd i ddolenni a fydd yn rhoi gwybodaeth i chi am eich hawliau a'ch cyfrifoldebau, beth bynnag yw eich sefyllfa mewn bywyd.
Er bod gan barau sy'n cyd-fyw gyda'i gilydd warchodaeth gyfreithiol mewn amryw o feysydd, mae ganddynt gryn dipyn yn llai o gyfrifoldebau na pharau sydd wedi priodi neu sydd wedi ffurfio partneriaeth sifil. Nid oes y fath beth â phriodas cyfraith gyffredin na gŵr a gwraig cyfraith gyffredin.
Os ydych chi a'ch partner yn byw gyda'ch gilydd neu'n meddwl byw gyda'ch gilydd fel cwpwl, mae rhai materion y dylech eu hystyried, megis beth fyddai'n digwydd petaech yn gwahanu neu petai un ohonoch yn marw.
Rhaid i briodasau a phartneriaethau sifil gael eu cofrestru er mwyn i'r hawliau cyfreithiol ddod i rym. Mae hyn yn cael effaith ar sawl maes, gan gynnwys treth, budd-daliadau a, phetai'r briodas neu'r bartneriaeth yn chwalu, eich dyletswydd resymol i gynnal eich partner ac unrhyw blant sydd gennych.
Edrychwch ar y ddolen isod i gael mwy o wybodaeth am hawliau a pherthnasau ar gyfer parau sy'n byw gyda'i gilydd, parau priod a phartneriaethau sifil.
Nid oes gan rieni hawliau dros eu plant yn awtomatig - mae'r rhain yn dibynnu ar 'gyfrifoldeb rhiant'. Os ydych chi, fel rhieni plentyn, yn briod â'ch gilydd, neu fod y ddau ohonoch wedi mabwysiadu'r plentyn gyda'ch gilydd, mae gan y ddau ohonoch gyfrifoldeb rhiant. Nid dyma'r achos yn awtomatig ar gyfer partneriaid sifil neu dadau di-briod. Ystyrir bod gan y mamau, p'un ai eu bod wedi priodi neu beidio, 'gyfrifoldeb rhiant' dros eu plant bob amser.
Nid yw trais yn y cartref yn dderbyniol dan unrhyw amgylchiadau. Mae trais yn y cartref yn achosi niwed corfforol a meddyliol ac nid i chi yn unig. Gall hyn effeithio ar blant, dim ond wrth ei weld yn digwydd hyd yn oed.
Os ydych yn ystyried gadael perthynas lle'r ydych yn cael eich cam-drin, ac yn poeni am eich diogelwch eich hun ac am ddiogelwch eich plentyn, mae cymorth ar gael, beth bynnag yw statws eich perthynas. Os ydych chi'n bâr sy'n byw gyda'ch gilydd, p'un ai'ch bod yn heterorywiol neu o'r un rhyw, byddai gennych yr un hawliau ag y byddai gennych petaech chi wedi priodi neu petaech yn bartneriaid sifil. Mae gan ddynion a merched yr hawl i fod yn ddiogel yn eu cartrefi eu hunain ac mae ganddynt hawl i'r un lefel o gymorth, cefnogaeth ac amddiffyniad.
Os ydych chi mewn gwaith cyflogedig, hyd yn oed os mai rhan-amser yw'ch swydd, neu'ch bod yn gweithio dros dro neu am gyfnod penodol, mae gennych hawl i rai pethau penodol. Mewn rhai achosion efallai bydd amodau i'r hawliau hyn, ond mae prosesau yn eu lle i sicrhau eich bod yn cael eich trin yn deg. Mae eich hawliau'n cynnwys materion megis:
Mae gennych hefyd gyfrifoldebau fel gweithiwr yn unol â thelerau'ch contract.
Yn yr adran pobl anabl ceir gwybodaeth am hawliau pobl anabl, gan gynnwys gwybodaeth am y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd a hawliau o ran cael mynediad at nwyddau a gwasanaethau, cyflogaeth, iechyd ac addysg.
Dan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn, mae gan bob plentyn a pherson ifanc sy'n 17 oed neu'n iau rai hawliau dynol sylfaenol. Mae'r rhain yn cynnwys yr hawl i fywyd, cenedligrwydd, cyswllt â rhieni yn ogystal â rhyddid barn a'r hawl i weld eu safbwyntiau'n cael eu parchu.
Mae rhai hawliau sylfaenol yn dod yn fwy perthnasol wrth i chi fynd yn hŷn. Mae'r rhain yn cynnwys hawliau o ran pensiynau a budd-daliadau yn ogystal â'ch hawl i gael rhai gwasanaethau.
Cyflogaeth a hyfforddiant sy'n gysylltiedig â gwaith
Mae'r Ddeddf Rheoliadau Oedran wedi ffurfioli'ch hawl i gael eich trin yn deg mewn cyflogaeth a hyfforddiant sy'n gysylltiedig â gwaith, ac yn mynnu na ddylid gwahaniaethu yn eich erbyn oherwydd eich oed. Bydd hawliau eraill yn berthnasol wrth i chi gyrraedd oed ymddeol.
Ceir rhai hawliau penodol sy'n ymwneud â gofalwyr. Mae'r rhain yn cynnwys hawliau cyflogaeth, yr hawl i gael asesiad a'r hawl i dderbyn taliadau uniongyrchol.
Mae cymorth ychwanegol ar gael yn arbennig ar gyfer gofalwyr ifanc er mwyn gwneud yn siŵr:
Dylai awdurdodau lleol sicrhau nad yw cyfrifoldebau gofalu yn effeithio ar addysg, datblygiad a lles cyffredinol gofalwyr ifanc.