Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Os ydych yn ofalwr ifanc dan 18 oed, mae'n bwysig eich bod yn cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnoch.
Mae'r gefnogaeth sydd ar gael yn golygu:
Dylai awdurdodau lleol sicrhau nad yw addysg, datblygiad a lles cyffredinol gofalwyr ifanc yn cael eu heffeithio gan gyfrifoldebau gofalu.
Ambell waith, efallai bydd gan berson 16 neu 17 oed sy'n gofalu am rywun hawl i gael asesiad. Mae gan eich cyngor lleol gyfrifoldeb i sicrhau lles gofalwyr ifanc a'u bod yn derbyn y gefnogaeth angenrheidiol. Dylai'r cyngor lleol hefyd sicrhau nad yw person ifanc yn cael ei ddal mewn rôl fel 'gofalwr'.
Gallwch lenwi manylion am ble yr ydych yn byw yn y ddolen ganlynol, bydd hyn yn eich tywys wedyn i wefan eich awdurdod lleol, ble gallwch ddod o hyd i gyngor a chefnogaeth sydd ar gael yn eich ardal leol. Mae’r chwiliad yn gweithio i gynghorau yn Lloegr yn unig.