Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Gall gofalu am rywun fod yn waith unig felly mae'n bwysig bod gennych gysylltiad â'r byd y tu allan a'ch bod yn cael amser i chi'ch hun. Mae grwpiau a gweithgareddau y gallech eu mynychu neu gallech ymuno mewn fforwm trafod ar y we neu gael sgwrs ffôn wythnosol.
Gall eich cyngor lleol restru grwpiau gofalwyr lleol. Edrychwch yn y llyfr ffôn er mwyn cysylltu â'r cyngor neu ymwelwch â'u gwefan.
Fe gewch hyd i wefan eich cyngor lleol drwy ddilyn y ddolen isod.
Mae nifer o fyrddau trafod a fforymau i ofalwyr ar y rhyngrwyd. Mae rhai o'r rhain ar gyfer gofalwyr pobl â chyflyrau penodol, megis fforwm 'Share' Mencap i deuluoedd rhywun ag anhawster dysgu. Mae eraill yn llefydd i ofalwyr yn gyffredinol rannu eu meddyliau a rhoi cyngor i'w gilydd.
Defnyddiwch chwilotwr ar y we i ddod o hyd i fwy o fforymau, neu efallai y gall grwpiau gofalwyr lleol awgrymu rhai gwefannau.
Yr elusen Cyswllt Teulu sy'n darparu'r gwasanaeth 'Cysylltu'. Mae'n cynnig y cyfleuster o ganfod a chysylltu â phobl eraill sy'n ymdrin â'r un anableddau neu gyflyrau meddygol â chi, neu rai tebyg.
Gall y gallu i gysylltu â rhywun sy'n deall eich sefyllfa fod o gymorth mawr.
Mae'r wefan yn rhestru nifer fawr o gyflyrau meddygol ac anableddau, ac mae llawer o bobl wedi ymuno ac yn chwilio am gyswllt, felly gallai eich helpu i ddod o hyd i'r bobl yr ydych yn chwilio amdanynt
Mae'r BBC a Rhwydwaith Cymunedol yn cynnal gwasanaeth ar gyfer gofalwyr fel eu bod yn cael sgwrs dros y ffôn unwaith yr wythnos. Ni fydd angen cyfarpar arbennig arnoch – dim ond ffôn.
Weithiau, mae gadael y tŷ am awr er mwyn mynd i grŵp gofalwyr neu ddigwyddiad cymdeithasol yn amhosib. Bydd 'galw gofalwyr' yn sgwrsio â gofalwyr eraill dros y ffôn am lai nag awr yr wythnos. Mae'n hawdd ac am ddim.
Nid yw'r gwasanaeth ar gael ym mhob ardal felly cysylltwch â'ch gorsaf radio BBC leol er mwyn gweld a ydynt yn cymryd rhan.
Ceir nifer o fudiadau ac elusennau sy'n cynnig gwasanaethau i ofalwyr. Gallwch ddod o hyd i fanylion cyswllt rhai ohonynt yn adran 'cyfeiriaduron' Cross & Stitch.