Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Gwasanaethau cefnogi

Mae'r erthygl hon yn trafod y gefnogaeth sydd ar gael i chi fel gofalwr, yn y tymor byr a'r hirdymor.

Gallai gwasanaethau cefnogi beunyddiol eich galluogi i fynd i weithio neu gymryd seibiant yn ystod y dydd. Neu gallent eich helpu pan fydd angen gofal arbenigol neu gryn dipyn o ofal ar y sawl yr ydych yn gofalu amdano.

Er eich bod yn cael gafael ar eu gwasanaethau trwy eich awdurdod lleol, gall y gwasanaethau cymdeithasol weithio gydag asiantaethau eraill i ddarparu gwahanol fathau o gefnogaeth - elusenau a chyrff sector preifat er enghraifft.

Gallai'r rhain gynnwys:

  • darparu cefnogaeth mewn canolfannau dydd
  • trefnu a darparu cymorth gofal cartref
  • dod o hyd i gartref mwy addas ar gyfer y person yr ydych yn gofalu amdano
  • darparu a threfnu gofal preswyl

Canolfannau gofal dydd

Mae gan sawl rhan o'r wlad ganolfannau gofal dydd lleol. Byddant o fudd i chi fel gofalwr a'r sawl y byddwch yn gofalu amdano oherwydd bydd y ddau ohonoch yn cael seibiant. Mae canolfannau dydd yn darparu amrywiaeth o wasanaethau gofal i bobl gyda gwahanol anableddau.

Mae'n bosib y bydd asesiad anghenion y person y byddwch yn gofalu amdano yn nodi bod ymweliadau â chanolfan ddydd yn rhan o'r gefnogaeth y byddwch chi ac ef/hi yn ei derbyn. Yn yr achos hwn, rhaid i'r awdurdod lleol sicrhau bod hyn yn digwydd.

Cael gwybod am ganolfannau dydd lleol

Gallwch lenwi eich manylion am eich cartref yn y ddolen ganlynol, bydd hyn wedyn yn eich tywys i'r wefan am eich awdurdod lleol, ble gallwch gael gwybod mwy am ganolfannau dydd yn eich ardal.

Cymorth yn y cartref

Mae sawl ffordd y gallwch gael cymorth yn y cartref ar gyfer y person y byddwch yn gofalu amdano. Bydd gan y gweithwyr gofal cartref sy'n darparu'r gefnogaeth hon rolau gwahanol hefyd.

Mae cynorthwywyr gofal yn gwneud tasgau megis glanhau, siopa a pharatoi prydau.

Mae gweithwyr gofal cartref yn darparu 'gofal personol', er enghraifft helpu rhywun i fynd i'r toiled neu ei helpu i ymolchi a gwisgo.

Efallai y gallwch chi eich hun ddewis cyflogi rhywun i helpu gyda gofal gartref. Dylech ofyn am gyngor gan eich awdurdod lleol neu fudiadau cefnogi lleol.

Cartrefi gofal a chartrefi gofal gyda gwasanaeth nyrsio

Darperir cartrefi gofal ar gyfer pobl nad ydynt yn gallu ymdopi gartref mwyach ac angen cefnogaeth gyda'u gofal personol. Gall rhai cartrefi gymryd y sawl yr ydych yn gofalu amdano am gyfnodau byr er mwyn i chi gael seibiant. Yn aml, maent ar gyfer gofal mwy parhaol a hirdymor.

Mae cartrefi gofal gyda gwasanaeth nyrsio'n cynnig cefnogaeth i bobl y mae eu salwch neu anabledd yn golygu bod angen gofal nyrsio cyson arnynt.

Gall eich awdurdod lleol, cwmnïau preifat a mudiadau gwirfoddol redeg cartrefi gofal.

Cael gwybod am gyngor a chefnogaeth lleol sydd ar gael i ofalwyr oedolion

Eich awdurdod lleol yw lle cyntaf i droi am gefnogaeth a chyngor ynghylch gofalu am rywun. Gallwch lenwi manylion am ble rydych chi’n byw yn y ddolen ganlynol a bydd hyn wedyn yn eich tywys i wefan eich awdurdod - neu gyngor - lleol, ble gallwch gael gwybod mwy.

Allweddumynediad llywodraeth y DU