Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Asesiadau ar gyfer gofalwyr

Os ydych chi'n darparu gofal sylweddol a chyson i rywun 18 oed neu hŷn, mae gennych hawl gofyn i'r adran gwasanaethau cymdeithasol lleol yn eich cyngor lleol am asesiad gofalwr.

Paratoi ar gyfer asesiad gofalwr

Does dim diffiniad o 'ofal sylweddol a chyson'. Golyga asesiad gofalwr y bydd gwasanaethau cymdeithasol yn edrych ar eich sefyllfa ac yn gweld a fydd gennych yr hawl i unrhyw wasanaethau a allai wneud y dasg o ofalu yn haws i chi.

Mae'r asesiad yn gyfle i chi roi gwybod i'r gweithiwr cymdeithasol pa effaith a gaiff gofalu arnoch chi. Felly, mae'n bosib y byddai'n syniad da gwneud rhestr, neu gadw dyddiadur, o bopeth y byddwch yn ei wneud i'r sawl yr ydych yn gofalu amdano.

Dyma rai pethau y gallech eu hystyried:

  • ydych chi'n cael digon o gwsg?
  • ydy'r gofalu'n effeithio ar eich iechyd?
  • allwch chi adael y sawl yr ydych yn gofalu amdano?
  • ydych chi'n poeni am orfod rhoi'r gorau i'ch gwaith?
  • fyddwch chi'n cael digon o amser i chi'ch hun?

Gallech hefyd gynnwys sut y bydd gofalu yn effeithio arnoch oherwydd y canlynol:

  • iechyd
  • oed
  • gwaith neu astudiaethau
  • gweithgareddau neu ymrwymiadau eraill

Gellir cynnal yr asesiad yn eich cartref neu yng nghartref y sawl yr ydych yn gofalu amdano. Mae a wnelo'r asesiad â chi, ac nid oes angen i'r sawl rydych yn gofalu amdano fod yn bresennol.

Gallwch ofyn i ffrind neu berthynas fod gyda chi yn ystod yr asesiad os dymunwch.

Os oes mwy nag un gofalwr yn darparu gofal cyson yn eich cartref, bydd gan y ddau ohonoch hawl i gael asesiad.

Y gwasanaethau a allai fod ar gael

Dyma rai gwasanaethau a allai eich helpu chi a'r sawl yr ydych yn gofalu amdano:

  • hoe o ofalu
  • cymorth gyda gwaith tŷ
  • newidiadau i gyfarpar neu addasiadau i'r cartref
  • cefnogaeth emosiynol

Eich anghenion chi fel gofalwr fydd dan sylw yn yr asesiad hwn. Dylech allu siarad am anghenion yr unigolyn yr ydych yn gofalu amdano pan fydd ei h/anghenion yn cael eu hasesu.

Os bydd eich sefyllfa'n newid, er enghraifft os bydd angen mwy o gefnogaeth arnoch, gallwch ofyn am ailasesiad.

Eich cynllun gofal

Bydd gwasanaethau cymdeithasol yn datblygu 'cynllun gofal' ar sail eich asesiad gofal chi ac asesiad gofal cymunedol y sawl yr ydych yn gofalu amdano.

Dylai'r cynllun hwn gynnwys y gefnogaeth a'r gwasanaethau y mae eu hangen arnoch yn ôl yr asesiad.

Talu am wasanaethau

Ar ôl asesiad bydd eich cyngor lleol yn ystyried eich incwm a'ch cyfalaf (cynilion ac eiddo) er mwyn penderfynu pa wasanaethau gofal y byddant yn codi tâl arnoch - os o gwbl.

Nid yw eich hawl chi i gael asesiad, a'r gwasanaethau a'r gefnogaeth y gallech eu derbyn, yn gysylltiedig â'ch incwm na'ch cyfalaf.

Gwneud cais am asesiad gofalwr

Bydd y gwasanaeth canlynol yn gofyn i chi roi manylion eich cyfeiriad ac yna'n mynd â chi at wefan eich cyngor lleol lle gallwch wneud cais am asesiad gofalwr neu gael mwy o wybodaeth.

Nodwch mai dim ond ar gyfer cynghorau yn Lloegr y mae'r gwasanaeth hwn ar gael.

Os byddwch yn anhapus gyda'ch asesiad

Bydd gan adran gwasanaethau cymdeithasol eich cyngor lleol system gwyno ar waith. Os na fyddwch yn hapus gyda'r ffordd y cynhaliwyd yr asesiad, neu os na fyddwch yn teimlo eich bod yn cael y gefnogaeth a'r gwasanaethau y mae eu hangen arnoch, dylech gysylltu â nhw.

Allweddumynediad llywodraeth y DU