Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Yn aml asesiad iechyd a gofal cymdeithasol gydag adran gwasanaethau cymdeithasol eich cyngor lleol yw'r cam cyntaf ar gyfer cael cymorth a chefnogaeth. Mae'r asesiad hefyd yn cael ei alw'n 'asesiad angen'.
Yn yr asesiad, bydd arbenigwr - therapydd galwedigaethol yn aml - yn edrych ar eich anghenion unigol chi ac yn eu trafod gyda chi. Gwneir hyn er mwyn i chi gael y gefnogaeth briodol. Gall y gwasanaethau y bydd arnoch ei angen o bosib gynnwys gofal iechyd, cyfarpar, cymorth yn eich cartref neu ofal preswyl.
Dylai’r asesiad ddangos pa anghenion sydd bwysicaf. Dylai hefyd ddangos y risgiau i chi pe na fyddai unrhyw gymorth yn cael ei ddarparu i chi.
Os oes angen, bydd timau iechyd a gwasanaethau cymdeithasol lleol yn llunio pecyn cymorth ar eich cyfer. Byddant yn trafod hwn gyda chi a llunio cynllun gofal. Gall gynnwys gwasanaethau gan fudiadau preifat a gwirfoddol.
Os bydd angen gwasanaethau eraill arnoch megis cyngor ar dai neu fudd-daliadau, cewch eich rhoi mewn cysylltiad â'r gwasanaethau lleol perthnasol.
Gall y gwasanaethau gynnwys:
Mae rhai cynghorau lleol yn darparu 'Proses Asesiad Sengl ar gyfer Pobl Hŷn'. Gyda'ch cytundeb chi, mae gweithwyr cymdeithasol ac iechyd, nyrsys cymunedol a grwpiau eraill yn rhannu gwybodaeth. Mae hyn yn golygu nad oes yn rhaid i chi roi'r un wybodaeth i bob un ohonynt.
Os cawsoch eich asesu i fod angen cymorth gan wasanaethau cymdeithasol, efallai y gallwch gael taliadau uniongyrchol i ddewis a phrynu’r gwasanaethau hynny eich hun. Fel arall, gallwch gael y gwasanaethau’n uniongyrchol gan eich cyngor.
Mae anghenion iechyd y rhan fwyaf o bobl yn newid dros amser. Dylai eich cynllun gofal gael ei adolygu'n rheolaidd.
Fel isafswm, cynhelir adolygiadau dri mis ar ôl darparu'r gwasanaethau am y tro cyntaf neu ar ôl iddynt gael eu newid yn sylweddol, ac wedyn unwaith pob flwyddyn. Dylid cynnal adolygiadau'n amlach os oes angen.
Os hoffech chi gael eich ailasesu oherwydd bod eich anghenion wedi newid, cysylltwch â'ch gwasanaethau cymdeithasol lleol neu dîm iechyd cymunedol eich cyngor lleol.
Defnyddiwch y ddolen isod i chwilio am wefan eich cyngor lleol lle gallwch gael gwybod mwy neu wneud cais ar-lein. Nodwch mai dim ond ar gyfer cynghorau yn Lloegr y mae'r gwasanaeth hwn ar gael.
Os yw eich anabledd yn 'sylweddol ac yn barhaol', gallwch gofrestru fel person anabl gyda'ch cyngor lleol.
Does dim angen cofrestru i gael gwasanaethau gan y cyngor lleol, ond efallai y gall helpu i gael consesiynau megis talu llai am drafnidiaeth gyhoeddus. Dylai hefyd helpu eich cyngor lleol i gynllunio'u gwasanaethau.
Dylai eich adran gwasanaethau cymdeithasol leol allu eich helpu i lenwi'r ffurflen gofrestru os oes angen.