Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Os ydych yn cyflogi gofalwr yn uniongyrchol, bydd gennych rai cyfrifoldebau fel cyflogwr. Dyma'r achos pa un a ydych yn cyflogi rhywun am ychydig o oriau yr wythnos neu'n amser llawn.
Fel cyflogwr, efallai eich bod yn gyfrifol am ddidynnu treth ac Yswiriant Gwladol o gyflog eich gweithiwr, a'u talu i adran Gyllid a Thollau EM ynghyd â'ch cyfraniad Yswiriant Gwladol chi fel cyflogwr. Bydd hyn yn dibynnu ar faint y mae eich gweithiwr yn ei ennill.
Efallai y gall yr adran gwasanaethau cymdeithasol lleol eich helpu gyda'r gwaith papur ar gyfer Cyllid a Thollau EM.
Rhaid i chi dalu'r Isafswm Cyflog Cenedlaethol o leiaf i'ch gofalwr.
Rhaid i chi dalu'r Isafswm Cyflog Cenedlaethol o leiaf i'ch gofalwr. Os bydd eich gofalwr yn byw gyda chi, mae rheolau arbennig ar gyfer cyfrifo gwerth y llety a ddarperir gennych. Gallwch gyfrif y swm hwn fel rhan o gyflog eich gweithiwr, ac mae'n cyfrif tuag at yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol.
Fel gweithiwr, mae gan eich gofalwr neu gynorthwy-ydd personol rywfaint o hawliau gyda golwg ar y canlynol:
Gallwch gael mwy o wybodaeth am eich cyfrifoldebau dros ddarparu'r rhain yn adran 'cyflogaeth' cyffredinol Cross & Stitch.
Fel cyflogwr, rhaid i chi gael:
Mae Yswiriant Atebolrwydd Cyflogwr yn eich gwarchod os bydd eich gofalwr yn cael damwain neu anaf wrth weithio i chi, mewn achosion lle allech chi gael eich dal yn gyfrifol.
Mae Yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus yn eich gwarchod petaech chi neu eich gofalwr yn peri anaf neu niwed i rywun arall tra bo'ch gofalwr yn gweithio i chi.
Gallwch weithiau gynnwys Yswiriant Atebolrwydd Cyflogwr ac Yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus mewn polisi yswiriant cartref cynhwysfawr.
Os ydych chi'n cael taliadau uniongyrchol i dalu am eich gofal, rhaid i'ch awdurdod lleol gynnwys cost Yswiriant Atebolrwydd Cyflogwr yn y swm a gewch chi ganddynt.
Gallwch gael gwybod mwy am y ddau fath o yswiriant atebolrwydd ar wefan Business Link.
Os ydych chi'n cyflogi gofalwr am fis neu fwy, rhaid i chi roi datganiad ysgrifenedig iddynt o'u telerau ac amodau gwaith o fewn dau fis i ddechrau gweithio i chi. Rhaid i'r datganiad gynnwys:
Mae pecyn rhyngweithiol ar gael ar wefan Business Link i'ch helpu i greu datganiad cyflogaeth ysgrifenedig.