Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Treth ac Yswiriant Gwladol wrth gyflogi pobl yn eich cartref

Os ydych yn cyflogi rhywun i weithio yn eich cartref - megis nani, glanhawr, gofalwr neu staff domestig arall - mae'n bosibl y cewch eich categoreiddio'n gyflogwr iddynt dan y gyfraith, ac y bydd rhaid i chi ddidynnu Cyfraniadau Yswiriant Gwladol o'u cyflog trwy'r cynllun Talu Wrth Ennill (PAYE). Os ydyn nhw'n ennill llai na swm penodol, gallwch weithredu cynllun Talu Wrth Ennill sydd wedi'i symleiddio.

Pwy sy'n cyfrif fel 'gweithiwr'?

Weithiau mae'n hawdd iawn penderfynu a yw rhywun yn weithiwr i chi neu beidio. Os ydych yn cymryd rhywun sydd wedi ymateb i'ch hysbyseb, a'i fod yn dilyn eich cyfarwyddiadau chi ac yn gweithio i chi yn unig, bydd yn sicr bron o fod yn weithiwr i chi. Ar y llaw arall, os ydych yn prynu gwasanaethau gan fusnes gyda sawl gweithiwr a'u bod yn gweithio i sawl cwsmer, y busnes hwnnw yw'r cyflogwr, nid chi.

Ceir rheolau arbennig ar gyfer gweithwyr a gyflenwir ac a delir gan asiantaethau, sy'n golygu mai'r asiantaeth sy'n gorfod gweithredu'r cynllun Talu Wrth Ennill. Os yw asiantaeth yn gyrru rhywun i weithio yn eich cartref ac mai chi (nid yr asiantaeth) sy'n talu'r gweithiwr, holwch Gyllid a Thollau EM ynghylch Talu Wrth Ennill.

Ceir rheolau arbennig hefyd ar gyfer penderfynu a yw person yn gyflogedig neu'n hunangyflogedig. Dyma'u 'statws cyflogaeth'. Darllenwch y canllaw cysylltiedig isod i gael gwybod mwy – os ydyn nhw’n hunangyflogedig does dim angen i chi boeni am weithredu’r cynllun Talu Wrth Ennill.

Pa bryd y mae’n rhaid i chi weithredu Talu Wrth Ennill

Mae penderfynu a ddylech chi weithredu Talu Wrth Ennill (didynnu Treth Incwm a Chyfraniadau Yswiriant Gwladol o'u cyflog a thalu Cyfraniadau Yswiriant Gwladol y cyflogwr) ai peidio yn dibynnu ar enillion cyffredinol eich gweithiwr. Mae'r ffigurau isod yn berthnasol i flwyddyn dreth 2012-13.

Os byddwch chi'n talu mwy na £144 yr wythnos

Os ydych yn talu mwy na £144 yr wythnos i'ch gweithiwr bydd rhaid i chi weithredu Talu Wrth Ennill.

Os ydych yn talu rhwng £107 a £144 iddynt

Os ydych yn talu rhwng £107 a £144 yr wythnos i'ch gweithiwr (gan gynnwys y symiau hynny), ac mai dyma yw eu hunig swydd, ac nad ydynt yn derbyn unrhyw incwm trethadwy arall, nid oes unrhyw dreth na Chyfraniadau Yswiriant Gwladol yn ddyledus, ond bydd angen i chi lenwi 'Dalen Waith Didyniadau Talu Wrth Ennill' neu gofnod cyfatebol sy'n dangos faint rydych chi'n ei dalu iddynt.

Os ydych yn talu llai na £107 iddynt

Os ydych yn talu llai na £107 yr wythnos i'ch gweithiwr, ac nad oes swydd arall ganddynt yn unman arall - neu incwm trethadwy arall megis pensiwn - does dim rhaid i chi wneud unrhyw beth.

Os oes ganddynt swydd arall neu incwm trethadwy arall

Os oes gan eich gweithiwr swydd arall - neu incwm trethadwy arall, megis pensiwn - bydd angen i chi weithredu Talu Wrth Ennill waeth faint maent yn ei ennill. Y rheswm am hyn yw y bydd eu lwfansau di-dreth fel arfer yn cael eu rhoi yn erbyn y cyflog o'u prif swydd neu'r pensiwn, sy'n golygu ei bod yn bosibl y bydd treth yn ddyledus ar yr enillion a dderbyniant gennych chi.

Cynllun Didynnu Talu Wrth Ennill wedi'i Symleiddio ar gyfer gweithwyr domestig

Mae'r Cynllun Didynnu Talu Wrth Ennill wedi'i Symleiddio yn fodd o weithredu Talu Wrth Ennill sy'n gofyn am lai o ffurflenni i'w llenwi na'r cynlluniau Talu Wrth Ennill a weithredir gan y rhan fwyaf o gyflogwyr.

Gallwch ddefnyddio'r cynllun os nad yw enillion trethadwy personol neu ddomestig eich gweithwyr yn fwy na £160 yr wythnos neu £700 y mis (2012-13). Cofiwch, cafodd y Cynllun Didynnu Talu Wrth Ennill wedi'i Symleiddio ei gau ar gyfer cofrestriadau newydd ar 5 Ebrill 2012. Caiff pob cofrestriad newydd o 6 Ebrill 2012 ymlaen ei sefydlu fel cynllun Talu Wrth Ennill safonol.

Cofrestru fel cyflogwr

Pan fo dyletswydd arnoch i weithredu Talu Wrth Ennill, dylech gysylltu â Chyllid a Thollau EM i gofrestru fel cyflogwr. Yna bydd Cyllid a Thollau EM yn gyrru popeth sydd ei angen atoch yn y 'Pecyn ar gyfer Cyflogwr Newydd'.

Osgoi cyflogi rhywun yn anghyfreithlon

Cadwch hyn mewn cof - os ydych chi'n mynd i gyflogi rhywun o'r tu allan i'r DU, rhaid i chi sicrhau fod ganddynt hawl i weithio yma cyn iddynt ddechrau gweithio i chi. Yn ddiweddar, mae'r llywodraeth wedi cyflwyno profion y mae'n rhaid i chi eu cynnal ar bob gweithiwr newydd i'ch arbed rhag cyflogi rhywun yn anghyfreithlon.

Defnyddio asiantaeth cyflogres

Os nad ydych yn dymuno gweithredu Talu Wrth Ennill eich hun, mae asiantaethau cyflogres ar gael a fydd yn gwneud y gwaith ar eich rhan. Rydych yn anfon manylion cyflogau gros (cyn treth) y gweithiwr atynt ac maent yn gweithredu Talu Wrth Ennill ac yn paratoi slipiau cyflog i chi. Erys y cyfrifoldeb dros Dalu Wrth Ennill gyda chi pan fyddwch yn defnyddio asiant cyflogres i weithredu ar eich rhan.

Gallwch gymharu gwasanaethau asiantaethau cyflogres ar-lein.

Hawliau'ch gweithiwr

Yn ogystal â delio gyda threth a Chyfraniadau Yswiriant Gwladol eich gweithiwr, bydd angen i chi hefyd fod yn ymwybodol o'ch dyletswyddau eraill fel cyflogwr. Mae gan unrhyw un a gyflogir gennych - gweithiwr rhan amser neu dros dro hyd yn oed - hawliau cyflogaeth.

Lle i gael cymorth

Gallwch gael cymorth drwy ffonio'r llinell gymorth Cyflogwyr Newydd ar 0845 607 0143, ar agor rhwng 8.00 am ac 8.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener, a rhwng 8.00 am a 4.00 pm ar ddydd Sadwrn.

Darparwyd gan HM Revenue and Customs

Allweddumynediad llywodraeth y DU