Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Treth ac Yswiriant Gwladol ar fonysau a thips

Bydd rhaid ichi dalu Treth Incwm ar unrhyw dips a wnewch wrth weithio. Ond efallai na fydd yn rhaid ichi dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol. Fel arfer byddwch yn talu'r dreth ac unrhyw gyfraniadau YG trwy Dalu Wrth Ennill (TWE - PAYE).

Tips

Taliad yw 'tip' a roddir gan y cwsmer o'i wirfodd, fel arfer i ddiolch am wasanaethau. Nid yw tâl gwasanaeth gorfodol yn dip oherwydd nad yw'n cael ei roi o wirfodd.

Mae sut y cyfrifir eich treth, ac a oes unrhyw Gyfraniadau Yswiriant Gwladol yn ddyledus, yn dibynnu ar y trefniadau o ran:

  • i bwy y rhoddir y tips
  • pwy sy'n penderfynu sut y cânt eu rhannu

Tips arian sy'n cael eu talu'n uniongyrchol i chi gan y cwsmer

Os ydych yn cael tips arian yn syth gan y cwsmer heb i'r cyflogwr fod yn gysylltiedig, bydd rhaid ichi dalu treth arnynt - ond nid cyfraniadau Yswiriant Gwladol. Chi sy'n gyfrifol am ddweud wrth Gyllid a Thollau EM am y tips hyn a bydd rhaid ichi eu dangos ar eich ffurflen dreth Hunanasesiad (os ydych yn llenwi un). Bydd angen ichi gadw cofnod o'r tips yr ydych yn eu cael er mwyn ichi allu gwneud hyn.

Does dim angen i'r rhan fwyaf o bobl lenwi ffurflen dreth. Os nad ydych chi'n gwneud, bydd Cyllid a Thollau EM yn amcangyfrif y tips yr ydych yn debygol o'u cael a rhoi cod treth ichi a fydd yn casglu'r dreth drwy Talu Wrth Ennill. Cysylltwch â Chyllid a Thollau EM os teimlwch fod yr amcangyfrif yn anghywir.

Tips a roddir fel rhan o daliad gyda cherdyn neu siec

Mae rhai cwsmeriaid yn talu'u bil gyda siec neu gerdyn credyd/debyd ac yn ychwanegu'ch tip at y taliad a wneir i'ch cyflogwr.

Mae sut y byddwch yn talu treth ar y tip yn dibynnu ar pa un a yw'ch cyflogwr yn ei drosglwyddo i chi yn uniongyrchol neu i 'dronc' (neu gronfa) a fydd yn cael ei rannu rhwng yr holl staff sy'n aelodau o'r tronc.

Os yw'ch cyflogwr yn trosglwyddo'r tip i chi'n uniongyrchol:

  • eu cyfrifoldeb hwy yw casglu'r dreth arno drwy TWE (PAYE)
  • os mai'r cyflogwr sy'n penderfynu sut y dylid dosbarthu'r tips, mae cyfraniadau Yswiriant Gwladol yn ddyledus a chyfrifoldeb y cyflogwr bob amser yw casglu'r rhain drwy TWE
  • os nad yw'r cyflogwr yn penderfynu sut y dosberthir yr arian rhwng y gweithwyr, ni fydd cyfraniadau Yswiriant Gwladol yn ddyledus

Os yw'ch cyflogwr yn dosbarthu tips a dalwyd fel rhan o daliad cerdyn credyd neu siec drwy dronc, neu drefniant cronfa, y rheolau yn yr adran isod sy'n berthnasol.

Tips a delir i dronc a'u rhannu gan staff

Weithiau mae tips yn cael eu rhoi mewn cronfa ac wedyn yn cael eu rhannu rhwng yr holl staff. 'Tronc' yw'r gair am hyn a gelwir y sawl sy'n rhannu'r tips yn 'droncfeistr'.

Pan ddosberthir y tips, rhaid i'r troncfeistr ddidynnu Treth Incwm ohonynt drwy TWE (PAYE).

Dyma'r rheolau ar gyfer cyfraniadau Yswiriant Gwladol pan ddefnyddir trefniadau tronc:

  • os mai'ch cyflogwr sy'n penderfynu, naill ai’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, sut y dylid rhannu'r tips, bydd yn rhaid ichi dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol arnynt yn ogystal â threth - rhaid i'ch cyflogwr (nid y troncfeistr) gasglu'r cyfraniadau Yswiriant Gwladol drwy TWE.
  • os nad eich cyflogwr, naill ai’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, sy'n penderfynu sut y rhoddir y tips i'r gweithwyr drwy'r tronc, ni fydd cyfraniadau Yswiriant Gwladol i'w talu

Rhaid i’ch cyflogwr ddweud wrth Gyllid a Thollau EM os oes tronc yn bodoli a phwy yw'r troncfeistr. Os mai chi yw'r troncfeistr, chi fydd yn gyfrifol am gasglu'r Dreth Incwm drwy TWE. Gallwch gael cymorth a chyngor am yr hyn y mae'n rhaid ichi ei wneud gan Dîm Cefnogaeth ac Addysg Busnes yn eich ardal.

Taliadau gwasanaeth

Swm a ychwanegir at y bil yw tâl gwasanaeth cyn y caiff ei roi i'r cwsmer. Nid tip mo tâl gwasanaeth gorfodol. Os yw'ch cyflogwr yn ei roi i chi, mae'n cael ei drin yn yr un ffordd â'ch cyflog a byddwch yn talu treth a chyfraniadau Yswiriant Gwladol arno.

Os yw'n dâl gwasanaeth gwirfoddol, mae'n cael ei drin yn yr un ffordd â thip. Mae sut y byddwch yn talu treth a chyfraniadau Yswiriant Gwladol arno yn dibynnu ar:

  • a yw'n arian sy'n cael ei dalu'n uniongyrchol i chi gan y cwsmer a chithau'n ei gadw
  • a yw'n cael ei ychwanegu at daliad gyda cherdyn neu siec
  • a yw'n cael ei gronni mewn tronc

Bonysau

Os yw'ch cyflogwr yn rhoi bonws i chi, mae'n cael ei drin fel rhan o'ch cyflog - a byddwch yn talu treth a chyfraniadau Yswiriant Gwladol arno drwy TWE. Bydd eich cyflogwr yn ei gynnwys ar eich slip cyflog gyda gweddill eich cyflog.

Ble i gael cymorth

Gofynnwch i'ch cyflogwr os ydych am gael gwybod unrhyw beth am y ffordd yr ymdrinnir â thips, taliadau gwasanaeth neu fonysau. Os ydych yn dal yn ansicr, cysylltwch â Chyllid a Thollau EM.

Darparwyd gan HM Revenue and Customs

Allweddumynediad llywodraeth y DU