Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Treth ac Yswiriant Gwladol ar fuddion cwmni

Os yw'ch cyflogwr yn darparu buddion anariannol i chi - megis car cwmni neu yswiriant meddygol - efallai y bydd yn rhaid i chi dalu treth arnynt. Mae hyn yn ychwanegol at y dreth a’r cyfraniadau Yswiriant Gwladol a delir ar unrhyw enillion neu fuddion drwy’r drefn Talu Wrth Ennill (TWE).

Pwy sy’n gorfod talu treth ar fuddion cwmni?

Os ydych yn gyfarwyddwr cwmni, neu'n ennill £8,500 neu fwy mewn blwyddyn - gan gynnwys gwerth eich buddion - bydd bob amser yn rhaid i chi dalu treth ar unrhyw fuddion a gewch.

Efallai y bydd yn rhaid i chi dalu treth ar rai buddion - megis lle i fyw a ddarperir gan eich cyflogwr - faint bynnag yw eich cyflog a ph'un ai a ydych yn gyfarwyddwr cwmni ai peidio.

Buddion y bydd yn rhaid i chi dalu treth arnynt o bosib

Ceir cwmni

Fel arfer, os bydd eich cyflogwr yn darparu car i chi, bydd yn rhaid i chi dalu treth ar werth y budd. Bydd y gwerth yn dibynnu ar amryw o bethau, megis:

  • pris sylfaenol y car, gan gynnwys unrhyw ategolion
  • ei allyriadau carbon deuocsid
  • y math o danwydd y mae'n ei ddefnyddio
  • ei ddyddiad cofrestru

Mae'n bosib y bydd gwerth y budd yn llai os nad yw'r car ar gael am ran o'r flwyddyn neu os ydych yn talu rhywfaint tuag at ei gost – 'cyfraniadau cyfalaf' – neu os ydych yn gwneud taliadau i'ch cyflogwr er mwyn i chi gael defnyddio'r cerbyd at eich defnydd personol.

Os yw'ch cyflogwr yn darparu tanwydd i chi ar gyfer defnyddio'r car at ddefnydd personol, bydd yn rhaid i chi dalu treth ar hwn fel budd gwahanol.

Benthyciadau ar gyfraddau llog isel

Efallai y bydd yn rhaid i chi dalu treth ar y budd hwn os yw'ch cyflogwr yn benthyca mwy na £5,000 yn ddi-log i chi, neu os yw'n codi llai na'r gyfradd llog swyddogol ar fenthyciad. Gwerth y budd y bydd yn rhaid i chi dalu treth arno fel arfer yw'r gwahaniaeth rhwng:

  • y llog yr ydych yn ei dalu
  • a'r llog y byddech wedi'i dalu ar y gyfradd swyddogol

Efallai y bydd yn rhaid i chi hefyd dalu treth ar y budd os yw'ch cyflogwr yn benthyca arian i un o'ch perthnasau.

Ni fydd yn rhaid i chi dalu treth ar fudd benthyciad llog isel neu ddi-log gan eich cyflogwr os yw cyfanswm yr holl fenthyciadau a gafwyd mewn blwyddyn yn £5,000 neu'n llai.

Lle i fyw

Os yw'ch cyflogwr yn darparu lle i fyw i chi - neu i un o'ch perthnasau - efallai y bydd yn rhaid i chi dalu treth ar y budd. Mae gwahanol ffyrdd o gyfrifo gwerth y budd y bydd yn rhaid i chi dalu treth arno, yn dibynnu ar a yw'r lle byw yn costio mwy na £75,000.

Efallai na fydd yn rhaid i chi dalu treth ar y budd os darperir lle i fyw er mwyn i chi allu gwneud eich gwaith - neu oherwydd ei fod yn eich helpu i wneud eich gwaith yn well.

Yswiriant meddygol

Os yw'ch cyflogwr yn talu am eich yswiriant meddygol, byddwch fel arfer yn gorfod talu treth ar werth y budd. Fel arfer, cost y premiymau yswiriant yw hwn.

Gall eich cyflogwr roi rhai buddion i chi na fydd yn rhaid i chi dalu treth arnynt, megis:

  • yswiriant ar gyfer triniaeth os byddwch chi’n sâl pan fyddwch yn gweithio dramor
  • archwiliadau blynyddol

Buddion eraill

Dim ond rhai o'r buddion mwyaf cyffredin a restrir uchod. Bydd eich cyflogwr yn rhoi i chi fanylion y buddion y mae wedi rhoi gwybod i Gyllid a Thollau EM amdanynt ar ffurflen P11D, Taliadau Treuliau a Buddion – gweler yr adran 'Sut mae'r dreth yn cael ei thalu?' isod.

I gael mwy o wybodaeth ynghylch yr hyn a ystyrir yn fudd a sut y caiff ei drethu, ewch i'r rhestr o dreuliau a buddion yn nhrefn yr wyddor yn adran y Cyflogwr ar wefan Cyllid a Thollau EM.

Buddion di-dreth

Mewn rhai amgylchiadau, gallwch gael rhai buddion heb dalu treth arnynt. Gall y buddion di-dreth gynnwys:

  • prydau a ddarperir ar gyfer yr holl weithwyr mewn ffreutur staff – cyn belled bod y pryd ddim yn cael ei ddarparu fel rhan o drefniad aberthu cyflog neu fudd-dal hyblyg
  • diodydd poeth a dŵr yn y gwaith
  • ffôn symudol – cyn belled â mai i chi y mae’r ffôn hwnnw ac nid i aelod o’ch teulu
  • parcio yn eich gweithle neu mewn man cyfagos
  • partïon Nadolig
  • gofal plant

I gael mwy o wybodaeth ynghylch pryd nad oes rhaid i chi dalu treth ar y buddion hyn, ewch i’r rhestr o dreuliau a buddion yn nhrefn yr wyddor yn adran y Cyflogwr ar wefan Cyllid a Thollau EM.

Newidiodd y rheolau yn ymwneud â thalebau gofal plant ar 6 Ebrill 2011. Mae Cyllid a Thollau EM wedi paratoi atebion i’r cwestiynau mwyaf cyffredin.

Pa bryd fyddai’n rhaid i chi dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol ar fuddion o bosib

Fel arfer bydd eich cyflogwr yn talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A ar unrhyw fuddion anariannol y mae’n eu darparu i chi ac ni fydd yn rhaid i chi dalu unrhyw gyfraniadau pellach arnynt – darllenwch yr adran ‘Buddion y bydd yn rhaid i chi dalu treth arnynt o bosib’ am enghreifftiau o’r rhain.

Fodd bynnag, mewn rhai achosion, ymdrinnir â’r buddion fel enillion arferol. Golyga hyn y bydd yn rhaid i chi dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1 arnynt. Fel arfer, yn yr achosion hyn, mae’r buddion a ddarperir yn fuddion ariannol neu byddai’n bosib eu cyfnewid am arian – er enghraifft talebau arian.

I gael mwy o wybodaeth ynghylch pryd y byddai’n rhaid i chi dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol ar fudd o bosib, ewch i’r rhestr o dreuliau a buddion yn nhrefn yr wyddor yn adran y Cyflogwr ar wefan Cyllid a Thollau EM.

Sut mae’r dreth yn cael ei thalu

Rhaid i chi a'ch cyflogwr ddweud wrth Gyllid a Thollau EM am unrhyw fuddion yr ydych yn eu cael. Bydd yn rhaid i chi ddangos y buddion ar eich ffurflen dreth Hunanasesu (os byddwch yn llenwi un). Bydd yn rhaid i'ch cyflogwr lenwi ffurflen P11D, Taliadau treuliau a buddion, neu ffurflen P9D Taliadau treuliau ac incwm, na ellir tynnu treth ohonynt.

Efallai y bydd Cyllid a Thollau EM yn anfon cod treth atoch i gasglu'r dreth sy'n ddyledus gennych drwy'r system Talu Wrth Ennill (TWE).

Eich cyfrifoldebau chi

Bydd eich cyflogwr yn rhoi i chi fanylion y buddion y mae wedi rhoi gwybod i Gyllid a Thollau EM amdanynt ar ffurflen P11D neu P9D. Bydd angen i chi gadw'r manylion hyn am ddwy flynedd ar ôl y flwyddyn dreth y maent yn berthnasol iddi. Bydd angen yr wybodaeth hon arnoch i lenwi'ch ffurflen dreth.

Cofiwch ei bod yn rhaid i chi ddweud wrth Gyllid a Thollau EM am unrhyw fuddion yr ydych chi neu eich teulu'n eu cael gan eich cyflogwr, hyd yn oed os ydych eisoes wedi talu treth arnynt drwy'r system Talu Wrth Ennill.

Ble i gael cymorth

Gall eich cyflogwr eich helpu os oes gennych unrhyw gwestiynau am y buddion yr ydych yn eu cael gyda'ch swydd. Os bydd angen cymorth arnoch i lenwi'ch ffurflen dreth gallwch gysylltu â llinell gymorth Hunanasesu Cyllid a Thollau EM.

Darparwyd gan HM Revenue and Customs

Allweddumynediad llywodraeth y DU