Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Rhoi gwybod am newidiadau a allai effeithio ar eich treth

Gall newid yn eich incwm neu'ch amgylchiadau effeithio ar faint o Dreth Incwm y byddwch yn ei thalu. Mae'n bwysig rhoi gwybod i Gyllid a Thollau EM am unrhyw newidiadau ar unwaith fel y gallant gyfrifo p'un ai a oes angen i chi dalu mwy neu lai o dreth. Drwy gysylltu â Chyllid a Thollau yn gynnar gallwch osgoi talu gormod o dreth neu fod mewn dyled ar ddiwedd y flwyddyn.

Newidiadau y mae'n rhaid i chi roi gwybod i Gyllid a Thollau EM amdanynt

Bydd angen i chi ddweud wrth Gyllid a Thollau EM os byddwch:

  • yn priodi neu'n ffurfio partneriaeth sifil
  • yn dechrau cael ail incwm
  • yn mynd yn hunangyflogedig neu'n peidio â bod yn hunangyflogedig
  • yn dechrau neu'n rhoi'r gorau i gael buddion cwmni - er enghraifft car cwmni neu yswiriant meddygol
  • yn dechrau cael budd-daliadau trethadwy

Bydd yn rhaid i chi roi gwybod i Gyllid a Thollau EM hefyd os bydd unrhyw incwm arall yr ydych yn ei gael - er enghraifft cynilion neu incwm rhent - yn cynyddu neu'n lleihau.

Gall yr holl bethau hyn a mwy effeithio ar faint o Dreth Incwm y mae'n rhaid i chi ei thalu.

Priodas neu bartneriaeth sifil lle ganed un partner cyn 6 Ebrill 1935

Dywedwch wrth Gyllid a Thollau EM os byddwch yn priodi neu'n ffurfio partneriaeth sifil ac o leiaf un partner wedi'i eni cyn 6 Ebrill 1935 - efallai y byddwch yn gymwys i gael y Lwfans Pâr Priod os ydych yn talu treth.

Os byddwch yn ysgaru neu os diddymir eich partneriaeth sifil neu os byddwch yn gwahanu a chithau'n arfer cael y lwfans pâr priod, ni fyddwch yn gymwys i'w gael mwyach ac felly bydd angen rhoi gwybod i Gyllid a Thollau EM.

Marwolaeth partner priod neu bartner sifil

Os bydd eich gŵr, gwraig neu bartner sifil yn marw, bydd angen i chi gysylltu â Chyllid a Thollau os yw'r naill neu'r llall o'r canlynol yn berthnasol:

  • rydych yn hawlio Lwfans Pâr Priod
  • mae un ohonoch yn hawlio Lwfans Person Dall a bod rhywfaint neu'r cyfan o hwn wedi'i drosglwyddo i'r partner priod neu bartner sifil arall

Dechrau/rhoi'r gorau i hunangyflogaeth

Mae'n rhaid i chi roi gwybod i Gyllid a Thollau EM eich bod yn hunangyflogedig mor gynted â phosib - hyd yn oed os ydych eisoes yn llenwi ffurflen Hunanasesu bob blwyddyn. Os nad ydych yn rhoi gwybod iddynt mor gynted ag eich bod yn dechrau hunangyflogaeth efallai y bydd rhaid i chi dalu dirwy cosb gychwynnol.

Os byddwch yn rhoi'r gorau i fod yn hunangyflogedig dywedwch wrth eich Swyddfa Dreth cyn gynted â phosib.

Dechrau/rhoi'r gorau i gael buddion cwmni

Os byddwch yn dechrau cael buddion cwmni trethadwy dylech roi gwybod i'ch Swyddfa Dreth ar unwaith fel na fyddwch yn cael bil treth mawr ar ddiwedd y flwyddyn. Does dim rhaid i gyflogwyr ddweud wrth Gyllid a Thollau EM am unrhyw fuddion y byddwch yn eu cael gan y cwmni tan ddiwedd y flwyddyn dreth, heblaw ei fod yn gar cwmni.

Bydd Cyllid a Thollau yn addasu eich rhif cod ac yn dechrau casglu rhywfaint neu'r holl dreth ychwanegol yn gynt.

Dylech hefyd ddweud wrth Gyllid a Thollau os byddwch yn rhoi'r gorau i gael buddion cwmni trethadwy. Gallant newid eich cod treth a gwneud yn siŵr nad ydych yn talu gormod o dreth.

Dechrau cael Pensiwn y Wladwriaeth

Pan fyddwch yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth, dydych chi ddim yn stopio talu Treth Incwm yn awtomatig ond mae'n bosib y bydd eich bil treth yn lleihau.

Dechrau/rhoi'r gorau i gael budd-daliadau'r wladwriaeth

Os byddwch yn dechrau cael budd-daliadau'r wladwriaeth neu os byddant yn dod i ben, gallai hynny effeithio ar eich bil treth. Gorau po gyntaf y cysylltwch chi â Chyllid a Thollau EM ac wedyn byddant yn gallu addasu eich cod treth cyn gynted ag y bo modd er mwyn sicrhau eich bod bob amser yn talu'r hyn sy'n ddyledus.

Rhoi gwybod am newidiadau i’ch incwm

Pa newidiadau incwm sydd angen i chi roi gwybod yn ei gylch a bydd y modd yr ydych yn rhoi gwybod amdanynt yn dibynnu ar eich amgylchiadau. Cael gwybod beth sydd angen i chi ei wneud i roi gwybod am newid drwy ddilyn y ddolen isod.

Os byddwch yn newid cyfeiriad

Os byddwch yn newid cyfeiriad mae'n bwysig rhoi gwybod i Gyllid a Thollau EM - hyd yn oed os byddwch yn talu rhywfaint o'ch treth neu'ch treth i gyd drwy'r cynllun Talu Wrth Ennill a'ch bod eisoes wedi dweud wrth eich cyflogwr neu'ch darparwr pensiwn.

Dan y Ddeddf Diogelu Data, ni chânt ddweud wrth Gyllid a Thollau EM beth yw eich cyfeiriad newydd.

Allweddumynediad llywodraeth y DU