Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Byddwch yn talu Treth Incwm mewn gwahanol ffyrdd - gan ddibynnu ar eich incwm a'ch statws cyflogedig. Mae'r rhain yn cynnwys PAYE (Talu Wrth Ennill), Hunanasesiad, didynnu treth 'yn y ffynhonnell' a thaliadau untro.
Os ydych chi'n weithiwr bydd eich cyflogwr yn didynnu Treth Incwm o'ch cyflog drwy gydol y flwyddyn - gan ddefnyddio'r cod treth y bydd Cyllid a Thollau EM yn ei ddarparu iddynt - a dychwelyd y didyniadau at Gyllid a Thollau EM. Os ydych yn cael pensiwn, bydd y sawl sy'n talu'r pensiwn yn didynnu treth yn yr un ffordd. Talu Wrth Ennill yw'r enw ar y system hon o gasglu Treth Incwm - ac fel arfer defnyddir y byrfodd PAYE (Pay As You Earn).
Os yw'ch amgylchiadau yn newid a'ch bod yn cael cod treth newydd, bydd Cyllid a Thollau EM yn anfon 'Hysbysiad Cod PAYE' atoch. Mae hyn yn rhoi gwybod i chi beth yw eich cod treth a sut y mae Cyllid a Thollau EM wedi cyfrifo yr incwm di-dreth y gallwch ei dderbyn. Cadwch bob Hysbysiad cod PAYE rhag ofn y bydd gennych gwestiynau neu y byddwch am wybod a ydych yn talu'r swm cywir o dreth.
Os ydych chi am i Gyllid a Thollau EM wirio eich cod treth, gallwch ofyn iddynt anfon Ffurflen Adolygu Treth P810 atoch. Pan fyddwch yn cael y ffurflen bydd angen i chi ei llenwi a'i dychwelyd cyn gynted â phosib.
Os yw'n well gennych, gallwch ffonio'r rhif ar flaen y ffurflen a rhoi'r wybodaeth dros y ffôn. Gallwch ddweud wrth Gyllid a Thollau EM am unrhyw incwm arall yr ydych wedi'i dderbyn neu am newidiadau a allai leihau eich bil treth. Os yw'r wybodaeth yr ydych chi'n ei rhoi yn dangos eich bod yn talu'r swm anghywir o dreth, gall Gyllid a Thollau EM newid eich cod treth yn syth er mwyn cywiro hyn.
Os yw eich materion treth yn gymhleth, efallai y bydd rhaid i chi lenwi ffurflen dreth Hunanasesu hefyd – darllenwch yr adran ‘Os oes gennych faterion treth cymhleth’.
Os oes gennych incwm arall yn ychwanegol at eich eich incwm a/neu bensiwn darllenwch yr adran ‘Sut i dalu treth ar incwm ychwanegol’.
Os ydych yn hunangyflogedig, bydd angen ichi gofrestru am Hunanasesu a llenwi ffurflen dreth Hunanasesu. Gallwch lenwi ffurflen ar bapur neu gwblhau a ffeilio'ch ffurflen ar-lein. Mae'n debyg y bydd angen i chi dalu unrhyw Dreth Incwm sy'n ddyledus gennych yn ystod blwyddyn dreth mewn dau daliad, ynghyd â 'thaliad o'r gweddill' terfynol.
Mae llenwi'ch ffurflen dreth ar-lein yn syml a sydyn - a gallwch ei wneud ar unrhyw adeg o'r dydd neu'r nos. Mae ffurflenni treth ar-lein yn cael eu prosesu'n gynt na ffurflenni papur, sy'n golygu, os oes unrhyw arian yn ddyledus i chi gan Gyllid a Thollau EM, y cewch yr arian ynghynt. Hefyd, caiff eich treth ei chyfrifo'n awtomatig wrth i chi lenwi'r ffurflen er mwyn rhoi gwybod i chi'n syth faint o dreth sy'n ddyledus gennych - neu sy'n ddyledus i chi.
Os oes gennych faterion treth cymhleth - er enghraifft, os ydych yn ennill arian o renti neu fuddsoddiadau uwchben lefel benodol - efallai y bydd rhaid i chi lenwi ffurflen dreth. Efallai y bydd rhaid i chi wneud hyn, hyd yn oed os ydych eisoes yn PAYE. Ond os ydych yn PAYE, efallai y gallwch dalu rhywfaint neu'r cyfan o'ch Treth Incwm yn y ffordd hon o hyd.
Mae 20 y cant yn cael ei ddidynnu o'r llog ar y rhan fwyaf o gynilion cyn i chi ei dderbyn. Os ydych yn talu treth ar y gyfradd sylfaenol, ni fydd gennych ragor o dreth i'w thalu. Os nad ydych chi'n drethdalwr, mae'n bosib y gallwch chi hawlio rhywfaint o dreth yn ôl. Os ydych yn talu treth ar y gyfradd uwch neu gyfradd ychwanegol, bydd rhaid i chi dalu rhagor o dreth.
Efallai y bydd angen i rai trethdalwyr lenwi ffurflen dreth neu Ffurflen Adolygu Treth P810 er mwyn sicrhau eu bod yn talu'r swm cywir o dreth.
Efallai y gallwch ddewis sut byddwch yn talu treth ar unrhyw incwm ychwanegol a dderbynnir gennych - un ai drwy PAYE drwy gydol y flwyddyn dreth ganlynol neu drwy Hunanasesiad gyda thaliad ychwanegol.
Os ydych chi'n weithiwr neu'n bensiynwr a'ch bod eisiau talu treth ar rywfaint o'ch incwm di-waith - megis buddsoddi ac incwm o renti - drwy PAYE yn hytrach na thrwy Hunanasesiad, gallwch ofyn i Gyllid a Thollau EM ei gasglu fel hyn. Gallwch wneud hyn am hyd at £2,500 o incwm ychwanegol mewn blwyddyn. Os ydych chi'n ennill mwy na £2,500 o gynilion, buddsoddiadau neu incwm o renti, bydd angen i chi lenwi ffurflen dreth.
Os nad ydych eisiau talu treth ar eich incwm di-waith drwy PAYE, gallwch ofyn i Gyllid a Thollau EM roi'r gorau i'w gasglu fel hyn. Byddwch yn talu drwy Hunanasesiad yn lle hynny. Os ydych eisiau gwneud hyn gallwch gofrestru ar gyfer Hunanasesiad drwy lenwi ffurflen SA1 Cofrestru ar gyfer Hunanasesu a chael ffurflen dreth (os nad ydych wedi'ch cofrestru'n barod).
Darparwyd gan HM Revenue and Customs