Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Os ydych chi'n meddwl bod eich cod treth yn anghywir, dylech roi gwybod i Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi cyn gynted â phosib er mwyn gwneud yn siŵr eich bod yn talu'r swm cywir o dreth. Os yw'n anghywir efallai y cewch ad-daliad treth, neu efallai y bydd angen i chi dalu mwy o dreth.
Rhoddir eich cod treth gan Gyllid a Thollau EM yn seiliedig ar wybodaeth sydd ganddynt am eich incwm trethadwy ac am eich lwfansau: mae'n dweud wrth eich cyflogwr neu ddarparwr eich pensiwn faint o Dreth Incwm i'w dynnu o'ch cyflog neu'ch pensiwn.
Os yw'ch cod treth yn anghywir, dylech gysylltu â Chyllid a Thollau EM yn syth er mwyn iddynt ei gywiro.
Bydd angen i Gyllid a Thollau EM wybod eich rhif cyfeirnod treth a’ch rhif Yswiriant Gwladol. Edrychwch am y rhifau hyn ar bapurau swyddogol sy’n ymwneud â threth, er enghraifft:
Fel arfer bydd Cyllid a Thollau EM yn ei anfon atoch ym mis Ionawr neu Chwefror bob blwyddyn ac mae’n bosib y byddant yn ei anfon i chi ar adegau gwahanol – er enghraifft, os ydych wedi dechrau derbyn incwm newydd neu fudd-dal cwmni newydd, neu os mae’ch hawl i lwfansau ar sail oed a lwfansau eraill wedi newid. (Nid yw pawb yn cael un o'r rhain.)
Os na allwch ddod o hyd i unrhyw gofnod o’ch rhif cyfeirnod treth neu’ch rhif Yswiriant Gwladol, bydd Cyllid a Thollau yn dweud wrthych beth i’w wneud.
Bydd angen i'ch Swyddfa Dreth wybod eich cyfeirnod treth a'ch rhif Yswiriant Gwladol. Chwiliwch am y rhifau hyn ar bapurau swyddogol sy'n ymwneud â threth: er enghraifft, slip talu, Hysbysiad Cod Talu Wrth Ennill, llythyrau gan Gyllid a Thollau EM, neu dystysgrif yn dangos y dreth a dalwyd.
Os na allwch ddod o hyd i unrhyw gofnod o'r rhifau, bydd eich Swyddfa Dreth yn dweud wrthych beth i'w wneud.
Gwirio ffigyrau cyfredol am lwfansau personol gan Gyllid a Thollau EM
Pan fyddwch yn cychwyn swydd newydd dylech roi ffurflen P45 i'ch cyflogwr newydd, os oes gennych un o'ch swydd flaenorol. Bydd hon yn dangos:
Os nad oes gennych ffurflen P45 am ryw reswm, bydd eich cyflogwr yn gofyn i chi lenwi ffurflen P46 a defnyddio cod 'brys' neu 'sail arbennig'. Tra byddwch ar god brys y Lwfans Personol sylfaenol a gewch - efallai y bydd hyn yn iawn i chi ac efallai ddim.
Unwaith y bydd gan Gyllid a Thollau EM fanylion am eich incwm blaenorol a'r dreth yr ydych wedi'i thalu dros y flwyddyn dreth, byddant yn anfon cod treth (cywir) llawn at eich cyflogwr (ac atoch chi). Bydd eich cyflogwr yn tynnu'r swm treth cywir yn y dyfodol ac yn ad-dalu unrhyw ordaliad treth. Dyna pam ei bod yn hollbwysig eich bod yn rhoi unrhyw wybodaeth y bydd Cyllid a Thollau EM yn ofyn amdani.
Darparwyd gan HM Revenue and Customs