Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Codau treth - gwybodaeth sylfaenol

Defnyddir cod treth gan eich cyflogwr neu’ch darparwr pensiwn i gyfrifo faint o dreth i'w thynnu o'ch cyflog neu’ch pensiwn. Os yw'ch cod treth yn anghywir, gallech dalu gormod neu ddim digon o dreth.

Beth yw cod treth?

Gan amlaf, mae cod treth yn cynnwys un llythyren a sawl rhif, er enghraifft: 117L neu K497.

Os yw'ch cod treth yn dechrau gyda rhif ac wedyn llythyren

Os fyddwch yn lluosi’r rhif yn eich cod treth gyda deg, byddwch yn cael y cyfanswm o incwm y gallwch ennill mewn blwyddyn cyn talu treth.

Mae'r llythyren yn dangos sut y dylid addasu'r rhif yn dilyn unrhyw newidiadau i lwfansau a gyhoeddir gan y Canghellor – caiff y llythrennau cod treth cyffredin eu hegluro isod.

Llythrennau cod treth cyffredin a beth maent yn ei olygu

Llythyren Rheswm dros ei ddefnyddio
L

Ar gyfer y rheini sy’n gymwys ar gyfer y Lwfans Personol sylfaenol – 810L ar gyfer blwyddyn dreth 2012-13. Fe’i defnyddir hefyd ar gyfer codau treth ‘brys’ (gallwch ddarllen mwy yn yr adran ‘Os oes gennych chi god treth brys’)

P

Ar gyfer pobl rhwng 65 a 74 oed sy'n gymwys ar gyfer y Lwfans Personol llawn

Y

Ar gyfer pobl 75 oed a hŷn sy'n gymwys ar gyfer y Lwfans Personol llawn

T

Os oes angen i Gyllid a Thollau EM adolygu unrhyw eitemau eraill yn eich cod treth, er enghraifft gostyngiad cysylltiedig ag incwm y Lwfans Personol (gallwch ddarllen mwy yn yr adran ‘Yr effaith ar eich cod treth os yw’ch incwm yn uwch na £100,000’)

Mae treth cod ‘0T’ yn golygu bod eich lwfansau i gyd wedi cael eu defnyddio neu wedi cael eu lleihau i ddim a bod eich incwm yn cael ei drethu ar y cyfraddau treth perthnasol

K

Pan fydd cyfanswm eich lwfansau yn llai na chyfanswm eich ‘didyniadau’ – gallwch ddarllen mwy yn yr adran ‘Sut mae'r 'cod K' yn gweithio’

Codau treth eraill

Os yw'ch cod treth yn cynnwys dwy lythyren ond dim rhif, neu os dilynir y llythyren ‘D’ gan rif, gan amlaf caiff ei ddefnyddio pan fydd gennych ddwy neu fwy o ffynonellau incwm a bod eich holl lwfansau wedi cael eu cynnwys yn y cod treth a'ch incwm o'ch prif swydd neu bensiwn.

Codau treth eraill a beth maent yn ei olygu

Cod

Rheswm dros ei ddefnyddio

BR

Fe'i defnyddir pan drethir eich holl incwm ar y gyfradd sylfaenol – 20 y cant ar hyn o bryd (fe'i defnyddir gan fwyaf ar gyfer ail swydd neu bensiwn ond gellir ei ddefnyddio hefyd os ydych chi wedi dechrau swydd newydd, neu os nad oes gennych ffurflen P45 ac nid ydych chi wedi cwblhau ffurflen P46 cyn eich diwrnod tâl cyntaf)

DODI

Fe'i defnyddir pan drethir eich holl incwm ar y gyfradd dreth uwch – 40 y cant ar hyn o bryd (fe'i defnyddir gan fwyaf ar gyfer ail swydd neu bensiwn)

NT

Fe'i defnyddir pan nad oes unrhyw dreth i'w thynnu o'ch incwm neu’ch pensiwn

Os oes gennych ddwy swydd neu ddau bensiwn, mae'n debyg y bydd y cyfan o'ch ail incwm yn cael ei drethu ar y gyfradd sylfaenol, uwch neu ychwanegol – yn dibynnu ar faint rydych yn ei ennill. Mae hyn oherwydd y bydd eich holl lwfansau wedi'u defnyddio yn erbyn yr incwm o'ch prif swydd neu’ch pensiwn. Os byddwch yn talu treth ar y gyfradd ychwanegol o 50 y cant, darllenwch yr adran ‘Yr effaith ar eich treth a'ch cod treth – os yw'ch incwm yn uwch na £150,000’.

Sut y cyfrifir codau treth

Cam un

Bydd eich lwfansau treth yn cael eu hadio. (Yn y rhan fwyaf o achosion, ni fydd hyn ond yn cynnwys eich Lwfans Personol ac unrhyw Lwfans Person Dall. Fodd bynnag, mewn rhai achosion gall gynnwys rhai treuliau gwaith.)

Cam dau

Mae unrhyw incwm nad ydych wedi talu treth arno (er enghraifft, llog heb ei drethu neu enillion rhan-amser) ac unrhyw fuddion cyflogaeth trethadwy'n cael eu hadio.

Cam tri

Mae cyfanswm yr incwm nad ydych wedi talu treth arno (a elwir yn ‘ddidyniadau’) yn cael ei dynnu o gyfanswm y lwfansau treth. Y swm sy'n weddill yw cyfanswm yr incwm di-dreth y mae gennych hawl iddo mewn blwyddyn dreth.

Cam pedwar

Yn gyffredinol, er mwyn cael eich cod treth, mae'r incwm di-dreth sydd gennych yn cael ei rannu gyda 10 ac yn cael ei ychwanegu at y llythyren sy'n cyfateb i'ch amgylchiadau chi.

Er enghraifft, ystyr y cod treth 117L yw:

  • mae gennych hawl i gael y Lwfans Personol sylfaenol
  • rhaid cymryd £1,170 o gyfanswm eich incwm trethadwy a byddwch yn talu treth ar yr hyn sy'n weddill

Bydd y cod treth yn rhannu’ch swm di-dreth yn gyfartal dros y flwyddyn er mwyn i chi gael tua'r un faint o gyflog mynd-adre neu bensiwn bob wythnos neu fis.

Yr effaith ar eich cod treth os yw'ch incwm yn uwch na £100,000

Yr effaith ar eich cod treth – os yw'ch incwm yn uwch na £100,000

Ers y flwyddyn dreth 2010-11, mae eich cod treth yn ystyried elfen gostyngiad cysylltiedig ag incwm y Lwfans Personol yn seiliedig ar amcangyfrif o'ch incwm. Bydd Cyllid a Thollau EM yn cyfrifo faint yn union o Lwfans Personol y mae gennych hawl iddo (os oes gennych hawl i rywfaint o gwbl) ar ôl i chi anfon eich ffurflen dreth Hunanasesu ar gyfer 2010-11.

Yr effaith ar eich treth a’ch cod treth – os yw'ch incwm yn uwch na £150,000

Ers y flwyddyn dreth 2010-11 bydd cyfradd treth ychwanegol o 50 y cant yn gymwys os oes gennych incwm trethadwy sy’n fwy na £150,000. Mae eich cod treth am 2011-12 yn cymryd i ystyriaeth y gyfradd ychwanegol o 50 y cant ac unrhyw ‘ostyngiadau ac addasiadau’, er enghraifft os bydd gostyngiad treth yn ddyledus i chi ar roddion i elusennau neu gyfraniadau pensiwn, neu os bydd angen i Gyllid a Thollau EM gymryd i ystyriaeth treth flaenorol sydd heb ei thalu sy’n ddyledus gennych.

Ar gyfer y flwyddyn dreth 2010-11, os oedd gennych fwy nag un swydd neu bensiwn neu unrhyw ‘gostyngiadau neu addasiadau’, ni fydd eich cod treth wedi cymryd i ystyriaeth y gyfradd ychwanegol o 50 y cant ac efallai na fydd eich didyniadau’n gywir. Bydd Cyllid a Thollau EM yn cyfrifo faint yn union o dreth sy’n ddyledus gennych ar ôl i chi anfon eich ffurflen dreth ar gyfer 2010-11. Efallai y bydd hyn yn golygu y bydd rhywfaint o dreth ychwanegol yn ddyledus gennych neu y gallwch hawlio arian yn ôl.

Sut mae'r 'cod K' yn gweithio

Os yw'ch didyniadau (incwm heb ei drethu y mae treth yn dal yn ddyledus arno) yn fwy na'ch lwfansau, byddwch yn cael cod K. Bydd hyn yn sicrhau eich bod yn talu treth ar y swm sydd dros ben.

Gyda chodau treth eraill mae’r rhif yn dynodi faint o incwm y gallwch ei gael heb dalu treth arno, ond gyda chod K, rhaid lluosi'r rhif yn y cod gyda deg er mwyn cael syniad bras o faint y mae'n rhaid ei ychwanegu at eich incwm trethadwy er mwyn ystyried yr incwm heb ei drethu sydd dros ben a dderbynioch. Ni all y swm o dreth a ddidynnir am bob cyfnod tâl fod yn fwy na hanner eich cyflog gros neu bensiwn ar gyfer y cofnod hwnnw. Os mae fwy o dreth yn daladwy caiff ei gasglu ar ddyddiad hwyrach.

Efallai y defnyddir cod K os oes gennych:

  • fudd-daliadau cwmni
  • budd-daliadau’r wladwriaeth
  • treth i’w thalu’n ôl o flwyddyn dreth flaenorol

Enghraifft o god K

Ystyr K497 yw:

  • roedd eich incwm heb ei drethu £4,970 yn fwy na'ch incwm trethadwy
  • o ganlyniad, rhaid ychwanegu £4,970 at gyfanswm eich incwm trethadwy i sicrhau y cesglir y swm cywir o dreth

(Mae’r cyfrifiad ei hun yn fwy cymhleth, ac wrth gwrs, yn fanwl gywir – ac yn sicrhau y caiff y swm union gywir ei ychwanegu at eich incwm trethadwy.)

Os oes gennych god treth brys

Weithiau, bydd yn rhaid i'ch cyflogwr neu'ch darparwr pensiwn ddefnyddio cod brys (neu god dros dro) nes bydd Cyllid a Thollau EM wedi cyfrifo pa god treth y dylech ei gael. Gall hyn ddigwydd os byddwch chi’n dechrau swydd newydd ac nad oes gennych ffurflen P45 er enghraifft.

Tra byddwch ar god brys fe gewch chi’r Lwfans Personol sylfaenol – efallai y bydd hyn yn iawn i chi ac efallai ddim.

Unwaith y bydd gan Gyllid a Thollau EM fanylion am eich incwm blaenorol a'r dreth ar gyfer y flwyddyn dreth, byddant yn anfon y cod treth cywir at eich cyflogwr (ac atoch chi). Bydd eich cyflogwr yn tynnu'r swm treth cywir yn y dyfodol ac yn ad-dalu unrhyw dreth sy’n ddyledus i chi.

Ble i ddod o hyd i'ch cod treth

Os ydych chi'n gyflogedig neu rhwng swyddi

Mae'ch cod treth i’w weld ar eich ffurflen P45 (a roddir i chi gan eich cyflogwr pan fyddwch yn rhoi'r gorau i weithio iddo). Dyna pam ei bod yn bwysig iawn rhoi hwn i'ch cyflogwr newydd pan fyddwch yn newid swyddi.

Os ydych wedi colli'ch ffurflen P45 ac am gael gwybod beth yw'ch cod treth, cysylltwch â Chyllid a Thollau EM a rhoi eich rhif Yswiriant Gwladol a’ch cyfeirnod treth iddynt.

Mae eich cod treth hefyd yn ymddangos ar eich ‘Hysbysiad Cod Talu Wrth Ennill’ y bydd Cyllid a Thollau EM yn ei anfon atoch cyn dechrau pob blwyddyn dreth gan amlaf. (Efallai y caiff hefyd ei anfon atoch ar adegau eraill os oes rhywbeth wedi newid – er enghraifft, rydych wedi dechrau cael incwm o ffynhonnell newydd neu fudd cwmni newydd, neu mae eich hawl ar gyfer lwfansau sy’n gysylltiedig ag oedran neu lwfansau eraill wedi newid.)

Os ydych yn dechrau ar eich swydd gyntaf

Os ydych yn dechrau ar eich swydd gyntaf ac felly nid oes gennych ffurflen P45, bydd eich cyflogwr yn rhoi ffurflen P46 i chi ei llenwi neu ofyn i chi am yr wybodaeth sydd ei hangen arnynt i ddyrannu cod treth a chyfrifo’r dreth sy’n ddyledus ar eich diwrnod tâl cyntaf. Yna bydd Cyllid a Thollau EM yn prosesu eich P46 neu’r wybodaeth a gafwyd gan eich cyflogwr, a lle bo angen, yn newid eich cod treth.

Os ydych wedi talu gormod o dreth, bydd eich cyflogwr yn ad-dalu'r swm gofynnol. (Os yw’r flwyddyn dreth wedi dod i ben cyn y gwneir hyn, adran Cyllid a Thollau EM fydd yn gwneud yr ad-daliad.) Os nad ydych wedi talu digon o dreth, gellir newid y cod treth i gasglu'r dreth heb ei thalu. Bydd hyn yn digwydd yn y flwyddyn dreth gyfredol, os bydd digon o amser i’ch cyflogwr neu’r sawl sy’n cyfrannu at eich pensiwn roi’r cod diwygiedig ar waith. Os na fydd digon o amser, gwneir hyn mewn blwyddyn dreth ddiweddarach.

Os ydych yn cael pensiwn cwmni neu bensiwn personol

Mae eich cod treth yn ymddangos ar eich ‘Hysbysiad Cod Talu Wrth Ennill’ (PAYE) y bydd Cyllid a Thollau EM yn ei anfon atoch cyn dechrau pob blwyddyn dreth gan amlaf. Efallai y caiff hefyd ei anfon atoch ar adegau eraill os oes rhywbeth wedi newid – er enghraifft, rydych wedi dechrau cael incwm o ffynhonnell newydd neu fudd cwmni newydd. Mae eich cod treth hefyd yn ymddangos ar hysbysiadau a slipiau talu a gewch gan eich darparwr pensiwn.

Os ydych wedi’ch cofrestru ar gyfer Hunanasesiad Ar-lein

Os ydych yn weithiwr neu’n cael pensiwn cwmni neu bensiwn personol, ac rydych wedi’ch cofrestru ar gyfer Hunanasesiad Ar-lein, gallwch weld Hysbysiadau Cod Talu Wrth Ennill a gyflwynwyd ar 11 Hydref 2011 neu ar ôl hynny ar-lein.

Newidiadau a all effeithio ar eich cod treth

Rhaid i chi ddweud wrth Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi os bydd eich amgylchiadau'n newid, er enghraifft:

  • os byddwch yn priodi, yn ffurfio partneriaeth sifil neu'n gwahanu, ac os ganed y naill neu'r llall ohonoch cyn 6 Ebrill 1935
  • os byddwch yn dechrau cael ail incwm (neu drydydd, neu fwy)
  • os bydd maint yr incwm heb ei drethu a gewch yn cynyddu neu'n lleihau

Os na fyddwch yn rhoi gwybod i Gyllid a Thollau EM, gallech dalu'r swm anghywir o dreth.

Os bydd Cyllid a Thollau EM yn newid eich cod treth, dylech gael ‘Hysbysiad Cod Talu Wrth Ennill’ ganddynt. Cadwch bob llythyr hysbysiad cod ar gyfer cyfeirio atynt rhag ofn y bydd gennych gwestiynau neu y byddwch am wneud yn siŵr eich bod yn talu'r swm cywir o dreth.

Darparwyd gan HM Revenue and Customs

Allweddumynediad llywodraeth y DU