Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Mae'r erthygl hon yn egluro'r cofnodion mwyaf cyffredin ar Hysbysiad Cod PAYE. I gael gwybod sut cânt eu defnyddio i gyfrifo'r dreth a dalwch, darllenwch yr erthygl gysylltiedig 'Deall eich Hysbysiad Cod PAYE'. Gallwch ddod o hyd i’r ddolen o dan ‘Gwybodaeth bellach’ ar ddiwedd y dudalen hon.
Lwfans Personol
Dyma'r incwm trethadwy y cewch ei dderbyn heb orfod talu treth yn y flwyddyn dreth bresennol.
Lwfans Person Dall
Mae hwn yn lwfans cyfradd unffurf di-dreth y gallwch ei hawlio os ydych chi'n cael eich cyfrif yn ddall a'ch bod ar gofrestr awdurdod lleol o bobl ddall, neu os ydych chi'n byw yn yr Alban neu yng Ngogledd Iwerddon ac na allwch wneud unrhyw waith lle mae gallu gweld yn hanfodol. Os ydych chi'n gymwys i'w gael, dylai ymddangos ar eich Hysbysiad Cod ar ôl y Lwfans Personol.
Lwfans Pâr Priod
Mae'r Lwfans Pâr Priod (lle cawsoch chi neu eich priod neu'ch partner sifil eich geni ar 5 Ebrill 1935 neu cyn hynny) yn lwfans sy'n lleihau eich treth os ydych chi'n drethdalwr. Bydd y nodyn ar eich Hysbysiad Cod yn dweud wrthych beth yw gwerth y Lwfans Pâr Priod i chi fel gostyngiad treth. Bydd yn dweud wrthych sut cafodd eich rhif cod treth ei addasu i fyny i roi'r gostyngiad cywir i chi.
Gostyngiad Taliadau Cynhaliaeth
Yn yr un modd â'r Lwfans Pâr Priod, mae'r Gostyngiad Taliadau Cynhaliaeth (lle cawsoch chi neu eich priod neu'ch partner sifil eich geni ar 5 Ebrill 1935 neu cyn hynny) yn lwfans sy'n lleihau eich treth os ydych chi'n drethdalwr. Bydd y nodyn ar eich Hysbysiad Cod yn dweud wrthych beth yw gwerth y Gostyngiad Taliadau Cynhaliaeth i chi fel gostyngiad treth. Bydd yn dweud wrthych sut cafodd eich rhif cod treth ei addasu i fyny i roi'r gostyngiad cywir i chi.
Gostyngiadau a lwfansau eraill
Gallai cofnodion eraill ar eich Hysbysiad Cod PAYE gynnwys y canlynol:
Gan ddibynnu ar y math o gofnod, bydd effaith ychwanegu'r symiau hyn at yr incwm y gallwch ei gael yn ddi-dreth yn un o'r canlynol:
Mae’r cofnodion negyddol sy’n dangos ar eich Hysbysiad Cod PAYE yn cyfrifo symiau o dreth incwm y mae Cyllid a Thollau yn credu eich bod eisoes wedi derbyn neu byddwch yn ei dderbyn y flwyddyn dreth hon heb ddidynnu unrhyw dreth. Efallai y byddant hefyd yn cynnwys budd-daliadau cwmni trethadwy neu dreth sy’n ddyledus ers blwyddyn flaenorol.
Mae’r symiau y mae Cyllid a Thollau yn eu didynnu yn sicrhau eich bod chi’n talu’r cyfanswm cywir o dreth ar yr eitemau hyn.
Mae’n bosib y byddant yn cynnwys:
Gostyngiad i gasglu treth heb ei thalu
Os oes treth yn ddyledus gennych ers blwyddyn flaenorol, y ffordd hawsaf i Gyllid a Thollau EM ei chasglu yw tynnu swm yr incwm y mae'r dreth yn ddyledus arno o'ch lwfansau di-dreth. Bydd hyn yn galluogi Cyllid a Thollau EM i gywiro'r swm cywir o dreth sy'n ddyledus drwy PAYE (Talu Wrth Ennill) bob wythnos neu bob mis.
Dyled heb ei thalu
Ni fyddwch yn gweld hon os nad ydych chi wedi talu dyledion Hunanasesu neu ordaliadau credyd treth, ble mae’r swm yn llai na £3,000 ac rydych eisoes wedi cael eich gofyn i wneud taliad uniongyrchol. Mae Cyllid a Thollau EM yn gostwng eich lwfansau di-dreth ac yn casglu’r swm sy’n ddyledus dros 12 mis. Bydd nodyn yn cael ei ychwanegu yn dweud wrthych ba fath o ddyled sy’n gymwys - Hunanasesiad neu gredydau treth - ac yn esbonio sut y mae eich cod treth wedi cael ei gyfrifo.
Bydd Cyllid a Thollau EM yn ysgrifennu atoch bob amser i ddweud wrthych y maent yn bwriadu casglu’r arian drwy eich cod dreth o ddechrau’r flwyddyn dreth ganlynol.
'Addasu' i'r band cyfradd 20 y cant
Byddwch yn gweld hyn os oes gennych chi ddwy neu fwy o swyddi neu bensiynau cwmni ar yr un pryd, a'ch bod yn talu treth ar y gyfradd sylfaenol (20 y cant) ar bob un - ond bydd cymryd lefel eich incwm gyda'i gilydd yn golygu y bydd rhaid i chi dalu rhywfaint o dreth ar y band cyfradd uwch, sef 40 y cant.
I gasglu'r dreth ychwanegol (ac i sicrhau na fydd treth yn ddyledus gennych ar ddiwedd y flwyddyn, bydd Cyllid a Thollau EM yn lleihau eich swm di-dreth ar gyfer eich prif swydd neu bensiwn i roi'r effaith o gasglu'r dreth ychwanegol sy'n ddyledus gennych.
Pensiwn y Wladwriaeth
Mae Pensiwn y Wladwriaeth yn incwm trethadwy, ond caiff ei dalu i chi gan yr Adran Gwaith a Phensiynau heb dreth wedi'i didynnu. I sicrhau eich bod yn talu eich treth arno, bydd Cyllid a Thollau EM yn didynnu ei werth blynyddol o'ch lwfansau di-dreth.
Budd-daliadau trethadwy eraill y wladwriaeth
Os ydych chi'n derbyn budd-daliadau trethadwy'r wladwriaeth, bydd Cyllid a Thollau EM yn didynnu eu gwerth blynyddol o'ch lwfansau di-dreth i sicrhau eich bod yn talu treth arnynt. Er enghraifft, bydd Budd-dal Analluogrwydd a delir ar ôl y 28 wythnos cyntaf yn drethadwy, ond byddwch yn ei dderbyn heb dreth wedi'i didynnu.
Buddion cwmni trethadwy (car, fan, tanwydd, yswiriant meddygol ayb)
Mae gwerth y mathau hyn o fuddion (a ddarperir gan eich cyflogwr) yn drethadwy felly mae angen eu didynnu o'ch lwfansau a'ch gostyngiadau.
Addasiad Cymorth Rhodd
Efallai y byddwch yn gweld hyn os ydych chi wedi gwneud rhoddion Cymorth Rhodd ond heb dalu cymaint o dreth ag y bydd yr elusen yn ei hawlio'n ôl. Cymerir didyniad o'ch incwm di-dreth i dalu'r gwahaniaeth.
Incwm o flwydd-dal
Os ydych chi'n derbyn blwydd-daliadau trethadwy heb dreth wedi'i didynnu, bydd Cyllid a Thollau EM yn didynnu'r gwerth blynyddol o'ch lwfansau di-dreth i sicrhau eich bod yn talu treth ar yr incwm hwn.
Incwm eiddo
Bydd unrhyw incwm rhentu (llai treuliau a ganiateir) nad ydynt o fewn y cynllun Rhentu Ystafell yn drethadwy, ond byddwch yn ei dderbyn heb dreth wedi'i didynnu felly mae angen iddo ymddangos yma.
Llog heb dreth wedi'i didynnu
Bydd amcangyfrif o'r llog di-dreth y mae Cyllid a Thollau EM yn disgwyl i chi ei dderbyn yn ymddangos yma i sicrhau eich bod yn talu treth ar yr incwm hwn.
Incwm cynilion yn drethadwy ar 40 y cant
Caiff incwm cynilion ei drethu ar 20 y cant cyn i chi ei gael, a chaiff difidendau (incwm o gyfranddaliadau) eu trethi ar 10 y cant. Os ydych chi'n drethdalwr cyfradd uwch, bydd y gwahaniaeth rhwng 20 y cant a 40 y cant yn ddyledus gennych ar incwm cynilion, a rhwng 10 y cant a 32.5 y cant ar incwm difidendau. Bydd y swm a ddangosir ar eich Hysbysiad Cod, yn effeithiol, yn casglu'r gwahaniaeth.
Pensiynau/enillion/comisiwn arall na fydd wedi'u trethu pan fyddwch yn eu derbyn
Bydd amcangyfrif Cyllid a Thollau EM o unrhyw bensiwn/enillion di-dreth eraill y byddwch yn eu derbyn yn ymddangos ar eich Hysbysiad Cod. Drwy ddidynnu gwerth y rhain o'ch lwfansau, bydd Cyllid a Thollau EM yn casglu'r dreth amcangyfrifedig sy'n ddyledus ar y pensiwn neu'r incwm arall hwnnw. Os, erbyn diwedd y flwyddyn dreth, bydd y swm a dderbyniwyd gennych yn fwy na'r amcangyfrif, bydd Cyllid a Thollau EM yn gofyn i chi dalu treth ar y gwahaniaeth.
Didyniadau eraill
Nid yw'r rhestr uchod yn gynhwysfawr, ond mae'n cynnwys rhai o'r eitemau mwyaf cyffredin a fydd yn lleihau cofnodion eich swm di-dreth. Fodd bynnag, mae'r egwyddor a ddefnyddir yr un fath i bawb - caiff y swm a ddangosir ei ddidynnu o'ch lwfansau treth gan roi'r effaith o gasglu'r swm cywir o dreth sy'n ddyledus ar gyfer yr eitem honno.
I gael gwybod sut cânt eu defnyddio i gyfrifo'r dreth a dalwch, darllenwch yr erthygl gysylltiedig 'Deall eich Hysbysiad Cod PAYE'.