Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Rhoi gwybod am dwyll treth

Mae twyll treth yn drosedd ac mae pawb ar eu colled o'i herwydd. Mae'n golygu bod llai i'w wario ar y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, ysgolion, pensiynau a llawer o wasanaethau pwysig eraill. Mae'r llywodraeth yn benderfynol o fynd i'r afael â thwyll treth ac mae llawer o'r gwaith hwn yn dibynnu ar yr wybodaeth a dderbynnir gan aelodau'r cyhoedd.

Beth yw twyll treth?

Pan na fydd rhywun yn talu digon o dreth neu'n cam hawlio ad-daliad treth drwy fod yn anonest, ystyrir hyn yn dwyll treth. Nid yw twyll treth yn ymwneud ag esgeulustod; rhaid iddo fod yn weithred fwriadol. Mae'n cynnwys:

  • unigolion ddim yn dweud wrth Gyllid a Thollau EM am eu hincwm
  • cyflogwyr yn talu eu staff heb ddefnyddio'r drefn Talu Wrth Ennill
  • busnesau ddim yn datgan rhywfaint neu'r cyfan o'u helw
  • busnesau ddim yn cofrestru ar gyfer TAW pan ddylen nhw
  • busnesau yn codi TAW ar eu cwsmeriaid yn anghyfreithlon
  • masnachwyr yn creu dyledion TAW mawr heb eu talu ac yn gwneud hawliadau ad-dalu TAW twyllodrus - Twyll TAW gan Fasnachwyr Coll o fewn y Gymuned
  • manwerthwyr yn mewnforio nwyddau megis alcohol a thybaco heb dalu Toll Gartref
  • unigolion yn smyglo nwyddau megis alcohol a thybaco i'r DU

Gall y llywodraeth erlyn pobl sy'n cyflawni twyll treth, yn ogystal ag unrhyw un sy'n eu helpu i wneud hynny.

Twyll treth gan gyflogwyr

Mae rhai cyflogwyr yn talu 'arian mewn llaw' i'w gweithwyr (heb dynnu treth na chyfraniadau Yswiriant Gwladol o'u cyflogau). Er y gall cyflogwyr leihau eu bil cyflogau drwy wneud hyn, gallwch chi fod ar eich colled fel cyflogai oherwydd:

  • fe allech beidio â thalu digon o gyfraniadau i gael Pensiwn y Wladwriaeth yn llawn
  • fe allech golli'ch hawl i rai budd-daliadau
  • na fyddwch efallai'n cael y Lleiafswm Cyflog Cenedlaethol
  • na allwch fanteisio ar eich hawliau cyflogaeth
  • fe allech chi, ynghyd â'ch cyflogwr, gael eich erlyn gan Gyllid a Thollau EM, os ydych yn cymryd rhan mewn twyll o'r fath yn fwriadol, gan gynnwys peidio'n fwriadol â gwneud rhywbeth i unioni'r sefyllfa

Gallwch roi gwybod am y math yma o dwyll drwy ffonio'r Llinell Osgoi Treth ar 0800 788 887, ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 8.00 am a 8.00 pm, ac ar ddydd Sadwrn a dydd Sul rhwng 8.00 am a 4.00 pm. Mae hwn yn wasanaeth cyfrinachol a does dim rhaid i chi roi eich enw.

Yr 'economi gudd'

Mae rhai busnesau'n gweithredu heb hyd yn oed gofrestru â Chyllid a Thollau EM ac felly nid ydynt yn talu dim treth. Mae eraill yn cofrestru, ond dim ond yn datgan ac yn talu treth ar rywfaint o'u hincwm. Cânt eu disgrifio fel bod yn rhan o'r economi gudd. Yn aml, mae busnesau o'r fath yn gofyn i chi dalu iddynt mewn arian parod.

Os ydych chi'n adnabod rhywun sydd heb gofrestru ei fusnes at ddibenion treth fe allwch roi gwybod amdano ar-lein, neu ffoniwch y Llinell Osgoi Treth ar 0800 788 887 (ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 8.00 am ac 6.00 pm, ar gau ar benwythnosau a gwyliau banc) a bydd Cyllid a Thollau EM yn gwneud rhywbeth am y peth. Does dim rhaid i chi roi eich enw a'ch cyfeiriad.

Bydd yr wybodaeth i gyd yn cael ei hystyried yn ofalus i benderfynu beth yw'r camau mwyaf priodol. Bydd faint o wybodaeth y gallwch chi ei rhoi o bosib yn effeithio ar beth y gall Cyllid a Thollau EM ei wneud am y mater, felly, mae'n bwysig rhoi cymaint o fanylion penodol ag y bo modd.

Twyll Treth Ar Werth

Os yw busnes yn codi TAW arnoch chi, mae'n rhaid ei fod wedi ei gofrestru ar gyfer TAW ac mae'n rhaid iddo roi gwybod i Gyllid a Thollau EM am y TAW a godir ganddo.

Mae rhai busnesau'n osgoi cofrestru ar gyfer TAW yn fwriadol, a thrwy hynny'n cael mantais annheg dros eu cystadleuwyr. Gall eraill fod yn fusnesau ffug neu gallant ddweud celwydd am y TAW sy'n ddyledus ganddynt.

Efallai y gwyddoch am fusnes nad yw'n datgan yr holl Dreth Ar Werth y mae'n ei godi, neu efallai eich bod yn meddwl nad ydynt yn gwneud hynny oherwydd:

  • eu bod yn gofyn i chi dalu iddynt mewn arian parod ac yn anfodlon darparu anfoneb
  • eu bod yn gofyn i'r taliad gael ei wneud i rywun ar wahân i'r busnes
  • eu bod yn cynnig gostyngiad am arian parod ac yn amharod i dderbyn siec neu gerdyn credyd
  • eu bod yn cynnig nwyddau i chi am bris sydd gryn dipyn yn is na phris y farchnad
  • eu bod yn rhoi arian mewn til agored heb gofnodi'r gwerthiant ar y til

Twyll TAW gan Fasnachwyr Coll o fewn y Gymuned

Mae twyll 'Masnachwyr coll' yn golygu cael rhif cofrestru TAW yn y DU at ddibenion prynu nwyddau heb Dreth Ar Werth yn un o Aelod-wladwriaethau eraill yr Undeb Ewropeaidd. Yna, bydd y nwyddau hyn yn cael eu gwerthu yn y DU am bris sy'n cynnwys TAW. Ar ôl hynny, bydd y masnachwr yn diflannu, heb dalu'r TAW sy'n ddyledus i Gyllid a Thollau EM.

Ffurf arall o'r math hwn o dwyll yw 'twyll carwsél'. Mae hyn yn golygu masnachu'r un nwyddau o amgylch cadwyni cyflenwi a ddyfeisiwyd yn yr UE a'r tu hwnt iddi. Bydd y nwyddau'n ail ddod i mewn i'r DU sawl gwaith gyda'r nod o greu dyledion TAW mawr heb eu talu a hawliadau ad-dalu TAW twyllodrus.

Gallwch roi gwybod am dwyll TAW drwy ffonio Llinell Gyfrinachol yr adran Dollau ar 0800 595 000, ar agor 24 awr y dydd, saith niwrnod yr wythnos.

Does dim rhaid i chi roi eich enw nac unrhyw fanylion personol.

Os yw bil yn dangos swm ar wahân ar gyfer TAW, rhaid iddo hefyd ddangos rhif cofrestru naw digid TAW y busnes. I ganfod a yw rhif TAW yn ddilys, gallwch ffonio llinell gymorth Gwasanaeth Cynghori Cenedlaethol Cyllid a Thollau EM ar 0845 010 9000. Mae'r llinellau ar agor rhwng 8.00 am a 6.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Twyll treth ar nwyddau a fewnforir

Fel dinesydd y DU, ceir rheolau a rheoliadau penodol ynghylch beth y gallwch ei gludo i'r wlad, a faint o dreth, os o gwbl, y mae'n rhaid i chi ei thalu.

Er enghraifft, does dim treth (Toll Gartref) i'w thalu ar unrhyw alcohol neu dybaco y byddwch yn ei gludo i'r DU o Ewrop, dim ond ei fod ar gyfer eich defnydd personol chi.

Os ydych chi'n amau bod manwerthwr, neu unigolyn, yn gwerthu nwyddau a fewnforiwyd ganddynt heb dalu treth, gallwch eu riportio i linell gymorth gyfrinachol yr adran Dollau, 0800 595 000, ar agor 24 awr y dydd, saith niwrnod yr wythnos.

Does dim rhaid i chi roi eich enw nac unrhyw fanylion personol.

Ffyrdd eraill o roi gwybod am rywun sy’n osgoi talu trethu

Gallwch chi hefyd roi gwybod am rywun rydych yn ei amau o osgoi talu trethu dros e-bost, drwy’r post neu dros ffacs, a cheir llinellau cymorth ar gyfer cwsmeriaid sy’n siarad Welsh a'r rheini sy’n defnyddio ffôn testun.

Darparwyd gan HM Revenue and Customs

Allweddumynediad llywodraeth y DU