Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Treth ac Yswiriant Gwladol ar gyfer y cyflogedig a’r hunangyflogedig

Mae’n bosib bod yn gyflogedig ac yn hunangyflogedig ar yr un pryd. Gall hyn fod yn berthnasol i chi os ydych chi, er enghraifft, yn gweithio i gyflogwr yn ystod yr wythnos ac yn rhedeg eich busnes eich hun ar y penwythnosau. Rydych yn talu treth a chyfraniadau Yswiriant Gwladol ar eich incwm o gyflogaeth a’ch incwm hunangyflogaeth mewn gwahanol ffyrdd.

Os ydych chi’n gyflogedig ac yn hunangyflogedig

Mae’n bosib bod yn gyflogedig ac yn hunangyflogedig ar yr un pryd. Mae llawer o bobl yn gweithio i gyflogwr ac yn rhedeg eu busnesau eu hunain hefyd.

Efallai eu bod yn gwneud pethau fel:

  • gweithio mewn siop yn ystod y dydd a rhedeg eu busnesau eu hunain ar y rhyngrwyd fin nos
  • gweithio fel darlithiwr mewn coleg yn ogystal â gwneud gwaith ysgrifennu ac ymgynghori ar eu liwt eu hunain

Talu Treth Incwm a chyfraniadau Yswiriant Gwladol ar y ddwy swydd

Os ydych chi’n ennill incwm o gyflogaeth ac incwm hunangyflogaeth, byddwch yn talu unrhyw Dreth Incwm a chyfraniadau Yswiriant Gwladol sy'n ddyledus ar wahân ac mewn gwahanol ffyrdd.

Mae cyfanswm y dreth a’r cyfraniadau Yswiriant Gwladol y byddwch yn eu talu yn seiliedig ar y canlynol:

  • eich incwm o’ch dwy swydd wedi’u cyfuno – neu eich incwm o’ch swyddi i gyd os oes gennych chi fwy na dwy
  • unrhyw lwfansau neu ostyngiadau a gewch
  • eich elw o hunangyflogaeth

Incwm o gyflogaeth – treth a chyfraniadau Yswiriant Gwladol

Os ydych yn gweithio fel cyflogai byddwch yn talu unrhyw Dreth Incwm a chyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1 sy'n ddyledus drwy TWE (Talu Wrth Ennill). Bydd eich cyflogwr yn didynnu'r rhain o’ch cyflog cyn i chi ei gael.

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth ynglŷn â thalu treth a chyfraniadau Yswiriant Gwladol ar incwm o gyflogaeth a sut i sicrhau nad ydych chi’n gordalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1 drwy ddilyn y ddolen isod.

Incwm hunangyflogaeth – treth a chyfraniadau Yswiriant Gwladol

Os oes gennych chi unrhyw incwm o hunangyflogaeth, chi fydd yn gyfrifol am dalu unrhyw Dreth Incwm a chyfraniadau Yswiriant Gwladol sy'n ddyledus. Yn dibynnu ar faint fyddwch chi’n ei ennill drwy fod yn hunangyflogedig, mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 a Dosbarth 4.

Byddwch yn talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 ar gyfradd sefydlog. O fis Ebrill 2011 ymlaen, bydd eich taliadau cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 yn dod yn ddyledus ar 31 Ionawr a 31 Gorffennaf, yr un fath â bil treth Hunanasesiad. Byddwch yn talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 naill ai’n fisol neu bob chwe mis drwy Ddebyd Uniongyrchol.

Bydd Treth Incwm a chyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 4 yn seiliedig ar yr elw a wnewch o fod yn hunangyflogedig. Bydd yn rhaid i chi lenwi ffurflen dreth Hunanasesu bob blwyddyn fel y gall Cyllid a Thollau EM gyfrifo faint o dreth ac Yswiriant Gwladol Dosbarth 4 sy’n ddyledus.

Pan fyddwch yn llenwi eich ffurflen dreth dylech ddefnyddio'r tudalennau Cyflogaeth i roi gwybod i Gyllid a Thollau EM am unrhyw incwm a gewch o gyflogaeth ac am unrhyw dreth a ddidynnir ohono. Bydd hyn yn rhoi darlun cyflawn o gyfanswm eich enillion o gyflogaeth a hunangyflogaeth ill dau. Bydd yr enghraifft yn yr adran isod yn eich helpu i ddeall sut y bydd Cyllid a Thollau EM yn defnyddio’r wybodaeth ar eich ffurflen dreth i gyfrifo eich treth.

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth ynglŷn â thalu treth a chyfraniadau Yswiriant Gwladol ar elw a wnewch o fod yn hunangyflogedig drwy ddilyn y ddolen isod.

Sut y cyfrifir cyfanswm eich treth a'ch Yswiriant Gwladol

Bydd Cyllid a Thollau EM yn defnyddio’r wybodaeth ar eich ffurflen dreth ynglŷn â’ch incwm o gyflogaeth a’ch incwm hunangyflogaeth i gyfrifo eich treth a’ch Yswiriant Gwladol.

Enghraifft a gyfrifwyd

Dilynwch y ddolen isod i gael gweld enghraifft o sut y cyfrifir eich treth a'ch cyfraniadau Yswiriant Gwladol pan fydd gennych incwm o gyflogaeth ac incwm hunangyflogaeth.

Sicrhau nad ydych yn gordalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol ar gyfer yr hunangyflogedig

Os ydych yn disgwyl bod yn gyflogedig ac yn hunangyflogedig, mae’n bosib y gallech ‘ohirio’ rhai o’ch cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 a/neu Dosbarth 4. Byddwch yn talu’r swm sy’n ddyledus ar ddiwedd y flwyddyn dreth ar ôl i’r swm cywir gael ei gyfrifo. Bydd gwneud hyn yn sicrhau na fyddwch yn talu gormod o Yswiriant Gwladol ar eich incwm hunangyflogaeth.

Pryd y gallwch chi wneud cais i ohirio cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2

Mae’n bosib y gallech ohirio eich cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 os ydych yn disgwyl talu'r canlynol:

  • cyfraniadau Dosbarth 1 a Dosbarth 2 mewn blwyddyn dreth
  • cyfraniadau Dosbarth 1 ar enillion wythnosol o gyflogaeth o £817 o leiaf am y flwyddyn dreth gyfan (cyfradd 2011-12)

Pryd y gallwch chi wneud cais i ohirio cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 4

Mae’n bosib y gallech ohirio eich cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 4 os gallwch ddangos eich bod yn debyg o dalu gormod o gyfraniadau Dosbarth 1, Dosbarth 2 a Dosbarth 4.

Ond hyd yn oed os byddwch yn gohirio eich cyfraniadau Dosbarth 4, bydd yn dal yn rhaid i chi eu talu ar gyfradd o 2 y cant ar unrhyw elw dros £7,605 (y terfyn elw isaf ar gyfer 2012-13).

Pryd i wneud eich cais i ohirio

Dylech wneud cais i ohirio eich cyfraniadau cyn dechrau’r flwyddyn dreth rydych am ohirio cyfraniadau ar ei chyfer. Felly, os byddech am ohirio cyfraniadau ar gyfer y flwyddyn dreth 2012-13, dylech wneud cais cyn 6 Ebrill 2012.

Os byddwch yn hwyr yn gwneud cais, bydd Cyllid a Thollau EM yn derbyn eich cais hyd nes diwedd y flwyddyn dreth. Ond os bydd y cais yn dod i law ar ôl diwedd y flwyddyn dreth rydych am ohirio cyfraniadau ar ei chyfer, dim ond cyfraniadau Dosbarth 4 y bydd Cyllid a Thollau EM yn caniatáu i chi eu gohirio – a dim ond os nad ydych eisoes wedi'u talu'n llawn neu os ydynt yn destun ymholiad.

Bydd yn rhaid i chi wneud cais newydd ar gyfer bob blwyddyn dreth rydych am ohirio cyfraniadau ar ei chyfer.

Sut i wneud cais

Gallwch wneud cais i ohirio eich cyfraniadau drwy lenwi a dychwelyd ffurflen CA72B Cais i ohirio talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 a/neu Dosbarth 4.

Neu, gallwch ysgrifennu at Gyllid a Thollau EM yn y cyfeiriad canlynol:
Swyddfa Cyfraniadau Yswiriant Gwladol / National Insurance Contributions Office Gwasanaethau Gohirio / Deferment Services
Longbenton
Newcastle upon Tyne
NE98 1ZZ

Darparwyd gan HM Revenue and Customs

Allweddumynediad llywodraeth y DU