Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Bydd yr enghraifft hon yn dangos i chi sut y cyfrifir eich treth a'ch Yswiriant Gwladol os oes gennych chi incwm o gyflogaeth ac incwm hunangyflogaeth. I gael gwybod mwy ynglŷn â thalu treth ac Yswiriant Gwladol os ydych chi'n gyflogedig ac yn hunangyflogedig, darllenwch yr arweiniad 'Treth ac Yswiriant Gwladol ar gyfer y cyflogedig a'r hunangyflogedig' – cewch hyd i'r ddolen dan 'Rhagor o wybodaeth' ar waelod y dudalen.
Mae Louise yn gweithio i gwmni o blymwyr ac enillodd £18,000 o’r gyflogaeth hon yn y flwyddyn dreth 2011-12. Didynnodd ei chyflogwr dreth a chyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1 o'i chyflog drwy’r system Talu Wrth Ennill (TWE).
Roedd hi hefyd yn gweithio fel plymwr hunangyflogedig fin nos ac ar benwythnosau. Yr elw a wnaeth o fod yn hunangyflogedig oedd £9,000 am y flwyddyn dreth.
Talodd Louise Dreth Incwm o £2,105 ar ei henillion o gyflogaeth. Ei lwfans personol, di-dreth am y flwyddyn oedd £7,475, felly talodd dreth ar gyfradd o 20 y cant ar £10,525 (£18,000 - £7,475 = £10,525), sef £2,105.
Talodd gyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1 o £1,293.64 ar ei henillion o gyflogaeth. Y ‘trothwy enillion’ ar gyfer talu Yswiriant Gwladol Dosbarth 1 yw 52 wythnos x £139 yr wythnos = £7,228, felly talodd 12 y cant ar £10,772 (£18,000 - £7,228 = £10,772), sef £1,293.64.
Talodd gyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 fel gweithiwr hunangyflogedig ar y gyfradd sefydlog o £2.50 yr wythnos. Mae £2.50 yr wythnos am 52 wythnos yn £130.00.
Mae’n rhaid iddi dalu Treth Incwm o £1,800 ar yr elw a wnaeth o fod yn hunangyflogedig. Defnyddiwyd ei lwfans personol di-dreth wrth gyfrifo'r dreth ar ei henillion o gyflogaeth, felly trethir ei helw i gyd (£9,000) ar gyfradd o 20 y cant.
Mae’n rhaid iddi dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 4 o £159.75 ar yr elw a wnaeth o fod yn hunangyflogedig. Y ‘terfyn elw isaf’ ar gyfer talu Yswiriant Gwladol Dosbarth 4 yw £7,225, felly mae’n rhaid iddi dalu 9 y cant ar £1,775 (£9,000 - £7,225 = £1,775), sef £159.75.
I gael rhagor o wybodaeth ynghylch talu treth ac Yswiriant Gwladol os ydych chi’n gyflogedig ac yn hunangyflogedig, darllenwch yr arweiniad perthnasol ‘Treth ac Yswiriant Gwladol ar gyfer y cyflogedig a’r hunangyflogedig’.
Darparwyd gan HM Revenue and Customs