Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Pan ddowch yn weithiwr, mae eich cyflogwr yn gyfrifol am ddidynnu treth Incwm ac Yswiriant Gwladol o'ch cyflog cyn ichi ei dderbyn. Dyma'r system Talu Wrth Ennill (TWE - PAYE). Byddwch yn derbyn gwaith papur sy'n ymwneud â TWE gan Gyllid a Thollau EM a'ch cyflogwr.
Pob diwrnod cyflog, dylai eich cyflogwr roi slip cyflog ichi. Mae'n dderbynneb am y dreth yr ydych wedi'i thalu, ac yn dangos manylion megis:
Bydd angen i chi roi eich rhif Yswiriant Gwladol i’ch cyflogwr i wneud yn siŵr bod y cyfraniadau Treth Incwm ac Yswiriant Gwladol y byddwch yn talu yn cael eu cofnodi’n iawn. Gallwch ddod o hyd i’ch rhif Yswiriant Gwladol ar y cerdyn rhif Yswiriant Gwladol neu lythyr hysbysiad y derbynioch gan Gyllid a Thollau EM wrth i chi gyrraedd 16 oed.
Nid yw Cyllid a Thollau EM yn cyhoeddi cardiau rhif Yswiriant Gwladol bellach.
Pan fyddwch yn dechrau gweithio, bydd Cyllid a Thollau EM yn anfon cod treth atoch ar Hysbysiad Cod TWE. Byddant hefyd yn anfon copi o’r Hysbysiad Cod at eich cyflogwr, a fydd yn ei ddefnyddio i gyfrifo faint o dreth i'w didynnu o'ch cyflog.
Efallai y bydd eich cyflogwr yn defnyddio ‘cod treth brys’ hyd nes y caiff yr un iawn gan Gyllid a Thollau EM. Os byddwch wedi talu gormod o dreth, byddwch yn ei gael yn ôl drwy TWE.
Os byddwch yn gadael eich swydd cyn ichi gael y cod iawn, neu os ydych am hawlio treth yn ôl am flwyddyn dreth flaenorol, gallwch wneud cais i'ch Swyddfa Dreth am ad-daliad.
Y ffurflen P45 yw'r cofnod o'ch cyflog a'r dreth a ddidynnwyd. Rydych yn cael P45 gan eich cyflogwr pan fyddwch yn stopio gweithio iddyn nhw. Maen dangos manylion megis:
Mae gan P45 bedair rhan. Mae'ch cyflogwr yn anfon un rhan i'r Swyddfa Dreth ac yn rhoi'r tair rhan arall i chi. Pan fyddwch yn cychwyn swydd newydd, rydych yn rhoi dwy ran i'ch cyflogwr newydd ac yn cadw'r rhan arall, a elwir yn Rhan 1A, ar gyfer eich cofnodion chi.
Os ydych yn dechrau ar eich swydd gyntaf a heb P45, bydd eich cyflogwr yn rhoi ffurflen P46 i chi i'w llenwi a'i llofnodi. Wedyn, bydd adran Cyllid a Thollau EM yn prosesu eich P46 ac yn rhoi cod treth ichi.
Mae’n bwysig eich bod yn llenwi eich P46 cyn eich diwrnod tâl cyntaf. Os nad ydych yn gwneud hynny, gallech dalu’r swm anghywir o dreth.
P60
Crynodeb blynyddol o'ch holl slipiau cyflog yw’r ffurflen P60. Mae'ch cyflogwr yn rhoi un ichi ar ddiwedd pob blwyddyn dreth, os ydych yn dal i weithio i’r cyflogwr. Rydych yn cadw'ch P60 fel cofnod o'ch cyflog a'r dreth a ddidynnwyd.
Os oes gennych fenthyciad myfyriwr i'w dalu'n ôl, bydd yn digwydd yn awtomatig drwy TWE unwaith ichi ddechrau gweithio ac ennill mwy na'r trothwy ad-dalu.
Mae Cyllid a Thollau EM yn rhoi'r wybodaeth ofynnol i'ch cyflogwr er mwyn iddynt ddidynnu'r swm iawn o'ch cyflog. Rhaid i'ch slip cyflog ddangos faint sydd wedi'i ddidynnu. Os oes gennych unrhyw gwestiynau am eich ad-daliadau benthyciad myfyriwr, gallwch gysylltu â Chyllid a Thollau EM.
Cadwch y gwaith papur sy'n cynnwys manylion eich cyflog a'ch treth, megis:
Os oes rhywun (ar wahân i'ch cyflogwr) yn rhoi buddion ymarferol ichi am wneud eich gwaith, dylech gadw cofnod o'u henw a'u cyfeiriad a beth a gawsoch ganddynt.
Bydd angen ichi gyfeirio at eich cofnodion yn ddiweddarach os bydd angen ichi rywbryd:
Mae Cyllid a Thollau EM yn awgrymu eich bod yn cadw'ch cofnodion am o leiaf 22 mis o ddiwedd y flwyddyn dreth y maent yn berthnasol iddi. Mae'r flwyddyn dreth yn mynd o 6 Ebrill i'r 5 Ebrill yn y flwyddyn ddilynol, ac felly cadwch y gwaith papur tan o leiaf 31 Ionawr bron i ddwy flynedd wedyn.
Darparwyd gan HM Revenue and Customs