Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Yswiriant Gwladol – yn fras

Rydych yn talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol er mwyn cronni eich hawl i gael rhai o fudd-daliadau’r wladwriaeth, gan gynnwys Pensiwn y Wladwriaeth. Mae’r cyfraniadau rydych yn eu talu yn dibynnu ar faint rydych chi’n ei ennill ac a ydych chi'n gyflogedig ynteu'n hunangyflogedig. Byddwch yn rhoi'r gorau i dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol pan gyrhaeddwch chi oedran Pensiwn y Wladwriaeth.

Pwy sy'n talu Yswiriant Gwladol?

Rydych yn talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol os ydych chi’n gyflogedig neu'n hunangyflogedig ac yn 16 oed neu’n hŷn, ar yr amod bod eich enillion yn uwch na lefel benodol. Os ydych chi’n gyflogedig, byddwch yn rhoi’r gorau i dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol cyn gynted ag y cyrhaeddwch chi oedran Pensiwn y Wladwriaeth. Os ydych chi’n hunangyflogedig, byddwch yn rhoi’r gorau i dalu cyfraniadau Dosbarth 2 cyn gynted ag y cyrhaeddwch chi oedran Pensiwn y Wladwriaeth, ac yn rhoi'r gorau i dalu cyfraniadau Dosbarth 4 o ddechrau’r flwyddyn dreth ar ôl y flwyddyn y byddwch chi’n cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth.

Oedran Pensiwn y Wladwriaeth i ddynion a aned cyn 6 Rhagfyr 1953 yw 65, ac yn 60 i fenywod a aned cyn 6 Ebrill 1950. Mae oedran Pensiwn y Wladwriaeth i fenywod a aned ar 6 Ebrill 1950 neu ar ôl hynny yn cynyddu’n raddol a bydd yn cyrraedd 65 ym mis Tachwedd 2018. O fis Rhagfyr 2018, bydd oedran Pensiwn y Wladwriaeth i fenywod a dynion yn cynyddu’n raddol o 65 i gyrraedd 66 erbyn mis Hydref 2020.

Mae rhai pobl yn talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol gwirfoddol hefyd. Er enghraifft, efallai y byddwch yn dewis eu talu os ydych:

  • yn ddi-waith a ddim yn hawlio budd-daliadau’r wladwriaeth
  • heb dalu digon o gyfraniadau Yswiriant Gwladol mewn blwyddyn i gyfrif ar gyfer Pensiwn y Wladwriaeth neu rai o fudd-daliadau tymor hir eraill y wladwriaeth
  • yn byw dramor ac yn dymuno parhau â'ch hawl i gael budd-daliadau’r wladwriaeth

Eich rhif Yswiriant Gwladol

Dim rhif Yswiriant Gwladol?

Cewch wybod yma sut i wneud cais i gael un

Eich rhif cyfrif personol chi yw eich rhif Yswiriant Gwladol. Mae'r rhif yn sicrhau bod y cyfraniadau Yswiriant Gwladol a'r dreth y byddwch chi’n eu talu yn cael eu cofnodi'n gywir ar eich cyfrif. Mae hefyd yn cael ei ddefnyddio fel cyfeirnod ar gyfer y system nawdd cymdeithasol.

Mae pob rhif Yswiriant Gwladol yn wahanol. Mae'n cynnwys llythrennau a rhifau fel hyn:

QQ 12 34 56 A. (Cofiwch mai dim ond enghraifft yw'r rhif Yswiriant Gwladol hwn, ac ni ddylech ei ddefnyddio fel eich rhif chi'ch hun.)

Nid yw eich rhif Yswiriant Gwladol byth yn newid, hyd yn oed os byddwch yn mynd dramor, yn priodi, yn cofrestru fel partner sifil, yn newid eich enw ac ati.

Mae eich hawl ar gyfer amryw o fudd-daliadau'r wladwriaeth yn dibynnu ar eich cofnod cyfraniadau Yswiriant Gwladol (gweler yr adran isod ‘Budd-daliadau'r wladwriaeth sy'n dibynnu ar gyfraniadau Yswiriant Gwladol’).

Os nad oes gennych chi rif Yswiriant Gwladol, gallwch wneud cais am un.

Pwy sy’n defnyddio eich rhif Yswiriant Gwladol?

Bydd yn rhaid i chi roi eich rhif Yswiriant Gwladol i’r canlynol:

  • Cyllid a Thollau EM (HMRC)
  • eich cyflogwr
  • Yr Adran Gwaith a Phensiynau (gan gynnwys y Ganolfan Byd Gwaith a’r Gwasanaeth Pensiynau, Anabledd a Gofalwyr), os ydych chi’n hawlio budd-daliadau'r wladwriaeth
  • eich cyngor lleol, os ydych yn hawlio Budd-dal Tai
  • y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr, os ydych yn gwneud cais am fenthyciad myfyrwyr

Bydd rhaid i chi hefyd ddarparu eich rhif Yswiriant Gwladol os byddwch chi’n agor Cyfrif Cynilo Personol (ISA).

Mae’n bwysig iawn eich bod yn cadw’ch rhif yn ddiogel, a pheidio â’i roi i neb nad oes angen iddynt wybod eich rhif. Bydd hyn yn helpu i atal twyll manylion personol – dilynwch yr ail ddolen isod i gael gwybod rhagor am ddiogelu'ch manylion personol.

Budd-daliadau’r wladwriaeth sy’n dibynnu ar gyfraniadau Yswiriant Gwladol

Mae eich hawl i gael rhai o fudd-daliadau'r wladwriaeth a faint o fudd-daliadau gewch chi yn dibynnu ar eich cofnod cyfraniadau Yswiriant Gwladol. Mewn rhai achosion, mae’n dibynnu ar gyfraniadau’ch cymar neu’ch partner sifil. Dyma rai o'r budd-daliadau hynny:

  • Pensiwn y Wladwriaeth
  • Lwfans Ceisio Gwaith sy’n seiliedig ar gyfraniadau
  • Lwfans Profedigaeth
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth sy’n seiliedig ar gyfraniadau

Ceir rhestr lawn o fudd-daliadau’r wladwriaeth sy’n dibynnu ar eich cyfraniadau yn yr erthygl ‘Yswiriant Gwladol a budd-daliadau’r wladwriaeth’.

Faint o Yswiriant Gwladol ydych chi’n ei dalu

Mae math a swm y cyfraniadau Yswiriant Gwladol rydych chi'n eu talu yn dibynnu ar faint ydych chi’n ei ennill ac a ydych chi'n gyflogedig ynteu'n hunangyflogedig. Dangosir cyfraddau blwyddyn dreth 2012-13 isod.

Os ydych chi’n gyflogedig

Os ydych chi’n gyflogedig, rydych yn talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1. Dyma’r cyfraddau:

  • os ydych chi’n ennill mwy na £146 ac i fyny at £817 yr wythnos, rydych chi’n talu 12 y cant o’r swm rydych chi'n ei ennill rhwng £146 ac £817
  • os ydych chi’n ennill mwy na £817 yr wythnos, rydych hefyd yn talu 2 y cant yn ychwanegol ar eich holl enillion dros £817

Rydych chi’n talu’r gyfradd is os ydych chi’n aelod o gynllun pensiwn contractio allan eich cyflogwr.

Bydd eich cyflogwr yn didynnu’ch cyfraniadau o'ch cyflog.

Os ydych chi’n hunangyflogedig

Os ydych chi’n hunangyflogedig, rydych yn talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 a Dosbarth 4. Dyma’r cyfraddau:

  • telir cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 ar gyfradd sefydlog o £2.65 yr wythnos
  • telir cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 4 fel canran o'ch enillion trethadwy blynyddol – 9 y cant ar elw rhwng £7,605 a £42,475, ac 2 y cant arall ar elw dros y swm hwnnw

Os disgwylir i’ch elw fod yn llai na £5,595, efallai na fydd rhaid i chi dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2.

Bydd eich taliadau cyfraniadau Yswiriant Gwladol yn daladwy ar 31 Ionawr a 31 Gorffennaf, yr un peth â bil treth Hunanasesiad. Byddwch yn talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 naill ai'n fisol neu bob chwe mis drwy Ddebyd Uniongyrchol - dilynwch y ddolen gyntaf isod am ragor o wybodaeth ynghylch dyddiadau taliadau.

Byddwch yn talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 4 pan fyddwch chi'n talu eich Treth Incwm.

Cyfraniadau Yswiriant Gwladol gwirfoddol

Gallwch dalu cyfraniadau gwirfoddol (cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 3 gan amlaf) ar raddfa sefydlog o £13.25 yr wythnos.

Caiff cyfraniadau gwirfoddol Dosbarth 3 eu talu naill ai’n fisol drwy Ddebyd Uniongyrchol neu drwy fil chwarterol. Ond os oes gennych fylchau yn eich cofnod cyfraniadau Yswiriant Gwladol, gallwch dalu cyfraniadau gwirfoddol un-tro i lenwi’r bylchau hyn.

Cyfraddau cyfraniadau Yswiriant Gwladol eraill

Mae cyfraddau eraill yn berthnasol mewn achosion penodol. Er enghraifft:

  • cyfradd is - i fenywod priod - ac i wragedd gweddw
  • cyfradd arbennig i bysgotwyr cyfran
  • cyfradd arbennig i weithwyr datblygu gwirfoddol

Pryd allech chi gael credydau Yswiriant Gwladol

Weithiau gallwch gael credydau Yswiriant Gwladol. Mae’r rhain ar gael dan amgylchiadau penodol i roi ‘credyd’ i chi ar gyfer cyfraniadau na allech eu gwneud oherwydd nad oeddech yn gallu gweithio. Gallant warchod eich hawl i gael rhai budd-daliadau, gan gynnwys Pensiwn y Wladwriaeth.

Yswiriant Gwladol a Threth Incwm

Os oes rhaid i chi dalu Yswiriant Gwladol, fel arfer bydd yn rhaid i chi dalu Treth Incwm hefyd. Ystyr Treth Incwm yw treth ar eich ‘incwm trethadwy’ sydd dros swm penodol. Ceir gwahanol gyfraddau ar gyfer Treth Incwm, gan ddibynnu ar eich incwm. Mae rhai lwfansau a gostyngiadau ar gael a all leihau'ch bil Treth Incwm.

Gwirio eich cofnod cyfraniadau Yswiriant Gwladol

Mae Cyllid a Thollau EM yn cadw cofnodion o’ch cyfraniadau Yswiriant Gwladol a delir drwy eich bywyd gweithio. Cael gwybod sut i wirio eich cofnod Yswiriant Gwladol drwy ddilyn y ddolen isod.

Os ydych yn preswylio dramor neu wedi bod tramor ac eisiau gwirio eich cofnod Yswiriant Gwladol, cysylltwch â’r Swyddfa Cyfraniadau Yswiriant Gwladol - Gweithiwr Achos Rhyngwladol drwy ddilyn y ddolen isod.

Darparwyd gan HM Revenue and Customs

Allweddumynediad llywodraeth y DU