Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Yswiriant Gwladol a budd-daliadau’r wladwriaeth

Wrth dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol, byddwch yn cynyddu'ch hawl i gael rhai o fudd-daliadau'r wladwriaeth. Mae gwahanol fathau o gyfraniadau'n cyfrif tuag at wahanol fathau o fudd-daliadau – ond, does dim cysylltiad o gwbl rhwng rhai budd-daliadau a chyfraniadau Yswiriant Gwladol. Bydd y rhestri isod yn eich helpu i weld pa fudd-daliadau sy’n dibynnu ar eich cyfraniadau, a pha rai sydd ddim yn dibynnu arnynt.

Budd-daliadau’r Wladwriaeth sy’n gysylltiedig â’ch cyfraniadau Yswiriant Gwladol

Gelwir budd-daliadau sy’n gysylltiedig â'ch cyfraniadau Yswiriant Gwladol yn ‘fudd-daliadau ar sail cyfraniadau’.

Budd-daliadau ar sail cyfraniadau

Mae cyfraniadau Yswiriant Gwladol yn cyfri tuag at y budd-daliadau canlynol:

  • Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth
  • Pensiwn ychwanegol y Wladwriaeth, a elwir weithiau'n Ail Bensiwn y Wladwriaeth
  • Lwfans Ceisio Gwaith – yr elfen 'yn seiliedig ar gyfraniadau'
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth – yr elfen 'yn seiliedig ar gyfraniadau'
  • Lwfans Mamolaeth
  • budd-daliadau profedigaeth – Lwfans Profedigaeth, Taliad Profedigaeth a Lwfans Rhiant Gweddw
  • Budd-dal Analluogrwydd

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am bob un o’r budd-daliadau uchod, gan gynnwys sut mae hawlio, drwy ddilyn y ddolen isod.

Cyfraniadau Yswiriant Gwladol – dosbarthiadau gwahanol

Mae eich hawl i gael budd-daliadau ar sail cyfraniadau – a faint allwch chi ei gael – yn dibynnu’n rhannol ar y canlynol:

  • math o gyfraniadau Yswiriant Gwladol rydych wedi’u talu (gweler y tabl isod)
  • faint o gyfraniadau Yswiriant Gwladol rydych wedi’u talu, neu wedi eu cael ar ffurf credydau

Dosbarthiadau cyfraniadau Yswiriant Gwladol, a beth maent yn talu amdano

Budd-dal

Dosbarth 1 – telir gan gyflogeion

Dosbarth 2 – telir gan bobl hunangyflogedig

Dosbarth 3 – telir gan bobl sy’n dymuno cynyddu eu cyfraniadau

Pensiwn Sylfaenol y Wladwriaeth

Ydynt

Ydynt

Ydynt

Pensiwn Ychwanegol y Wladwriaeth

Ydynt

Nac Ydynt

Nac Ydynt

Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar gyfraniadau

Ydynt

Nac Ydynt (ar wahân i bysgotwyr cyfran a gweithwyr datblygu gwirfoddol a gyflogir dramor)

Nac Ydynt

Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar Gyfraniadau

Ydynt

Ydynt

Nac Ydynt

Lwfans Mamolaeth

Ydynt

Ydynt

Nac Ydynt

Budd-daliadau profedigaeth

Ydynt

Ydynt

Ydynt

Nid yw cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 4 – a delir gan rai pobl hunangyflogedig – yn cyfrif tuag at unrhyw fudd-daliadau gan y wladwriaeth.

Nid yw cyfraniadau Dosbarth 1A a Dosbarth IB – a delir gan gyflogwyr yn unig – yn cyfrif tuag at unrhyw fudd-daliadau gan y wladwriaeth.

Effaith cyfraniadau Yswiriant Gwladol ar fudd-daliadau'r wladwriaeth – enghreifftiau

Enghraifft 1 – person hunangyflogedig sy’n talu cyfraniadau Dosbarth 2

Roedd Tom yn rhedeg ei fusnes adeiladu ei hun ac yn talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 (a Dosbarth 4). Talodd ddigon o gyfraniadau Yswiriant Gwladol yn ystod ei fywyd i gael Pensiwn sylfaenol llawn y Wladwriaeth wrth ymddeol. Ond gan ei fod yn hunangyflogedig, nid oedd yn talu unrhyw gyfraniadau Dosbarth 1. Felly ni allai hawlio Pensiwn ychwanegol y Wladwriaeth. Yn lle hynny, bu Tom yn talu i gynllun pensiwn personol.

Enghraifft 2 – cyflogai sy’n rhoi’r gorau i'w waith

Bu Marta’n gweithio fel cyfrifydd, ond rhoddodd y gorau i’w gwaith am flynyddoedd lawer. Bu'n talu cyfraniadau Dosbarth 1 pan oedd yn gweithio, ac roedd am wneud yn siŵr y byddai wedi talu digon i gael Pensiwn sylfaenol llawn y Wladwriaeth pan fyddai'n ymddeol. Felly dewisodd dalu cyfraniadau Dosbarth 3 pan nad oedd yn gweithio er mwyn gwarchod ei hawl i gael pensiwn. Dilynwch y ddolen gyntaf isod i gael gwybod faint o flynyddoedd cymhwyso sydd eu hangen arnoch er mwyn cael Pensiwn sylfaenol llawn y Wladwriaeth.

Enghraifft 3 – cyflogai sy’n gweithio gydol ei oes

Cafodd Bleddyn ei gyflogi fel tirmon drwy gydol ei fywyd gwaith. Talodd ddigon o gyfraniadau Dosbarth 1 yn ystod y cyfnod hwn i gael Pensiwn sylfaenol llawn y Wladwriaeth, yn ogystal â Phensiwn ychwanegol y Wladwriaeth pan fyddai’n ymddeol.

Budd-daliadau’r Wladwriaeth sydd ddim yn gysylltiedig â’ch cyfraniadau Yswiriant Gwladol

Nid yw rhai o fudd-daliadau’r Wladwriaeth yn gysylltiedig â’ch cyfraniadau Yswiriant Gwladol. Gelwir y budd-daliadau hyn yn ‘fudd-daliadau anghyfrannol’. Gallwch fod yn gymwys i gael y budd-daliadau hyn p’un ai a ydych wedi talu (neu gael credydau) unrhyw gyfraniadau Yswiriant Gwladol ai peidio.

Dyma rai o fudd-daliadau'r wladwriaeth y gallwch eu cael hyd yn oed os nad ydych wedi talu unrhyw gyfraniadau Yswiriant Gwladol:

  • Budd-dal Plant
  • Lwfans Gwarcheidwad
  • Lwfans Ceisio Gwaith – yr elfen 'yn seiliedig ar incwm'
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth – yr elfen 'yn gysylltiedig ag incwm'
  • Credyd Treth Gwaith a Chredyd Treth Plant
  • Lwfans Gweini neu Lwfans Byw i’r Anabl
  • Lwfans Gofalwr
  • Lwfans Anabledd Difrifol
  • Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol
  • Pensiwn Rhyfel Gwraig Weddw neu Ŵr Gweddw
  • Credyd Pensiwn

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y budd-daliadau hyn ac am fudd-daliadau anghyfrannol eraill, gan gynnwys sut mae hawlio, drwy ddilyn y ddolen isod.

Credydau Yswiriant Gwladol a budd-daliadau’r wladwriaeth

Weithiau gellir talu credydau Yswiriant Gwladol ar eich rhan ar gyfer eich cofnod cyfraniadau. Gall credydau Yswiriant Gwladol warchod eich hawl i gael Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth a rhai budd-daliadau eraill.

Er enghraifft, efallai y gallwch gael credydau Yswiriant Gwladol ar gyfer cyfnodau pan na allwch chi weithio - oherwydd eich bod yn sâl efallai - neu os byddwch chi’n ddi-waith.

Ceir rhagor o wybodaeth yn ein canllaw ar gredydau Yswiriant Gwladol.

Beth i'w wneud os gwrthodir rhoi budd-dal sy’n seiliedig ar gyfraniadau i chi

Pan fyddwch chi'n gwneud cais am fudd-dal yn seiliedig ar gyfraniadau, mae’n bosib na chewch chi'r budd-dal os nad yw’n ymddangos eich bod wedi talu digon o gyfraniadau Yswiriant Gwladol.

Os digwydd hyn, gallwch ofyn i’ch swyddfa Canolfan Byd Gwaith (swyddfa Nawdd Cymdeithasol neu Swyddfa Swyddi a Budd-daliadau yng Ngogledd Iwerddon) ailystyried y penderfyniad.

Mae’n aml yn ddefnyddiol i chi ddarllen eich 'datganiad cyfrifon' Yswiriant Gwladol. Bydd y datganiad hwn yn dweud wrthych:

  • faint o gyfraniadau Yswiriant Gwladol rydych wedi'u talu bob blwyddyn
  • faint o gredydau Yswiriant Gwladol rydych wedi'u cael bob blwyddyn

Cael gwybod sut i gael datganiad cyfrifon drwy ddilyn y ddolen gyntaf isod.

Allweddumynediad llywodraeth y DU