Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Credydau Yswiriant Gwladol

Os nad ydych yn talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol oherwydd, er enghraifft, ni allwch weithio o ganlyniad i salwch neu rydych yn gofalu am rywun, efallai y gallwch gael credydau Yswiriant Gwladol. Mae credydau yn gallu helpu i gynnal eich cofnod o Yswiriant Gwladol ac felly diogelu eich hawl i Bensiwn Sylfaenol y Wladwriaeth a budd-daliadau penodol eraill gan y wladwriaeth.

Beth yw credydau Yswiriant Gwladol?

Mae dau fath o gredydau Yswiriant Gwladol:

  • Credydau dosbarth 1 - sy'n cyfrif tuag at eich hawl i gael Pensiwn Sylfaenol y Wladwriaeth, budd-daliadau profedigaeth a rhai o fudd-daliadau eraill y wladwriaeth
  • Credydau dosbarth 3 - sy'n cyfrif tuag at eich hawl i gael Pensiwn Sylfaenol y Wladwriaeth a budd-daliadau profedigaeth yn unig

Yr effaith ar Bensiwn y Wladwriaeth a budd-daliadau eraill

Os ydych yn cael credydau Yswiriant Gwladol cânt eu hychwanegu at unrhyw gyfraniadau Yswiriant Gwladol rydych eisoes wedi'u talu ar gyfer y flwyddyn dreth. Mae'r ddau'n cyfrif tuag at eich Pensiwn Sylfaenol y Wladwriaeth, eich budd-daliadau profedigaeth neu eich budd-daliadau'r wladwriaeth eraill (Credydau dosbarth 1 yn unig). Fel arfer ni chaiff credydau Yswiriant Gwladol eu dyfarnu os ydych eisoes wedi talu digon o gyfraniadau yn y flwyddyn dreth i fod yn gymwys i gael y budd-daliadau hyn.

Pwy sy’n gymwys i gael credydau Yswiriant Gwladol?

Gallech gael credydau o dan amgylchiadau gwahanol, sef:

  • os ydych yn ddi-waith, neu'n methu â gweithio am eich bod yn sâl, ac yn hawlio budd-daliadau penodol
  • os oeddech chi rhwng 16 a 18 oed cyn 6 Ebrill 2010, gan amlaf roeddech chi’n cael eich credydu yn awtomatig â chyfraniadau Yswiriant Gwladol - ni ellir gwneud dyfarniadau newydd o 6 Ebrill 2010
  • os ydych ar gwrs hyfforddi cymeradwy
  • yn ystod gwasanaeth rheithgor
  • os ydych yn cael Tâl Mabwysiadu Statudol, Tâl Mamolaeth Statudol, Tâl Tadolaeth Statudol Ychwanegol, Tâl Salwch Statudol, Lwfans Mamolaeth neu Gredyd Treth Gwaith
  • os ydych wedi cael eich carcharu ar gam
  • os ydych yn ddyn sy'n dynesu at 65 oed (fodd bynnag, o 6 Ebrill 2010 caiff y credydau hyn eu diddymu'n raddol yn unol â'r cynnydd yn oedran Pensiwn y Wladwriaeth i ferched)
  • os ydych yn gofalu am blentyn neu rywun sy'n sâl neu'n anabl
  • os yw eich gŵr neu'ch gwraig neu'ch partner sifil yn aelod o luoedd Ei Mawrhydi ac rydych yn mynd gydag ef neu hi ar aseiniad y tu allan i'r DU

I gael gweld o dan ba amodau y gallech gael credydau a pha fath o gredydau y gallech ei gael gweler yr adran 'Credydau Yswiriant Gwladol mewn sefyllfaoedd gwahanol' isod.

Mae trefniadau arbennig ar gael ar gyfer pobl a oedd yn gweithio yn Irac neu a oedd wedi'u cadw heb dâl yno yn ystod Argyfwng y Gwlff. Os credwch fod hyn yn effeithio arnoch, ysgrifennwch i Gyllid a Thollau EM yn:

HM Revenue & Customs
National Insurance Contributions & Employer Office
Benton Park View
Newcastle upon Tyne
NE98 1ZZ

Credydau Yswiriant Gwladol mewn sefyllfaoedd gwahanol

Bydd y math o gredydau Yswiriant Gwladol a gewch yn dibynnu ar eich amgylchiadau unigol. Bydd yn rhaid i chi fodloni amodau penodol i gael y credydau.

Os ydych wedi bod yn hawlio budd-daliadau neu'n gofalu am berson sâl neu anabl

Gallwch hefyd gael credydau Yswiriant Gwladol am unrhyw wythnosau y buoch yn hawlio budd-daliadau megis:

  • Lwfans Gofalwr
  • Budd-dal Analluogrwydd neu Lwfans Cyflogaeth a Chymorth
  • Lwfans Ceisio Gwaith

Os ydych yn gofalu am berson sâl neu anabl gallwch gael credydau Yswiriant Gwladol am unrhyw wythnosau lle rydych wedi gofalu amdano am 20 awr yr wythnos neu fwy. Mae'n rhaid bod y person rydych yn gofalu amdano yn cael elfen ofal Lwfans Byw i’r Anabl ar y gyfradd ganol neu'r uchaf, Lwfans Gweini neu Lwfans Gweini Cyson, neu fod yn gymwys i gael Tystysgrif Gofal. Cewch fwy o wybodaeth drwy ddilyn y dolenni isod.

Os byddwch yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth ar neu ar ôl 6 Ebrill 2010 ac roeddech yn cael Diogelwch Cyfrifoldebau Cartref

Disodlwyd y Diogelwch Cyfrifoldebau Cartref gan gredydau Yswiriant Gwladol newydd i rieni a gofalwyr o 6 Ebrill 2010.

Os byddwch yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth ar neu ar ôl 6 Ebrill 2010, caiff y blynyddoedd cyflawn o Ddiogelwch Cyfrifoldebau Cartref rydych wedi'u cronni (hyd at uchafswm o 22) eu newid yn gredydau Yswiriant Gwladol Dosbarth 3.

Credydau ar gyfer oedolion penodol sy’n gofalu am blentyn dan 12 oed

Mae credydau cyfraniadau Yswiriant Gwladol newydd wedi cael eu cyflwyno gan y llywodraeth o’r flwyddyn dreth 2011-12. Mae’n bosib y gallech gael y credydau hyn os ydych yn gofalu am aelod o’r teulu o dan 12 oed ac rydych chi’n oedolyn o dan oedran Pensiwn y Wladwriaeth.

Mae’r credydau hyn yn cyfri tuag at Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth a Budd-daliadau Profedigaeth penodol.

Os hoffech wneud cais am y credydau hyn nid oes angen i chi wneud unrhywbeth eto. Caiff wybodaeth pellach ei darparu ym mis Medi 2012.

Sefyllfaoedd eraill pryd y gallech fod yn gymwys i gael credydau Yswiriant Gwladol

Eich amgylchiadau - os ydych: Y math o gredydau y byddwch yn ei gael

Y prif amodau i'w bodloni

Rhwng 16 a 18 oed

Credydau dosbarth 3

Os oeddech chi rhwng 16 a 18 oed cyn 6 Ebrill 2010, gan amlaf roeddech chi’n cael eich credydu yn awtomatig â chyfraniadau Yswiriant Gwladol. Ni ellir gwneud dyfarniadau newydd o 6 Ebrill 2010.

Ar gwrs hyfforddi

Credydau dosbarth 1

Mae'n rhaid eich bod dros 18 oed ac ar gwrs amser llawn (fel arfer mwy nag 20 awr yr wythnos) cymeradwy y disgwylir iddo bara am lai na blwyddyn. Ni ddylai'r cwrs fod yn rhan o'ch swydd ac nid yw cyrsiau TGAU, Safon Uwch na chyrsiau cyfatebol yn cyfrif. Mae rheolau arbennig yn gymwys os ydych yn anabl.

Ar wasanaeth rheithgor

Credydau dosbarth 1

Mae'n rhaid eich bod wedi mynychu'r llys a naill ai nid ydych yn gweithio neu rydych yn gyflogedig ond mae eich enillion yn rhy isel i chi orfod talu cyfraniadau. Os ydych yn hunangyflogedig tra eich bod ar wasanaeth rheithgor ni allwch gael credydau.

Wedi cael eich carcharu ar gam

Credydau dosbarth 1

Mae'n rhaid i'r Llys Apêl ddiddymu eich dedfryd.

I ffwrdd o'r gwaith ac yn cael Tâl salwch statudol neu Dâl Mamolaeth Statudol, Tâl Tadolaeth Statudol Ychwanegol neu Dâl Mabwysiadu Statudol

Credydau dosbarth 1

Mae'n rhaid eich bod wedi cael un o'r mathau hyn o daliadau ac nid yw eich enillion ar gyfer y flwyddyn dreth yn ddigon i olygu bod y flwyddyn yn 'flwyddyn gymhwyso' at ddibenion Pensiwn y Wladwriaeth.

Yn cael Credyd Treth Gwaith neu elfen anabl y Credyd Treth Gwaith

Credydau dosbarth 3 (Credyd Treth Gwaith) neu Gredydau dosbarth 1 (elfen anabl Credyd Treth Gwaith)

Mae'n rhaid eich bod yn cael Credyd Treth Gwaith neu elfen anabl y Credyd Treth Gwaith. Os ydych yn hunangyflogedig ac yn cael Credyd Treth Gwaith neu elfen anabl y Credyd Treth Gwaith mae'n rhaid i chi hefyd feddu ar Dystysgrif Eithriad Enillion Bach - dilynwch y drydedd ddolen isod.

Dyn sy'n dynesu at 65 oed

Credydau dosbarth 1

Mae'n rhaid eich bod naill ai ddim yn gweithio, neu ddim yn ennill digon i wneud y flwyddyn yn 'flwyddyn gymhwyso' at ddibenion Pensiwn y Wladwriaeth. Os ydych yn hunangyflogedig, mae'n rhaid i chi feddu ar Dystysgrif Eithriad Enillion Bach - dilynwch y drydedd ddolen isod. Mae'n rhaid eich bod yn byw yn y DU am o leiaf 183 diwrnod yn y flwyddyn dreth. O fis Ebrill 6 ymlaen, caiff y credydau

Gofalu am blentyn

Credydau dosbarth 3

Mae'n rhaid eich bod yn 16 oed neu'n hŷn, yn iau nac oedran Pensiwn y Wladwriaeth ac yn cael Budd-dal Plant ar gyfer plentyn o dan 12 oed ac mae'n rhaid i chi fod yn ofalwr maeth cymeradwy neu'n ofalwr sy'n berthynas.

Mynd gyda gŵr neu wraig neu bartner sifil sy'n aelod o luoedd Ei Mawrhydi ar aseiniad y tu allan i'r DU

Credydau dosbarth 1

Mae'n rhaid i chi fod ar aseiniad atodol y tu allan i'r DU a naill ai'n briod neu mewn partneriaeth sifil ag aelod o luoedd Ei Mawrhydi.



I gael mwy o wybodaeth am yr amodau y mae'n rhaid i chi eu bodloni i fod yn gymwys i gael y credydau hyn, ffoniwch y Swyddfa Cyfraniadau Yswiriant Gwladol drwy ddilyn y ddolen gyntaf isod.

Pwy sydd ddim yn gymwys i gael credydau Yswiriant Gwladol?

Fel arfer ni allwch gael credydau Yswiriant Gwladol yn yr amgylchiadau canlynol:

Rydych yn wraig briod (ond ddim yn wraig weddw)

Rydych yn wraig briod (ond ddim yn wraig weddw) ac yn meddu ar 'Dystysgrif Dewis Cyfradd Is i Wragedd Priod’ - ac eithrio mewn amgylchiadau penodol, er enghraifft os ydych wedi cael eich carcharu ar gam neu rydych yn gofalu am blentyn neu rywun sy'n sâl neu'n anabl. Cewch fwy o wybodaeth am wragedd priod, gwragedd gweddw a chyfradd is Yswiriant Gwladol drwy ddilyn y ddolen gyntaf isod.

Rydych wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth cyn 6 Ebrill 2010

Rydych wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth cyn 6 Ebrill 2010 ac nid oeddech yn gallu gweithio oherwydd eich bod gartref yn gofalu am blentyn neu rywun a oedd yn sâl neu'n anabl, ac nid oeddech yn cael Lwfans Gofalwr. Ond efallai eich bod wedi cael Diogelwch Cyfrifoldebau Cartref yn lle hynny - dilynwch yr ail ddolen isod i ddarllen mwy.

Fel arfer ni fydd angen credydau Yswiriant Gwladol arnoch pan ddisgwylir i chi dalu cyfraniadau Dosbarth 1 neu 2. Rydych yn talu cyfraniadau Dosbarth 1 os ydych yn gyflogai a chyfraniadau Dosbarth 2 os ydych yn hunangyflogedig.

Sut i cael credydau Yswiriant Gwladol

Byddwch yn cael credydau Yswiriant Gwladol yn awtomatig mewn rhai sefyllfaoedd. Os na fyddwch yn eu cael, bydd angen i chi wneud cais amdanynt.

Bod yn gymwys am gredydau Yswiriant Gwladol yn awtomatig

Byddwch yn cael credydau Yswiriant Gwladol yn awtomatig:

  • os ydych yn cael budd-daliadau penodol fel Lwfans Cyflogaeth a Chymorth neu Lwfans Gofalwr
  • os ydych yn ddyn sy'n dynesu at 65 oed - gweler yr adran 'Credydau Yswiriant Gwladol mewn sefyllfaoedd gwahanol'
  • am y blynyddoedd treth pan fyddwch yn troi'n 16, yn 17 ac yn 18 oed, os ydych yn bodloni'r amodau - gweler yr adran 'Credydau Yswiriant Gwladol mewn sefyllfaoedd gwahanol' (ni wneir dyfarniadau dechrau credydau newydd ar gyfer unrhyw un sy'n 16 ar neu ar ôl 5 Ebrill 2010 mwyach)
  • os ydych yn cael Budd-dal Plant ar gyfer plentyn o dan 12 oed
  • os ydych yn cael Cymhorthdal Incwm ac yn gofalu am berson sâl neu anabl

Gallwch gael mwy o wybodaeth am fod yn gymwys am gredydau yn yr adran uchod ar gredydau Yswiriant Gwladol mewn sefyllfaoedd gwahanol.

Gwneud cais am gredydau os nad ydych yn eu cael yn awtomatig

Os ydych o'r farn y dylech fod yn cael credydau Yswiriant Gwladol oherwydd eich bod yn hawlio budd-daliadau neu'n gofalu am berson sâl neu anabl gallwch ganfod beth i'w wneud drwy ddilyn y ddolen isod.

Os ydych yn hawlio credydau am ofalu am blentyn yna gallwch wneud cais gan ddefnyddio Ffurflen gais CF411A ar gyfer credydau i rieni a gofalwyr drwy ddilyn y ddolen isod. Os ydych yn ofalwr maeth cymeradwy neu'n ofalwr sy'n berthynas, bydd angen i chi anfon llythyr yn cadarnhau hynny gyda'ch ffurflen gais. Gallwch gael llythyr cadarnhad gan yr awdurdod lleol neu'r asiantaeth faethu lle rydych wedi eich cofrestru.

Os ydych o'r farn y dylech gael unrhyw un o'r credydau Yswiriant Gwladol eraill a ddangosir ar y tabl ond nid ydych yn ei gael yn awtomatig bydd angen i chi wneud cais ysgrifenedig i Gyllid a Thollau EM ar ôl diwedd y flwyddyn dreth.
Anfonwch eich cais i:

Cyllid a Thollau EM (HM Revenue & Customs)
National Insurance Contributions & Employer Office
Benton Park View
Newcastle upon Tyne
NE98 1ZZ

Os ydych yn gwneud cais am gredydau oherwydd bod eich gŵr, eich gwraig neu'ch partner sifil yn aelod o luoedd Ei Mawrhydi ac rydych yn mynd gydag ef neu hi ar aseiniad y tu allan i'r DU, bydd angen i'ch Swyddog Teuluoedd neu eich Swyddog Lles lofnodi a stampio eich cais.

Sicrhau eich bod yn cael credydau Yswiriant Gwladol

Gallwch sicrhau bod credydau Yswiriant Gwladol wedi'u cofnodi ar eich cofnod Yswiriant Gwladol drwy wneud y canlynol:

  • gofyn am ddatganiad o’ch cyfrif Yswiriant Gwladol – cewch wybod sut i gael datganiad cyfrif drwy ddilyn y ddolen gyntaf isod
  • cysylltu â'ch Canolfan Byd Gwaith yn lleol (swyddfa Nawdd Cymdeithasol neu Swyddi a Budd-daliadau yng Ngogledd Iwerddon) i gael gwybodaeth am gredydau ar gyfer budd-daliadau'r wladwriaeth fel Lwfans Cyflogaeth a Chymorth

Os ydych yn ystyried talu cyfraniadau gwirfoddol

Os ydych yn ystyried talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol gwirfoddol, peidiwch ag anghofio unrhyw gredydau awtomatig rydych eisoes wedi'u cael o bosibl.

Gallwch gael mwy o wybodaeth i'ch helpu i benderfynu ynghylch talu cyfraniadau gwirfoddol drwy ddilyn y ddolen isod

Darparwyd gan HM Revenue and Customs

Allweddumynediad llywodraeth y DU