Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Gofalu a’ch pensiwn

Os nad ydych yn gallu gweithio neu ddim yn ennill digon i dalu Cyfraniadau Yswiriant Gwladol am eich bod yn gofalu am rywun, mae’n bosib y byddwch dal yn cael eich credydu â chyfraniadau Yswiriant Gwladol. Os ydych yn 60 oed neu drosodd, mae’n bosib y byddwch yn cael Credyd Pensiwn ychwanegol.

Pensiwn y Wladwriaeth

Mae dwy ran i Bensiwn y Wladwriaeth: pensiwn sylfaenol unffurf a phensiwn ychwanegol sy'n seiliedig ar enillion, a elwir hefyd yn Ail Bensiwn y Wladwriaeth.

Bydd eich hawl i Bensiwn y Wladwriaeth yn dibynnu ar sawl 'blwyddyn gymwys', sef blynyddoedd treth, yr ydych wedi eu talu, neu'n cael eich trin fel petaech wedi'u talu neu'n cael eich credydu gyda chyfraniadau Yswiriant Gwladol.

Bydd nifer y blynyddoedd cymwys y bydd eu hangen arnoch fel arfer er mwyn bod yn gymwys ar gyfer cael Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth yn llawn yn cyfateb i ryw 90 y cant o'ch oes gweithio - a gyfrifir o ddechrau'r flwyddyn dreth pan gawsoch eich pen-blwydd yn 16 i ddiwedd y flwyddyn dreth cyn y flwyddyn y byddwch yn cyrraedd oed Pensiwn y Wladwriaeth.

Pensiwn ychwanegol y Wladwriaeth

Os nad ydych yn ennill digon i dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol, gallwch ddal gronni hawl i dderbyn Ail Bensiwn y Wladwriaeth, a elwir hefyd yn Bensiwn y Wladwriaeth ychwanegol, dan yr amgylchiadau canlynol:

  • os ydych yn gymwys ar gyfer Diogelwch Cyfrifoldebau Cartref, neu
  • os oes gennych hawl i gael Lwfans Gofalwr, hyd yn oed os nad ydych yn ei dderbyn oherwydd eich bod yn cael budd-dal arall sy'n talu'r un faint neu fwy
  • os ydych yn cael Budd-dal Plant ar gyfer plentyn dan 6

Lwfans Gofalwr a chyfraniadau Yswiriant Gwladol

Ar gyfer pob wythnos y byddwch yn derbyn Lwfans Gofalwr, fel arfer bydd cyfraniad Yswiriant Gwladol (YG) yn cael ei gredydu i'ch cofnod YG (oni bai eich bod yn ferch sydd wedi dewis talu cyfraniadau YG ar gyfradd is).

Hefyd, byddwch fel arfer yn cael eich credydu gyda chyfraniad YG am unrhyw wythnos pan fydd gennych hawl i gael Lwfans Gofalwr ond nad yw'n cael ei dalu am eich bod hefyd yn cael Budd-dal Gwraig Weddw neu Fudd-daliadau Profedigaeth ar yr un gyfradd wythnosol neu ar gyfradd uwch.

Amddiffyn Cyfrifoldebau Cartref

Gall Amddiffyn Cyfrifoldebau Cartref ddiogelu eich hawl i Bensiwn y Wladwriaeth os ydych yn gofalu am rywun ac nad oes gennych ddigon o gyfraniadau neu gredydau Yswiriant Gwladol mewn blwyddyn dreth benodol.

Fe ddylech chi gael Amddiffyn Cyfrifoldebau Cartref yn awtomatig os bydd yr amgylchiadau canlynol yn wir drwy gydol blwyddyn dreth gyfan:

  • os ydych yn cael Cymhorthdal Incwm ac nad oes rhaid i chi gofrestru ar gyfer gwaith am eich bod yn gofalu am rywun sy'n sâl neu'n anabl, neu
  • os ydych yn derbyn Budd-dal Plant ar gyfer plentyn dan 16

Os ydych yn gofalu am rywun sy'n sâl neu'n anabl ac nad ydych yn cael Cymhorthdal Incwm na Budd-dal Plant, bydd angen i chi wneud cais ar gyfer pob blwyddyn dreth y bydd angen Amddiffyn Cyfrifoldebau Cartref arnoch. Os oes gennych chi hawl i gael Lwfans Gofalwr, cewch eich credydu gyda chyfraniadau Yswiriant Gwladol yn awtomatig ac ni fydd angen Amddiffyn Cyfrifoldebau Cartref arnoch.

Newidiadau i ofalwyr a rhieni o Ebrill 2010

Bydd Amddiffyn Cyfrifoldebau Cartref yn cael ei ddisodli ar gyfer pobl sy’n cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth ar neu ar ôl 6 Ebrill 2010.

O 6 Ebrill 2010, bydd gofalwyr a rhieni yn gallu cronni blynyddoedd cymwys drwy gredydau wythnosol newydd ar gyfer Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth a Phensiwn ychwanegol y Wladwriaeth. Os ydych chi’n ofalwr neu’n rhiant, byddwch yn cael credyd ar gyfer pob wythnos y bydd unrhyw o’r canlynol yn gymwys:

  • yr ydych chi’n gofalu am o leiaf 20 awr yr wythnos am rywun sy’n cael Lwfans Gweini, Lwfans Gweini Cyson neu’r gyfradd ganol neu’r gyfradd uchaf o’r elfen gofal o’r Lwfans Byw i’r Anabl, neu mae’r angen am ofal wedi’i ardystio
  • yr ydych chi’n derbyn Budd-dal Plant am blant dan 12 oed
  • yr ydych yn ofalwr maeth cymeradwy

Mae peth o’r manylion ynghylch y newid hwn yn darostwng i gymeradwyaeth llywodraethol pellach.

Ni fydd terfyn i nifer y blynyddoedd y gallwch gael credydau, ar yr amod eich bod yn cyrraedd y rheolau cymhwyso.

Os ydych yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth ar neu ar ôl 6 Ebrill 2010, bydd y blynyddoedd cyflawn o Amddiffyn Cyfrifoldebau Cartref yr ydych chi wedi cronni cyn 2010 yn cael eu trosi i flynyddoedd cymwys i fyny at uchafswm o 22 mlynedd.

Bydd y blynyddoedd cymwys hyn yn cyfri tuag at fudd-daliadau profedigaeth hefyd.

Derbyn Lwfans Gofalwr a Phensiwn y Wladwriaeth

Os ydych yn derbyn Lwfans Gofalwr a'ch bod yn dechrau derbyn Pensiwn y Wladwriaeth ar gyfradd uwch na'r Lwfans Gofalwr, mae'n bosib na fyddwch yn derbyn rhagor o Lwfans Gofalwr ond byddwch yn parhau i fod â 'hawl waelodol' iddo. Efallai y byddwch dal ar eich elw os byddwch yn parhau i hawlio Lwfans Gofalwr. Am fwy o wybodaeth am hyn, gweler 'Lwfans Gofalwr - yr effaith ar fudd-daliadau a hawliadau eraill'.

Credyd Pensiwn

Hawl yw Credyd Pensiwn ar gyfer pobl 60 oed neu'n hwn sy'n byw yng Ngwledydd Prydain. Gall godi'ch incwm wythnosol at isafswm gwarantedig. Os ydych chi'n 65 oed neu'n hwn ac wedi cynilo tuag at eich ymddeoliad gallech dderbyn arian ychwanegol ar ben hyn.

Efallai y gallech hefyd gael arian ychwanegol os oes gennych chi neu'ch partner (os oes gennych un) gyfrifoldebau gofalu, eich bod yn ddifrifol anabl neu fod gennych gostau eraill sy'n ymwneud â'ch cartref, fel morgais, er enghraifft.

O 6 Ebrill 2010, bydd oedran Pensiwn y Wladwriaeth i ferched yn dechrau cynyddu’n raddol o’r oedran Pensiwn y Wladwriaeth bresennol sef 60 oed. Bydd yr oedran pryd y gall pobl derbyn Pensiwn Credyd yn cynyddu yn unol â hyn.

Additional links

Cynghorydd budd-daliadau ar-lein

Cael cyngor am fudd-daliadau drwy ddefnyddio’r offeryn rhyngweithiol hwn i ateb cwestiynau am eich sefyllfa

Cysylltiadau defnyddiol

Allweddumynediad llywodraeth y DU